Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Coronavent - peiriant anadlu

Mae'r CoronaVent yn cynnig y gorau o ddau fyd: er ei fod yn syml ac yn rhad i'w adeiladu, mae'n addas ar gyfer hyd yn oed achosion cymhleth o coronafeirws.

Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi dylunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu'n gyflym o gydrannau lleol ac – yn hollbwysig – y gall hyd yn oed cleifion sy'n dioddef yn ddifrifol o coronafeirws ei ddefnyddio. Hyd yn hyn, mae’r naill beth neu'r llall wedi bod yn wir am beiriannau anadlu, nid y ddau.

Gellir adeiladu'r dyluniad newydd, sef CoronaVent-One, yn hawdd o gydrannau cyffredinol a phaneli plastig.

Yn ogystal ag achub bywydau, gall y dyluniad newydd helpu i greu swyddi a hybu adferiad yr economi gan fod y galw byd-eang am beiriannau anadlu'n debygol o aros yn uchel wrth i'r pandemig barhau.

Arweinir y tîm sy'n gyfrifol am y dyluniad newydd gan Dr John Dingley a Dr Dave Williams, sy'n anesthetyddion ymgynghorol yn y GIG a chanddynt swyddi addysgu yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Yn 2008, mewn ymateb i bandemig SARS, gwnaethant ddylunio ac adeiladu peiriant anadlu hynod effeithlon am gost isel i'w ddefnyddio'n eang y gellid ei adeiladu o gydrannau a oedd ar gael yn hawdd.

Gwyliwch - Mae Dr John Dingley yn siarad am y Coronavent

Mae'r tîm hefyd yn cynnwys arbenigwyr o dîm ASTUTE 2020 Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, ac o Ganolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a Chanolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe. Mae'r ddwy ganolfan yn rhan o Accelerate, sy'n gydweithrediad rhwng tair prifysgol yng Nghymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae peiriannau anadlu'n hanfodol wrth drin llawer o gleifion â Covid-19, gan eu helpu i anadlu yn ystod eu triniaeth. Ym mis Mawrth, galwodd y Prif Weinidog Boris Johnson yn agored am 30,000 o beiriannau anadlu o fewn pythefnos er mwyn trin y nifer mawr o ddioddefwyr disgwyliedig yn ystod y pandemig coronafeirws.

Y broblem yw y gellir naill ai adeiladu dyluniadau presennol yn gyflym, neu y gallant drin achosion cymhleth, ond nid y ddau.

Mae modd defnyddio dyluniadau y gellir ei adeiladu'n gyflym at ddibenion trin cleifion â mân anafiadau i'r ysgyfaint yn unig. Ar y llaw arall, mae angen llawer o gydrannau ar y modelau presennol sy'n addas ar gyfer achosion mwy cymhleth, sy'n ei gwneud yn amhosib eu hadeiladu'n gyflym mewn niferoedd mawr gan ei bod yn anodd iawn cael gafael ar gydrannau meddygol ar hyn o bryd oherwydd y galw.

Yn hyn o beth y mae peiriant anadlu newydd y tîm o Abertawe'n wahanol. Oherwydd ei ddyluniad, a arweinir gan Gymrawd Arloesi ATiC Nick Thatcher, gall gynnig y gorau o ddau fyd.

Gellir ei gynhyrchu'n gyflym ac yn rhad fesul llwyth gan fod yr holl gydrannau'n gyffredinol neu y gellir eu cynhyrchu'n lleol o baneli plastig gwastad. Nid yw'n dibynnu ar gadwyni cyflenwi rhyngwladol hir. Gellir hefyd ei weithredu drwy unrhyw ffynhonnell ocsigen, nid dim ond cyflenwadau ysbyty, a gall amrywiaeth eang o wneuthurwyr ei adeiladu, nid dim ond cwmnïau awyrofod.

Ar yr un pryd, mae'r CoronaVent hefyd yn ymgorffori'r dulliau gweithredu cymhleth y mae eu hangen er mwyn trin cleifion â haint coronafeirws difrifol, a fyddai ar gael fel arfer ar beiriannau sy'n ddrutach o lawer yn unig.

Gellir defnyddio cyfrifiadur bach â sgrîn y mae modd cael gafael arni'n hawdd er mwyn rheoli'r prif baramedrau'n llawn ar gyfer helpu claf Covid-19 i anadlu.

Meddai Dr John Dingley:

“Mae cyfraddau heintio coronafeirws yn y wlad hon yn sefydlogi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, disgwylir y bydd cyfnodau pan fydd nifer yr achosion o heintiau coronafeirws a feirysau pandemig eraill yn cynyddu eto yn ystod y blynyddoedd i ddod, ac mae'n hanfodol bod cronfa wrth gefn o beiriannau anadlu sy'n gweithredu'n addas ar gael.

Mae hefyd angen byd-eang am beiriannau anadlu manyleb uchel, cost isel mewn gwledydd eraill y mae'r pandemig yn effeithio arnynt.”

Ychwanegodd Dr Dave Williams:

“Gellir cynhyrchu'r CoronaVent yn y DU a gall ddarparu swyddi gwerthfawr a diwydiant allforion yn wyneb dirwasgiad economaidd byd-eang.”

Meddai'r Athro Johann Sienz, Cyfarwyddwr Gweithrediadau ASTUTE 2020 yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

“Mae'r CoronaVent yn cynnig y gorau o ddau fyd: er ei fod yn syml ac yn rhad i'w adeiladu, mae'n addas ar gyfer hyd yn oed achosion cymhleth o coronafeirws.

Mae'r broses o'i ddatblygu wedi bod yn ymdrech go iawn gan dîm – meddygon, peirianwyr, dylunwyr a phartneriaid ym maes diwydiant.

Rydym yn gobeithio y bydd partneriaid newydd yn ymuno â ni er mwyn ein helpu i fwrw ymlaen â'r peiriant, fel y gellir ei ddefnyddio cyn gynted â phosib, gan greu swyddi ac achub bywydau.”

Mae prosiect ASTUTE 2020 (Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch Cynaliadwy), sy’n cefnogi cwmnïau gweithgynhyrchu ledled Cymru, wedi cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch cyfranogol.

Meddai'r Athro Ian Walsh, Cyfarwyddwr ATiC a Phrofost ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Abertawe:

“Mae datblygiad CoronaVent-One yn enghraifft ragorol o gydweithrediad rhwng dwy brifysgol Abertawe, y bwrdd iechyd a phartneriaid ym maes diwydiant. Mae ein tîm ar y cyd wedi gweithio ddydd a nos ers deufis, gan ddangos ymrwymiad anhunanol i'r achos cyffredin o ymateb i'r her fwyaf i iechyd byd-eang yn yr oes fodern.”

Mae aelodau'r tîm ar fin ceisio cymeradwyaeth reoleiddiol ar gyfer eu dyluniad ac maent wrthi'n chwilio am bartneriaid a buddsoddwyr i sicrhau bod y ddyfais yn cael ei masgynhyrchu.

Lluniau o'r CoronaVent

Rhannu'r stori