Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn cyfrannu at arlwy Gŵyl AmGen

Roedd disgwyl i wythnos gyntaf mis Awst fod yn un brysur i Dregaron eleni, ond gan na fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal yno bellach, mae’r Eisteddfod wedi lansio Gŵyl AmGen 2020 - prosiect a fydd yn rhoi blas ar y Brifwyl i bobl rhwng 30 Gorffennaf ac 8 Awst, a’r cyfan ar gael ar S4C, Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw.

Ymhlith digwyddiadau’r wythnos, mae Academi Hywel Teifi yn cynnal sesiynau amrywiol ym Mhabell y Cymdeithasau, y Babell Wyddoniaeth a’r Babell Lên.

Dydd Llun 3 Awst, 11am, Pabell y Cymdeithasau - Safbwyntiau ar Gymru - Dinasyddiaeth a Hunaniaeth

Trafodaeth yn deillio o waith ysgolheigion Prifysgol Abertawe sy’n rhan o gyfres ‘Safbwyntiau’ Gwasg Prifysgol Cymru - gyda Dr Gwennan Higham o Adran y Gymraeg, Dr Simon Brooks o Academi Morgan, yr Athro Daniel Williams o Ganolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, a Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Dyfodol, Delyth Jewell AS.

Dydd Mercher 5 Awst, 11am, Pabell y Cymdeithasau - Prifysgol wedi’r Pandemig

Trafodaeth ar rôl a gwaith prifysgolion yn y 'normal newydd' a'r effaith ar sefydliadau Cymru ac addysg cyfrwng Cymraeg – gyda Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Alpha Evans o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon, yn cadeirio.

Dydd Iau 6 Awst, Y Babell Lên, 11am – Cofio Hywel Teifi

Ddegawd ers colli’r Athro Hywel Teifi Edwards a sefydlu Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yn ei enw, cyfle i gloriannu ei gyfraniad unigryw i ysgolheictod a diwylliant Cymru ac i fwynhau ei ddoniau fel darlithydd drwy ail-wylio clipiau o archif y Llyfrgell Genedlaethol yng nghwmni’r Athro Geraint H Jenkins, Cymrawd er Anrhydedd Prifysgol Abertawe, yr Athro M. Wynn Thomas, yr Arglwydd Dafydd Wigley, a chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Dr Gwenno Ffrancon.

Dydd Iau 6 Awst, 4pm, Y Babell Wyddoniaeth – Cyfraniad Cymru i Guro Covid

Sgwrs amserol gan Dr Angharad Puw Davies, arbenigwr ar afiechydon heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ar gyfraniadau gwyddonwyr a phoblogaeth Cymru i’r gwaith o fynd i’r afael â coronafeirws a’r heriau sy’n ein hwynebu wrth geisio atal y pandemig.

Gwener 7 Awst, 1pm, Pabell y Cymdeithasau - Byd Natur a Covid

Sgwrs rhwng y naturiaethwr a chymrawd er anrhydedd Prifysgol Abertawe Iolo Williams a'r Athro Siwan Davies, Pennaeth Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe ac arbenigwr rhyngwladol ar newid hinsawdd. Trafodaeth amserol am effaith y pandemig ar ein hymwneud â byd natur a sut mae byd natur wedi ymateb i'r newidiadau cymdeithasol anferthol sydd wedi digwydd yn sgil y feirws.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: "Mae'r Academi yn falch iawn o gyfrannu yn ôl ei harfer i arlwy'r Eisteddfod Genedlaethol, a’i chefnogi yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae'r Eisteddfod AmGen wedi bod yn falm i ni i gyd dros yr wythnosau diwethaf a bydd hi'n hyfryd cael cyfrannu amrywiaeth o drafodaethau sy'n adlewyrchu ystod arbenigedd yr academyddion cyfrwng Cymraeg sydd ar staff Prifysgol Abertawe.

“Bydd hefyd yn gyfle i nodi deng mlynedd ers colli'r Athro Hywel Teifi Edwards, ac rwy'n gwahodd pawb i ymuno â'n sesiwn arbennig yn y Babell Lên i gofio am ei gyfraniad unigryw i'n cenedl ac i fwynhau gwylio clipiau ohono yn ei anterth, o archif yr Eisteddfod, yn traethu yn ei ffordd ddihafal ei hun."

Rhannu'r stori