Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Tri gwyddonydd o Brifysgol Abertawe yn gadael meinciau'r labordy am y meinciau cefn seneddol .Dr James Cronin (ail o'r chwith), Dr Enrico Andreoli (ail o'r dde) a Dr Alvin Orbaek White (ar y dde) mewn derbyniad yn San Steffan ar gyfer pawb a gymerodd ran yng nghynllun paru'r Gymdeithas Frenhinol

Dr James Cronin (ail o'r chwith), Dr Enrico Andreoli (ail o'r dde) a Dr Alvin Orbaek White (ar y dde) mewn derbyniad yn San Steffan ar gyfer pawb a gymerodd ran yng nghynllun paru'r Gymdeithas Frenhinol

Tynnodd tri gwyddonydd o Brifysgol Abertawe eu cotiau labordy er mwyn troi eu sylw at ddeddfwriaeth pan wnaethant dreulio wythnos yn San Steffan yn nau Dŷ'r Senedd a Whitehall. 

Roedd yr ymweliad, a gynhaliwyd fis diwethaf, yn rhan o gynllun paru unigryw gan y Gymdeithas Frenhinol – Academi Wyddoniaeth Genedlaethol y DU – gyda chymorth gan Swyddfa Wyddoniaeth y Llywodraeth.

Roedd Dr Enrico Andreoli, athro cysylltiol yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) y Brifysgol, un o'i gydweithwyr, sef yr uwch-ddarlithydd Dr Alvin Orbaek White (ESRI), a Dr James Cronin, athro cysylltiol gwyddorau biofeddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ymysg dim ond 30 o academyddion yn y DU a etholwyd i fod yn bresennol.

Roedd pob un ohonynt yn cael cyfle i gysgodi Aelod Seneddol neu was sifil i ddysgu am waith y rhain, yn ogystal â mynd i seminarau, gwrandawiadau ffug gan Bwyllgorau Dethol a thrafodaethau panel ynghylch sut defnyddir tystiolaeth i lunio polisïau.

Meddai Dr Andreoli: “Mae'n anghyffredin i dri academydd o'r un sefydliad fod yn rhan o’r cynllun, sy'n adlewyrchu enw da Prifysgol Abertawe.”

Mae'r tri ohonynt yn aelodau o Impackt, sef sefydliad amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Dr Andreoli a Dr Cronin ac a arweinir gan Dr Dion Curry sy'n ceisio dod ag academyddion, diwydiant a'r rhai sy'n llunio polisïau at ei gilydd er mwyn gwella'r effaith y mae ymchwil yn ei chael ar y gymdeithas ehangach.

Yn ystod y cynllun, bu Dr Andreoli yn cysgodi Aelod Seneddol Gŵyr, Tonia Antoniazzi, yn ogystal â thrafod ei waith ymchwil ag Amanda Solloway, y Gweinidog dros Wyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi.

“Mae gennyf ddealltwriaeth well o’r mecanweithiau a’r peryglon posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio tystiolaeth wyddonol wrth lunio polisïau, yn ogystal â'r ffaith bod y broses o lunio polisïau yn un amlweddog lle mae gwyddoniaeth yn chwarae rôl wrth i ffactorau pwysig eraill ryngweithio mewn modd cymhleth,” meddai.

“Fel gwyddonydd sydd am ymgysylltu â'r rhai sy'n llunio polisïau, rhaid i mi ystyried ffactorau cenedlaethol a byd-eang mewn ffordd ehangach a mwy cynhwysfawr er mwyn i'm gwaith academaidd beunyddiol wneud gwahaniaeth go iawn.”

Dywedodd Dr Cronin fod y cynllun paru wedi rhoi dealltwriaeth ardderchog iddo o ddyfeisiau a manylion y broses o lunio polisïau yn San Steffan.

Meddai: “Gwnes i gysgodi Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Geraint Davies, a'i dîm, a roddodd y cyfle i mi gael blas ar gyfarfodydd â lobïwyr, sesiynau yn Nhŷ'r Cyffredin a chyfarfodydd i ddiwygio biliau yn Nhŷ'r Arglwyddi.”

Yn ystod cyfarfod ffug o Bwyllgor Dethol, cafodd gyfle hefyd i ofyn cwestiynau i'r Arglwydd Patel, Cadeirydd Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar Wyddoniaeth a Thechnoleg, a'r Aelod Seneddol Carol Monaghan.

Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys sgyrsiau gan gynrychiolwyr o'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, a roddodd gipolwg ar y ffordd y gall gwyddonwyr ddylanwadu ar y rhai sy'n llunio polisïau mewn argyfyngau.

Bu'n treulio amser hefyd gyda Ms Antoniazzi yn ei rôl fel cadeirydd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Ganser ac mae'n edrych ymlaen at ei chroesawu hi ac Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe i'r Ysgol Feddygaeth yn nes ymlaen eleni er mwyn rhoi profiad uniongyrchol iddynt o'i rhwydwaith ymchwil canser.

Yn y cyfamser, cafodd Dr Orbaek White ei baru â gwas sifil yn yr Awdurdod Seilwaith a Phrosiectau (IPA), sydd wedi'i leoli rhwng Swyddfa'r Cabinet a'r Trysorlys.

Meddai: “Cefais sawl cyfarfod â'r staff sy'n ymdrin â'r gwaith o gyflawni carbon sero net a datgarboneiddio erbyn 2050. Roedd pob un o'r cyfarfodydd yn hynod ddadlennol.

“Dysgais am y rôl y mae gweision sifil yn ei chwarae, a roddodd ddealltwriaeth well i mi o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithio. Cefais gyfle hefyd i drafod fy ngwaith fy hun ac i ddadlau dros fy maes ymchwil.

“Bellach, mae gennyf bob ffydd yn rhagoriaeth a deallusrwydd gwasanaeth sifil y DU. Rwy'n deall yr heriau sy'n eu hwynebu, ac yn bwysicach byth, rwyf wedi dysgu mwy ynghylch sut i ddisgrifio fy ngwaith mewn ffordd a all eu helpu, a hynny'n gyflym, i wneud eu gwaith eu hunain.”

Meddai Syr Venki Ramakrishnan, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol: “Mae'n hanfodol ein bod yn buddsoddi yn y berthynas rhwng gwyddonwyr a gwleidyddion, er mwyn i'r naill broffesiwn a'r llall allu mynegi a gwerthfawrogi'r pwysau sydd ar y ddau ohonynt.”

Nod cynllun paru'r Gymdeithas Frenhinol, a ddechreuodd yn 2001, yw codi pontydd rhwng aelodau seneddol, gweision sifil a rhai o'r gwyddonwyr gorau yn y DU ac mae bellach yn caniatáu ceisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Rhannu'r stori