Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Argae Caban Coch, Cwm Elan, Cymru. Cydnabyddiaeth i Sara Barrento.

Argae Caban Coch, Cwm Elan, Cymru (Llun: Sara Barrento).

Mae ymchwil newydd wedi dangos bod afonydd Ewrop ymysg y mwyaf rhanedig yn y byd, gyda hyd at filiwn o rwystrau i'w llif, ac mae bellach yn hollbwysig cymryd camau ar frys i'w hailgysylltu er mwyn sicrhau iechyd hirdymor yr afonydd hyn a'u cynefinoedd cyfagos.

Caiff casgliadau'r gwaith ymchwil eu datgelu a'u cyhoeddi gan brosiect Horizon 2020 yr UE, sef Rheoli Rhwystrau yn Afonydd Ewrop yn Addasol (AMBER), ar 29 Mehefin wrth i Atlas Rhwystrau AMBER cyntaf erioed gael ei lansio. Dyma gyflawniad rhyngwladol mawr dros sawl blwyddyn a'r atlas yw'r un cyntaf o'i fath, o ystyried manylder y dadansoddi ar raddfa cyfandir cyfan.

Mae Atlas Rhwystrau AMBER yn cynnig y trosolwg mwyaf cynhwysfawr erioed o'r ffordd y mae afonydd yn Ewrop wedi'u rhannu. Mae'n cynnwys gwybodaeth am 630,000 o rwystrau, gan gynnwys cannoedd o filoedd o rampiau, rhydiau, cwlferi a choredau llai, yn ogystal ag argaeau mawr.

Fodd bynnag, ar ôl cerdded 2,700km drwy lifoedd mewn 28 o wledydd, daeth ymchwilwyr AMBER i'r casgliadau allweddol canlynol:

  • Mae mwy na thraean o'r rhwystrau heb eu cofnodi.
  • Mae llawer mwy na miliwn o rwystrau.
  • Mae gan Ewrop yr afonydd mwyaf rhanedig yn y byd a phrin y mae'r afonydd sydd heb eu rhannu ac sy'n llifo'n rhydd erbyn hyn.

Ceir rhwystrau o bob lliw a llun, sy'n ddealladwy. Mae coredau, adeileddau ynni dŵr bach, cwlferi, rhydiau ac argaeau mawr yn ddefnyddiol at ddibenion darparu dŵr yfed, dyfrhau, cynhyrchu ynni, amddiffyn rhag llifogydd a'n helpu i groesi afonydd. Ond mae afonydd iach yn afonydd sy'n llifo, ac mae'r rhwystrau hyn yn torri'r llif, yn rhannu dyfrffyrdd, yn ynysu cynefinoedd ac yn gwanhau poblogaethau bywyd gwyllt.

Meddai Carlos Garcia de Leaniz, cydlynydd prosiect AMBER ac Athro Biowyddorau Dyfrol ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae rhwystrau hyd yn oed yn effeithio ar ardaloedd yr ystyriwyd eu bod yn gymharol ddigyfnewid ac yn gysylltiedig. Er enghraifft, yn y Balcanau, mae ein gwaith dilysu yn y maes yn awgrymu nad yw 80% o'r rhwystrau wedi cael eu rhestru ar hyn o bryd, felly mae'r afonydd hyn yn llawer mwy rhanedig nag yr oedd pobl yn ei feddwl.”

Gellir defnyddio data'r atlas i amcangyfrif pa mor rhanedig y mae afonydd ar raddfeydd gofodol amrywiol. Ynghyd â sawl adnodd adfer a ddatblygwyd yn benodol gan gonsortiwm AMBER, gall yr wybodaeth hon helpu rheolwyr basnau afonydd i leihau effeithiau'r rhwystrau.

Er enghraifft, mae ymchwil AMBER yn awgrymu bod cysylltedd yn tueddu i gael ei golli o ganlyniad i gyfran gymharol fach o'r rhwystrau, felly mae'n gwneud synnwyr i flaenoriaethu'r rhain. Dylid blaenoriaethu gwaith i amddiffyn yr afonydd lleiaf rhanedig a chymryd camau i ymdrin â'r rhwystrau hynny sy'n achosi'r rhan fwyaf o'r difrod.

Yn draddodiadol, mae rheolwyr afonydd wedi tueddu i gredu mai dim ond argaeau mawr sy'n achosi i afonydd gael eu rhannu, ond mae ymchwilwyr AMBER wedi gweld nad yw hynny'n wir yn aml:

  • Yn Ewrop, coredau ac adeileddau bach eraill, yn hytrach nag argaeau, sy'n gyfrifol am fwy nag 85% o'r rhwystrau.
  • Yn achos llawer o'r rhain, nid ydynt yn cael eu defnyddio a gellid cael gwared arnynt gan eu bod yn torri cysylltedd afonydd ac yn rhwystro gwaddodion ac organebau rhag symud.
  • Mae rhwystrau eraill yn darparu ynni dŵr, dŵr at ddibenion dyfrhau, cyfleoedd pysgota a hamdden a llawer o wasanaethau eraill y mae eu hangen ar y gymdeithas.
  • Yr her fydd mwyafu manteision y fath rwystrau a lleihau eu heffeithiau drwy ddulliau rheoli addasol.

Yn ôl yr ymchwilwyr, drwy gael gwared ar ddim ond 2.5% o'r rhwystrau hyn, gellid rhyddhau 25,000km o afonydd, a chyflawni nodau Strategaeth Bioamrywiaeth newydd yr UE ar gyfer 2030.

Meddai Barbara Belletti, a fu'n arwain y gwaith o ddatblygu Atlas AMBER yn Politecnico di Milano ochr yn ochr â Wouter van de Bund yng Nghanolfan Ymchwil ar y Cyd y Comisiwn Ewropeaidd: “Mae dros 60% o systemau dŵr croyw'r UE mewn cyflwr gwael yn rhannol o ganlyniad i'r ffaith bod cynefinoedd wedi'u rhannu. Er mwyn gwella iechyd ein hafonydd, mae angen i ni eu hailgysylltu – bydd ein hatlas a'n hadnoddau yn cefnogi'r ymdrech hon.”

Rhannu'r stori