Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

 Y côr yn cadw mewn cysylltiad ac mewn hwyliau da

 Y côr yn cadw mewn cysylltiad ac mewn hwyliau da 

Nid yw'r aelodau'n cael ymarfer yng nghwmni ei gilydd, ond mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau bod ei gôr yn dal i berfformio yn ystod yr argyfwng coronafeirws. 

mae aaron brown, sy'n astudio ar gyfer phd mewn daearyddiaeth ffisegol, wedi annog aelodau côr orpheus morriston i ddefnyddio ap cynhadledd zoom bob dydd sul.

mae'n golygu y gall yr aelodau, sydd rhwng 22 ac 88 oed, barhau i ymarfer a chymdeithasu er eu bod yn ynysu.

mae côr orpheus treforys yn perfformio ar y teledu ac yn darparu adloniant mewn digwyddiadau cenedlaethol, hyrwyddol a chorfforaethol, yn ogystal â phriodasau. eleni, mae'r côr yn dathlu ei ben-blwydd yn 85 oed, ond bu'n rhaid canslo neu ohirio nifer o berfformiadau o ganlyniad i'r pandemig.

meddai aaron, “mae'n drueni mawr ein bod wedi gorfod canslo perfformiadau, ond mae'n wych bod côr o faint ac ansawdd côr orpheus treforys yn dal i ymarfer. mae'n grŵp ardderchog.”

mae aaron yn ychwanegu bod ymarfer ar-lein yn ffordd wych i'r aelodau fwynhau cwmni ei gilydd yn ogystal â pharhau i ymarfer:

“rydym yn grŵp cymdeithasol mawr, fel teulu estynedig. rydym wedi arfer cwrdd â'n gilydd i ganu a sgwrsio, felly mae'n newid mawr i bobl beidio â gweld neb o gwbl. mae mwy na hanner o'n haelodau dros 70 oed ac yn gorfod hunanynysu. felly, maent wedi rhoi'r gorau i bron pob math o gymdeithasu. mae ymarfer drwy zoom yn helpu pawb i gymdeithasu ac yn rhoi ymdeimlad o normalrwydd yn ystod y cyfyngiadau symud.”

mae'r lleoliad yn wahanol iawn i'r ddarlithfa ym mhrifysgol abertawe lle mae'r côr yn ymgasglu ddwywaith yr wythnos fel arfer. er gwaethaf ambell broblem dechnegol gychwynnol, mae'r dull ymarfer digidol yn profi'n boblogaidd.

meddai aaron, “roedd angen dwyn perswâd ar rai aelodau i ymuno â zoom, ond mae'r feddalwedd yn hawdd ei defnyddio, a gall y rhai hynny nad oes ganddynt gyfrifiadur ymuno drwy ddefnyddio llechen, ffôn clyfar a hyd yn oed drwy ddeialu dros linell dir. cymerodd 59 o aelodau ran yn ddiweddar, sy'n fendigedig!”

er nad yw'r ymarferion yr un peth yn ystod y cyfyngiadau symud presennol, mae'r côr mewn hwyliau da o hyd.

“bydd ein hymarfer rhithwir yn ein galluogi i fanteisio i'r eithaf pan fyddwn i gyd yn ôl wrthi'n ymarfer ym mhrifysgol abertawe. heb os nac oni bai, byddwn yn fwy ac yn well nag erioed,” ychwanegodd aaron.

Rhannu'r stori