Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae'r llun yn dangos samplau'n cael eu rhoi i mewn i allgyrchydd, offeryn a ddefnyddir i wahanu elfennau samplau.

Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd ar gyfer canfod llygryddion sy'n deillio o gynhyrchion fferyllol cyffredin fel paracetamol, ibuprofen ac asbrin, a chael gwared arnynt yn gyflym, a allai leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Dim ond menywod sydd yn y tîm o fiocemegwyr o'r Ysgol Feddygaeth sydd wedi cyhoeddi'r ymchwil – mewn cydweithrediad â Biotage, cwmni rhyngwladol sydd â safle yn Ystrad Mynach – yn Analytical Science Advances. Mae'r ymchwil yn amlinellu sut mae'r tîm wedi llwyddo i ddatblygu proses unigol ar gyfer gwahanu a mesur amrywiaeth eang o gynhyrchion fferyllol a chemegion gwahanol a geir mewn nwyddau gofal personol yn ystafelloedd ymolchi pawb a all gyrraedd slwtsh dŵr gwastraff a phlasma gwaed. Bydd y dull newydd yn cyflymu ein dealltwriaeth ynghylch pa lygryddion a gaiff eu rhyddhau, a gallai helpu i leihau eu heffaith negyddol ar yr amgylchedd ehangach.

Meddai'r awdur cyntaf, Dr Rachel Townsend: “Yn achos llawer o bobl, nid ydynt yn meddwl am yr hyn sy'n digwydd i'r cyffuriau hyn ar ôl iddynt eu cymryd. Fel unrhyw fwyd, ar ôl i gyffur gael ei gymryd, mae'r corff yn ei ysgarthu ac yn y diwedd mae'n cyrraedd cyfleuster ar gyfer trin dŵr gwastraff. 

“Y gred oedd bod cynhyrchion fferyllol yn cael eu diraddio yn ystod y broses o'u trin, ond mae ymchwil wedi dangos nad yw hynny'n wir. Ac, wrth gwrs, mae hyn yn achosi problem wrth i'r gwastraff dŵr sydd wedi'i drin gael ei ryddhau i mewn i gyrsiau dŵr megis afonydd a nentydd, ac i 80% o'r slwtsh sydd wedi'i drin hefyd gael ei ailgylchu ar dir amaethyddol fel gwrtaith ac ar gnydau bwyd y dyfodol o bosib.” 

Bu adroddiadau byd-eang am effeithiau niweidiol cynhyrchion fferyllol ar fyd anifeiliaid. Er enghraifft, mae diclofenac, sy'n gyffur gwrthlidiol ansteroidaidd, wedi peryglu sawl rhywogaeth o fwltur yn ddifrifol yn Asia, ac mae poblogaethau'r fwltur pengoch a'r fwltur pigyn hir o India wedi lleihau rhwng 97 a 99%. Mae'r bilsen atal cenhedlu i fenywod wedi benyweiddio pysgod gwryw, gan achosi i boblogaethau leihau'n gyflym dros ddwy flynedd. Ceir pryderon hefyd y gallai slwtsh a ddefnyddir ym maes amaethyddiaeth effeithio ar iechyd pobl. 

Mae'r tîm wedi arloesi un broses sy'n defnyddio dull paratoi samplau, o'r enw QuEChERS, sy'n datgelu drwy sbectromedr màs. Gan ddefnyddio'r broses hon, gwnaethant lwyddo i ddatgelu, echdynnu a mesur amrywiaeth o gyfansoddion fferyllol a nwyddau gofal personol o amrywiaeth o ffynonellau, megis slwtsh dŵr gwastraff. Yn flaenorol, roedd yn rhaid defnyddio sawl dull echdynnu, gan wneud y broses newydd yn fwy effeithlon o ran yr amser a'r adnoddau y mae eu hangen.

Gallai ymchwilwyr wedyn gael darlun cliriach o'r ffactorau sy'n rheoli sut mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn datblygu ac yn lledaenu yn y gymuned, a gall yr wybodaeth hon helpu i ddiogelu ansawdd dŵr, yr amgylchedd ac iechyd.

Bydd y canlyniadau bellach yn helpu i lywio'r Rhaglen Ymchwilio i Gemegolion, sef menter ymchwil Brydeinig sy'n cyfrannu at Gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer rheoli'r amgylchedd. Gyda digon o waith ymchwil a data, gellir gwneud newidiadau i'r broses o drin dŵr gwastraff er mwyn sicrhau bod y llygryddion cyffredin hyn yn cael eu diraddio neu eu gwaredu yn y gobaith o atal unrhyw effaith bellach ar yr amgylchedd ehangach a sicrhau nad effeithir ar iechyd pobl.

Meddai'r cyd-awdur Dr Claire Desbrow o Biotage: “Mae'r dull newydd ei ddatblygu'n cydweddu'n berffaith â'n portffolio o gynhyrchion paratoi samplau. Bydd gallu glanhau samplau dynol, bwyd neu amgylcheddol cymhleth yn gyflym ac yn effeithlon o fudd i labordai diwydiannol, amgylcheddol a rheoleiddiol ledled y byd, yn ogystal ag ymchwilwyr.”

Ariannwyd yr astudiaeth gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol UKRI.

 

Rhannu'r stori