Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Menyw mewn masg wyneb yn sefyll ar y stryd

Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n awgrymu y gallai cyfyngiadau symud byr, dwys i wastatáu cromlin epidemig COVID-19 arwain at fwy o farwolaethau – ac y gellid lleihau cyfanswm cyffredinol yr achosion drwy gyflwyno amrywiaeth o fesurau dros gyfnod hir.

Mae'r ymchwil yn awgrymu y bydd cyflwyno mesurau hirdymor realistig sy'n canolbwyntio ar ostwng cyfraddau trosglwyddo mewn rhwydweithiau poblogaeth gwahanol yn ffactor allweddol yn y broses o reoli'r pandemig yn ystod yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.

Mae'r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn.

Meddai Dr Konstans Wells o Goleg Gwyddoniaeth y Brifysgol, un o gyd-awduron yr ymchwil: “Heb unrhyw frechlyn ar gael, mae rheoli clefyd yn dasg heriol sy'n dibynnu ar atal pathogen rhag lledaenu drwy leihau cysylltiad ag ef ac osgoi haint niweidiol. Y consensws yw y gall ‘gwastatáu'r gromlin epidemig’ drwy ddefnyddio mesurau cadw pellter corfforol i oedi ymlediad clefyd ostwng y pwysau ar wasanaethau iechyd yn ystod cyfnodau pwysicaf ymlediad epidemig. Serch hynny, nid oes llawer o ddealltwriaeth o ganlyniadau hirdymor ar raddfa fawr strategaethau lliniaru byrdymor dwys.”

Mae'r tîm ymchwil wedi mynd i'r afael â'r her hon drwy ddefnyddio system modelu epidemiolegol sy'n seiliedig ar unigolion i fapio ymlediad COVID-19 drwy fathau amrywiol o grwpiau poblogaeth ar ôl un flwyddyn. Gwnaethant archwilio amrywiaeth eang o sefyllfaoedd posib ar gyfer poblogaethau sy'n ffurfio rhwydweithiau gwahanol o gysylltiadau, a chyfyngiadau symud byrdymor rhwng 21 a 300 o ddiwrnodau a all effeithio ar boblogaethau cyfan neu'r rhai sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau difrifol o ganlyniad i glefyd yn unig.

Dyma'r tri math o fesur lliniaru a ddefnyddiwyd yn y broses fodelu:

  • Dim mesurau lliniaru dwys byrdymor megis cyfyngiadau symud.
  • Cyfyngiadau symud ar boblogaethau cyfan sy'n lleihau cyfraddau trosglwyddo o dro i dro.
  • Cyfyngiadau symud penodol, lle mae unigolion diamddiffyn yn unig yn destun mesurau gwarchod.

Daw canlyniadau diddorol o fynd ati'n drylwyr i gymharu sut gall strategaethau lliniaru byrdymor gwahanol effeithio ar gyfanswm cyffredinol yr achosion mewn rhwydweithiau poblogaeth cyfan, a all ddangos yr amgylchiadau ar gyfer lledaenu clefyd ar draws gwlad gyfan. Daeth y tîm i'r casgliad nad oedd strategaethau cyfyngiadau symud byrdymor yn fuddiol bob amser. Y rheswm yw y gall gwastatáu'r gromlin drwy strategaethau cyfyngiadau symud arwain at ledaenu clefyd ymysg mwy o bobl mewn llawer o sefyllfaoedd.

Meddai Dr Miguel Lurgi, un o'r cyd-awduron: “Mae'n amhosib cynnal cyfyngiadau symud caeth yn ddigon hir i ddiogelu poblogaethau cyfan, ond mae'n hollbwysig gorfodi strategaethau hirdymor dibynadwy er mwyn lleihau nifer yr achosion o drosglwyddo feirws.”

Mae'r canlynol ymysg y strategaethau hirdymor y gellid eu hystyried:

  • Mesurau cadw pellter llym sy'n debyg i'r rhai a geir mewn archfarchnadoedd a mannau cyhoeddus eraill.
  • Ailwampio cysylltiadau proffesiynol a chymdeithasol er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gysylltu a rhyngweithio ar hap, h.y. cyfyngu'r cysylltiadau hynny sydd fwyaf cyfrifol am ledaenu clefyd yn gyflym a/neu ddefnyddio mesurau diogelwch caeth i ddiogelu cysylltiadau peryglus megis masnach ryngwladol.

Meddai Dr Wells: “At ei gilydd, mae dwysedd poblogaeth a'r ffordd y mae pobl yn cysylltu â'i gilydd, ynghyd â theithio ac ymddygiad cymdeithasol, yn creu'r llwyfan i glefyd ledaenu. Mae'r rhain yn amrywio'n fawr ledled y byd, felly mae'n hanfodol bod penderfyniadau gwybodus ar ailwampio cysylltiadau rhyngbersonol a mesurau sy'n ceisio gostwng cyfraddau trosglwyddo yn ystyried amgylchiadau lleol ac ymarferoldeb. Bydd hyn yn helpu penderfynwyr polisi i gynllunio strategaethau digonol i atal systemau gofal iechyd ledled y byd rhag cael eu gorlwytho, gan helpu i ddiogelu bywydau yn y pen draw.”

Wrth ystyried eu canlyniadau, daw'r ymchwilwyr i'r casgliad nad yw edrych ar strategaethau i ‘wastatáu'r gromlin epidemig’ ar lefel wladol yn unig yn strategaeth reoli effeithiol ar gyfer gwlad gyfan gan y ceir y mwyafrif o'r achosion mewn clystyrau gofodol, cyn lledaenu i ranbarthau anghysbell ar ôl peth oedi. Mae'r ymchwilwyr yn gorffen drwy nodi: “Mae trosglwyddo clefyd yn dibynnu ar gysylltiadau ac os oes ffyrdd o ddiogelu neu gwtogi'r cysylltiadau mwyaf peryglus, gallai hynny fod yn well na chyfyngiadau symud cyffredinol sy'n niweidiol o safbwynt economaidd-gymdeithasol.”

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori