Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Rebecca Ellis a Dr Elizabeth Evans

Bydd Rebecca Ellis a Dr Elizabeth Evans o Brifysgol Abertawe'n cystadlu yn y rownd derfynol o FameLab ar 3 Mehefin. 

Bydd naw o'r lleisiau newydd gorau ym maes gwyddoniaeth o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys dau o Brifysgol Abertawe, yn brwydro i gynrychioli'r DU yn FameLab – cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.

Bydd Rebecca Ellis a Dr Elizabeth Evans o Brifysgol Abertawe'n cael tair munud yn unig i ddwyn perswâd ar y beirniaid gyda'u heglurder, eu carisma a'u cynnwys gwyddonol pan fyddant yn mynd benben yn rownd derfynol y gystadleuaeth, a gynhelir ar-lein y mis nesaf.

Bydd yr enillydd yn cael £2,000 ac yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn 24 o wledydd eraill yn Rownd Derfynol Ryngwladol FameLab, a gynhelir yn ystod Gŵyl Lenyddiaeth Cheltenham ym mis Hydref.

Bydd y newyddiadurwr gwyddoniaeth Greg Foot o The Best Thing Since Sliced Bread? ar BBC Radio 4 yn cyflwyno Rownd Derfynol y DU FameLab, a gaiff ei ffrydio'n fyw ar Sianel YouTube Gwyliau Cheltenham nos Fercher 3 Mehefin am 7pm fel rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Gartref Cheltenham. Y beirniaid fydd y cyflwynydd teledu Dallas Campbell, yr arbenigwr ar seiberddiogelwch Dr Jessica Barker a Phennaeth Rhaglenni Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, Dr Marieke Navin.

Mae Rebecca, myfyrwraig PhD 28 oed sy'n hanu o Halifax yng Ngorllewin Swydd Efrog yn wreiddiol, sydd bellach yn byw yn Abertawe, yn ymchwilio i lwybrau gofal ar gyfer plant awtistig, a bydd yn cyflwyno ei sgwrs tair munud yn y rownd derfynol ar ffurf cerdd.

Meddai: “Rwy'n falch iawn o gynrychioli Prifysgol Abertawe a Chymru yn FameLab eleni. Gwnes i ddysgu orau bob amser pan oedd fy athrawon yn frwd a phan wnaethant esbonio pynciau mewn ffordd glir, addysgiadol a chreadigol. Rwyf am efelychu hynny a chyfuno rhannau creadigol a gwyddonol fy mhersonoliaeth drwy berfformio fy nghyflwyniad ar ffurf cerdd. Rwy'n mwynhau perfformio, rwy'n hoff o gael fy herio, ac mae rhywbeth calonogol iawn am weld pobl frwd yn trafod eu gwaith.

“Fel unigolyn awtistig fy hun, mae'r syniad y gallai fy ngwaith ymchwil wella bywydau unigolion awtistig eraill a'u teuluoedd yn gyffrous ac yn werth ei rannu.”

Bydd Dr Elizabeth Evans, tiwtor addysgu yn adran peirianneg Prifysgol Abertawe, yn defnyddio'r rownd derfynol i drafod pwnc tyllau hydrothermol yn nyfnderoedd cefnforoedd. Ar gyrraedd y rownd derfynol, meddai'r fenyw 28 oed o ogledd-orllewin Lloegr: “Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn (er yn nerfus!) i gyrraedd rownd derfynol FameLab ochr yn ochr â Rebecca. Rwyf wedi bod yn cystadlu yn y rowndiau rhagbrofol yn Abertawe ers blynyddoedd, felly mae'r ffaith fy mod yn mynd drwodd i'r rownd genedlaethol o'r diwedd yn dangos i ba raddau rwyf wedi dysgu o'r profiad!”

Sefydlwyd FameLab yn 2015 gan Wyliau Cheltenham i ddod o hyd i wyddonwyr a pheirianwyr sydd â'r ddawn i gyfathrebu â chynulleidfaoedd cyhoeddus. Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth ochr yn ochr â phartneriaeth fyd-eang â'r British Council. Cynhelir cystadlaethau erbyn hyn mewn mwy na 25 o wledydd yn Ewrop, Asia, Affrica ac Ynysoedd y De.

Rhannu'r stori