Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y tîm buddugol, o’r chwith i’r dde: Alexander Santo Ruiz, Patryk Adamiak, Olimpian Belu a Mahmoud Elshenawy

Y tîm buddugol, o’r chwith i’r dde: Alexander Santo Ruiz, Patryk Adamiak, Olimpian Belu a Mahmoud Elshenawy.

Mae tîm o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi datblygu ateb i amser ymateb cerbydau brys mewn cystadleuaeth fyd-eang sy’n cynnwys mwy na 40 o brifysgolion.

Roedd y myfyrwyr yn rhan o chwe thîm yn Abertawe i gymryd rhan mewn “Dyfeisio Dros y Blaned”, sef profiad dylunio dwys dros 48 awr a arweinir gan Texas A&M University, un o brifysgolion gorau UDA.

Ledled y byd, mae oedi o ganlyniad i dagfeydd traffig yn cynyddu amseroedd ymateb cerbydau brys i ddamweiniau ar y ffordd, tanau, achosion meddygol brys ac ymosodiadau terfysgaidd. Mae canlyniadau’r oedi hwn yn cynnwys colledion ariannol mwy a mwy o farwolaethau, ac mae ymchwil yn dangos mewn rhai gwelydd bod hyd at 20% o gleifion y mae angen triniaeth frys arnynt yn marw ar eu ffordd i’r ysbyty o ganlyniad i dagfeydd.

Syniad y myfyrwyr – a arweiniodd at eu buddugoliaeth yng nghystadleuaeth Abertawe – oedd system Rhyngrwyd Pethau sy’n hysbysu gyrwyr am gerbydau gwasanaethau brys sy’n nesáu o flaen llawn, er mwyn iddynt symud o’r neilltu.

Roedd Dyfeisio Dros y Blaned yn cynnwys 40 o brifysgolion a mwy na 600 o fyfyrwyr ledled y byd, ond Abertawe oedd yr unig brifysgol ym Mhrydain a gafodd wahoddiad i gymryd rhan. Fe’i cynhaliwyd gan y Coleg Peirianneg, a chymerodd 32 o fyfyrwyr o 15 o wledydd a saith disgyblaeth peirianneg ran.

Dewisodd myfyrwyr broblem peirianneg o restr o “Ddatganiadau o Angen” a ddarparwyd, gan gynnwys atal tanau gwyllt, atal newyddion ffug, lleihau tomenni o sbwriel yn y cefnforoedd a mynd i’r afael â phlastigion un tro. Yna, roedd gan dimoedd 48 awr i ymchwilio i’r pwnc, creu ateb, adeiladu prototeip a’i werthu fel syniad i banel o feirniaid.

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys yr Athro Huw Summers (Pennaeth y Coleg Peirianneg), Dr Laura Baker (Pennaeth, Rheoli a Datblygu Cynnyrch, Tata Steel Strip Products UK), Alyson Nicholson (Pennaeth JISC Cymru) a Neil Barron (sefydlydd Gusto Design Ltd) a noddwyd y digwyddiad gan y Gymrodoriaeth Peirianwyr mewn Busnes, sy’n elusen sy’n annog myfyrwyr peirianneg i gymryd rhan mewn cystadlaethau mentergarwch i wella eu sgiliau mewn busnes a masnach.

Dywedodd Mahmoud Elshenawy, a oedd yn aelod o’r tîm buddugol:

“Cymerais i ran mewn Dyfeisio Dros y Blaned yn fy mlwyddyn gyntaf a chefais i fudd mawr o’r cyngor a’r mentora a dderbyniais i gan fyfyrwyr a staff. Bellach, rwyf yn fy mlwyddyn olaf a phenderfynais gymryd rhan eto er mwyn talu’r gymwynas yn ôl a rhannu fy mhrofiad a’m gwybodaeth gydag eraill. Rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r tîm buddugol ac yn falch iawn o’n gwaith arloesol sydd â’r potensial i achub bywydau di-rif.”


Mae llwyddiant y tîm yn ganlyniad arall partneriaeth ffyniannus mae Prifysgol Abertawe wedi’i meithrin â phrifysgolion blaenllaw yn Nhecsas, megis A&M. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau cyfnewid myfyrwyr a phrosiectau ymchwil cydweithredol mewn meysydd megis Nanofeddygaeth.

Meddai Dr Caroline Coleman-Davies, sy’n arwain partneriaeth y Brifysgol â Thecsas:

“Mae Texas A&M yn brifysgol ag enw da rhyngwladol ac mae gennym berthynas hirsefydlog â hi ac rwyf yn gyffrous i helpu i gyflwyno Dyfeisio Dros y Blaned yn Abertawe unwaith yn rhagor. Mae’r cyfle i weithio mewn timoedd amlddisgyblaethol a rhyngweithio â chyfranogwyr o bedwar ban byd yn gyfle unigryw i’n myfyrwyr ac rydym yn gobeithio y bydd yn fantais iddynt yn eu hastudiaethau ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Meddai’r Athro Huw Summers, Pennaeth y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe:

“Roedd y Coleg Peirianneg wrth ei fodd i dderbyn gwahoddiad unwaith yn rhagor i gymryd rhan yn Dyfeisio Dros y Blaned. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n denu’r myfyrwyr disgleiriaf a gorau i astudio gyda ni, ac roedd Dyfeisio Dros y Blaned yn dystiolaeth o’r hyn mae gennym y potensial i’w wneud. Roedd y cysyniadau, y prototeipiau a’r ffyrdd o’u gwerthu a ddatblygwyd ganddynt mewn 48 yn unig yn drawiadol iawn, a hoffwn longyfarch yr holl dimoedd ar eu llwyddiannau.”

Ychwanegodd Kelly Jordan, Swyddog Entrepreneuriaeth Prifysgol Abertawe:

“Fel Swyddog Entrepreneuriaeth y Brifysgol, fy rôl i yw hyrwyddo a meithrin entrepreneuriaeth ymhlith myfyrwyr, ac felly roeddwn i wrth fy modd i arwain Dyfeisio Dros y Blaned ar ran y Brifysgol a helpu cynnydd y timoedd a’u strategaethau cyflwyno a gwerthu eu syniadau mewn 48 awr yn unig. Roedd ansawdd yr hyn a gynhyrchwyd ganddynt yn rhagorol.”

Cyflwynwyd y digwyddiad gan dîm a oedd yn cynnwys staff o bob rhan o’r Brifysgol, gan gynnwys Dr Caroline Coleman-Davies o Bartneriaeth Strategol Texas, Noemi Hilaireau a Dr Sarper Sarp o’r Coleg Peirianneg, a Kelly Jordan o’r Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi.

Rhannu'r stori