Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Sam Blaxland y tu allan i Abaty Singleton

Daw hanes Prifysgol Abertawe o dan y chwyddwydr mewn llyfr newydd a gyhoeddwyd i nodi canmlwyddiant y brifysgol yn 2020.

Mae'r cyhoeddiad, sef Swansea University: Campus and Community in a Post-war World, 1945–2020 (Gwasg Prifysgol Cymru), yn archwilio newidiadau academaidd a chymdeithasol ym Mhrydain a'i phrifysgolion ar ôl yr ail ryfel byd, a'r ffordd newidiol y mae sefydliadau addysg uwch wedi rhyngweithio â'u cymunedau, gan ddefnyddio Prifysgol Abertawe fel astudiaeth achos.

Mae'r llyfr, a gafodd ei ysgrifennu gan Dr Sam Blaxland, Cymrawd Ôl-ddoethurol mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, yn trafod amrywiaeth o themâu a phynciau ac yn cynnwys datganiadau o lygad y ffynnon a sylwadau sy'n seiliedig ar gyfres o gyfweliadau llafar â myfyrwyr, aelodau o staff a graddedigion, sy'n dangos sefyllfa newidiol y brifysgol yn yr ardal, yng Nghymru ac yn y byd ehangach, o weithredu gwleidyddol i adfywio lleol.

Yn ôl Dr Blaxland, gellir defnyddio'r llyfr i ddangos tebygrwydd hanesyddol rhwng ymateb Prifysgol Abertawe i'r ail ryfel byd a'r argyfwng parhaus o ran coronafeirws.

“Wrth gwrs, nid yw Covid-19 yn elyn adeg rhyfel, ond dyma'r tro cyntaf ers yr ail ryfel byd i unrhyw beth darfu mewn modd mor sylfaenol ar economi'r wlad, gosod y fath gyfyngiadau ar fywydau beunyddiol pobl, a hwyluso ymdeimlad o ysbryd cymunedol lleol,” esboniodd Dr Blaxland.

“Mae'r sefyllfa wedi darparu her unigryw i'r DU, ac i ddinas Abertawe, ac mae Prifysgol Abertawe wedi ymfalchïo yn ei hymateb i'r argyfwng hwn. Mae pobl o bob rhan o'r brifysgol wedi dod at ei gilydd er mwyn helpu'r GIG a gweithwyr allweddol yn yr ardal leol mewn ffyrdd niferus – o fyfyrwyr yn rhoi gofal plant am ddim i staff rheng flaen, i arbenigwyr yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo ac amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG.

“Yn ystod y rhyfel, ni chyffyrddodd y blitz tair noson ym 1941 â Champws Singleton y brifysgol, felly parhaodd i fod yn lleoliad ar gyfer gwaith rhyfel allweddol, gan ddod yn gartref i Ysgol Frenhinol Mwyngloddiau Coleg Imperial Llundain ac Adran Ymchwil Ffrwydron y llywodraeth.  Ymunodd myfyrwyr â'r Gwarchodlu Cartref hefyd ac roeddent yn gyfrifol am fynd ar gyrchoedd patrôl ym Mae Abertawe.”

Yn llyfr Dr Blaxland, mae'n nodi bod nifer y myfyrwyr a oedd yn astudio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, fel y'i hadwaenid bryd hynny, wedi gostwng i 342 erbyn 1945 gan fod cynifer o aelodau staff a myfyrwyr wedi cael eu dethol i gymryd rhan yn y rhyfel.

Yn ôl Dr Blaxland, mae'r blynyddoedd ar ôl y rhyfel yn arbennig o ddiddorol gan eu bod hefyd yn adlewyrchu'r hyn y gallai sefydliadau fel Prifysgol Abertawe ei wneud pan fydd y gwaethaf drosodd o ran yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Meddai: “O'r 1950au cynnar, croesawodd y brifysgol gyfres o Gymrodorion Lles Cymdeithasol y Cenhedloedd Unedig i Abertawe, lle gwnaeth pobl o ddwsinau o wledydd ym mhedwar ban byd astudio am gymwysterau ym maes gwaith cymdeithasol. Roedd llawer mwy nag astudio'n gysylltiedig â hyn. Gwnaethant weithio'n agos gyda phobl, busnesau a chwmnïau yn yr ardal leol er mwyn meithrin dealltwriaeth o anghenion a phroblemau penodol yr ardal. Gwnaethant feithrin cysylltiadau da â llawer o bobl y dref, felly cafwyd cyfnewid diwylliannol yn ogystal ag academaidd.

“Dangosodd y rhyfel a'r cyfnod dilynol sut ymatebodd Prifysgol Abertawe yn greadigol ac yn benderfynol i ddigwyddiad mawr ac mae'r un peth yn wir heddiw.”

Rhannu'r stori