Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Stori fer wedi'i lansio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru

Mae Labordy FIRE (Ymchwil ac Ymgysylltu Rhyngddisgyblaethol o ran Dŵr Croyw) ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu i lansio ffilm fer wedi'i hanimeiddio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru a'r tu hwnt.  

Gyda chymorth y dylunydd Joelle Evans ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), y deuawd canu gwerin Cymraeg o Abertawe DnA a'r cyfarwyddwr ffilmiau Russ Pariseau, mae Jac’s River Adventure yn cyflwyno taith farddonol ar hyd Afon Tawe.

Mae Jac – sy'n ddisgynnydd i'r ci enwog Jac Abertawe – yn mynd ar antur ar hyd Afon Tawe, gan gerdded, nofio a thasgu dŵr o Abertawe i'r bryniau ac yn ôl i'r môr. Ar ei thaith, mae Jac yn dod ar draws y nodweddion hydrolegol a daearegol, ynghyd â'r rhai a wnaed gan bobl, sy'n diffinio Afon Tawe heddiw.

Mae'r ffilm fer yn seiliedig ar lyfr o'r un enw ac mae ar gael am ddim. Gall teuluoedd hefyd lawrlwytho'r llyfr Jac’s River Adventure am ddim o'r wefan FIRE Lab Kids a darllen ar y cyd wrth i Jac deithio ar hyd Afon Tawe.

Meddai Dr Stephanie Januchowski-Hartley, sy'n arwain Labordy FIRE ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r cydweithrediad hwn yn dangos pa mor werthfawr ydyw pan fydd rhaglenni rhyngddisgyblaethol yn cydweithio tuag at nod cyffredin. Yn ein hachos ni, y nod yw gwneud gwahaniaeth i'n hafonydd a'r cymunedau sy'n dibynnu arnynt. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gan deuluoedd a phlant am eu hafonydd lleol.”

Joelle Evans, myfyrwraig dylunio graffeg sydd yn ei thrydedd flwyddyn yn PCYDDS Abertawe, oedd dylunydd y gwaith celf i'r llyfr a'r ffilm. Meddai: “Gwnes i greu Jac's River Adventure er mwyn annog plant i fynd allan i'r awyr agored a dysgu ambell beth am y tirweddau hardd sydd o'n hamgylch yng Nghymru. Roeddwn am greu rhywbeth atyniadol i'r llygad y gall plant ei fwynhau, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt ddysgu a chael hwyl.”

Nid yw'r stori'n dod â'r antur i ben – mae'n parhau drwy gyfres o weithgareddau i alluogi plant i fod yn greadigol, a dysgu am ein hafonydd a'u mwynhau hyd yn oed yn ystod y mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Mae Labordy FIRE yn gwahodd plant a theuluoedd yn Ne Cymru, a'r tu hwnt, i archwilio'r wefan.

 

Rhannu'r stori