Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae grant cymunedol Prifysgol Abertawe wedi bod o fudd i bobl ifanc yn ystod y pandemig.

Mae grant cymunedol Prifysgol Abertawe wedi bod o fudd i bobl ifanc yn ystod y pandemig. 

Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi grant cymunedol gwerth £250 i'r elusen i'r digartref Llamau. 

Defnyddiwyd y grant ar gyfer pobl ifanc sy'n byw yn llety â chymorth 24 awr Drws Agored yn Abertawe, a oedd yn cael dewis sut i'w wario.

Dyma sylwadau rhai o'r bobl ifanc a elwodd ar y grant:

“Diolch yn fawr iawn i Brifysgol Abertawe am y llechen hon, a fydd yn fy helpu i gadw mewn cysylltiad â'm teulu a'm ffrindiau.”

“Nid oedd gennyf set deledu pan symudais i mewn i lety'r prosiect, felly diolch yn fawr i Brifysgol Abertawe.”

“Hir oes i Brifysgol Abertawe – bydd yn fy helpu i gael sgyrsiau fideo â'm ffrindiau a'm teulu.”

“Diolch i chi, Brifysgol Abertawe – ni allwn fforddio llechen a bydd yr un hon yn fy helpu i fynd ar-lein.”

Felly, mae'r grant wedi lleihau'r risg y bydd pobl yn wynebu allgáu cymdeithasol ac wedi gwella eu perthnasoedd â'u cyfoedion a'u lles emosiynol. Mae hefyd yn golygu y gallant gydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, yn ogystal â chael hyfforddiant ac addysg rithwir.

Fel arfer, mae'r grant, a weinyddir gan Cymuned@BywydCampws, yn gronfa i ddod â myfyrwyr yn agosach at bobl eraill. Mae grantiau eraill wedi cefnogi offer i alluogi'r Gymdeithas Plannu Coed i blannu cannoedd o goed ar Fynydd Cilfái, lôn yn y Pwll Cenedlaethol er mwyn i'r Cadetiaid Môr gwblhau hyfforddiant, a chyllid i Sefydliad Sameera ar gyfer pecynnau a phrydau poeth i bobl sy'n ddigartref dros y Nadolig.

Oherwydd y cyfyngiadau symud a'r ffaith nad yw'r campysau ar agor, hysbysebwyd y grant drwy Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, lle gwnaeth Llamau gais ar ei gyfer.
Nod Llamau yw atal pobl rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf, darparu llety diogel i bobl ddigartref, a helpu pobl i fagu'r sgiliau a'r hyder i beidio â bod yn ddigartref byth eto.

Meddai Swyddog Cyswllt Cymunedol BywydCampws, James Slattery:

“Byddwn yn ceisio cysylltu myfyrwyr â'r prosiectau a ariennir pan fo modd. Ond mae'n bwysicach ein bod wedi gallu helpu yn ystod argyfwng cenedlaethol ac yn enwedig ein bod wedi helpu pobl ifanc a allai fod yn ystyried yr hyn sydd gan Addysg Uwch i'w gynnig iddynt.”

Meddai Cyfarwyddwr Codi Arian a Chyfathrebu Llamau, Jenna Lewis:

“Roeddem yn hynod falch o gael grant hael gan Brifysgol Abertawe. Mae'r grant wedi sicrhau bod y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi sy'n ddigartref yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u haddysg a'u rhwydweithiau drwy gydol y pandemig.”

Mae'r grant hefyd yn sicrhau na fydd yr argyfwng coronafeirws yn effeithio'n barhaol ac yn niweidiol ar y bobl ifanc.

Ychwanegodd Jenna:

“Mae'n hynod bwysig nad yw pobl ifanc sydd eisoes dan anfantais oherwydd eu bod yn ddigartref yn wynebu rhagor o anfanteision o ganlyniad i bandemig Covid-19, a bydd grant Prifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau eu bod yn dal i allu symud tuag at fyw'n annibynnol ac yn bwrpasol yn eu cymuned.”

Rhannu'r stori