Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Arbenigwyr yn mynnu bod llywodraethau'n gweithredu ar frys i atal achosion o hunanladdiad oherwydd coronafeirws

Mae arbenigwyr yn rhybuddio llywodraethau bod angen iddynt roi 'ystyriaeth frys' i'w hymateb iechyd cyhoeddus er mwyn atal y pandemig coronafeirws rhag cael effaith ar nifer yr achosion o hunanladdiad. 

Mae pryder cynyddol ynghylch effaith bellgyrhaeddol bosib COVID-19 ar iechyd meddwl pobl ledled y byd ac mae'r canlyniadau'n debygol o bara'n hwy a chyrraedd penllanw'n hwyrach na'r pandemig ei hun.

Mae 42 o ymchwilwyr o bedwar ban byd, gan gynnwys yr Athro Ann John, Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, wedi ffurfio'r Gydweithrediaeth Ymchwil Ryngwladol i Atal Hunanladdiad oherwydd COVID-19.

Gan ysgrifennu yn The Lancet Psychiatry, maent yn dweud nad yw'n anochel y bydd nifer yr achosion o hunanladdiad yn cynyddu – ar yr amod bod camau gweithredu ataliol yn cael eu cymryd ar unwaith.

Meddai'r Athro John, un o awduron y papur, sydd hefyd yn Gadeirydd Grŵp Cynghori Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed: “Nid ydym yn gwybod eto a fydd pandemig COVID-19 a'r mesurau sy'n cael eu cymryd i'w liniaru yn effeithio ar gyfraddau hunanladdiad, ond rydym yn gwybod ei bod yn bosib atal achosion o hunanladdiad os byddwn yn cymryd camau i liniaru'r effeithiau hynny yn awr yn hytrach nag yn ddiweddarach.

“Mae'r camau hynny'n amrywio o gefnogi'r rhai hynny sy'n unig ac yn ddiamddiffyn, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen, pobl ifanc a galarwyr, i adroddiadau cyfrifol yn y cyfryngau a pholisïau economaidd.”

Mae'r awduron yn dweud bod enghreifftiau o ymyriadau'n cynnwys datblygu llwybrau gofal clir ar gyfer pobl sy'n ystyried hunanladdiad, asesiadau o bell neu ddigidol ar gyfer pobl sy'n derbyn gofal iechyd meddwl, hyfforddi staff er mwyn cefnogi ffyrdd newydd o weithio, cefnogi llinellau cymorth, darparu help hygyrch i'r rhai sydd wedi colli anwylyd o ganlyniad i'r feirws, darparu rhwydi diogelwch ariannol a rhaglenni ar gyfer y farchnad lafur, a lledaenu ymyriadau ar-lein sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Gwnaethant ychwanegu y gallai symptomau pobl ag anhwylderau seiciatrig waethygu ac y gallai pobl eraill ddatblygu problemau iechyd meddwl, yn enwedig iselder, gorbryder ac anhwylder straen wedi trawma.

Gall colli cyflogaeth a phryderon ariannol gyfrannu at ymdeimlad o anobaith. Yn ogystal â darparu rhwydi diogelwch ariannol yn y tymor byr, mae ymchwilwyr yn tanlinellu y bydd rhaglenni gweithredol ar gyfer y farchnad lafur yn ‘hollbwysig’ yn y tymor hir.

Wrth i nifer yr achosion o drais domestig gynyddu, mae academyddion yn argymell bod yn rhaid i ymatebion iechyd cyhoeddus sicrhau bod y rhai sy'n wynebu trais domestig yn cael eu cefnogi a bod negeseuon ynghylch yfed yn ddiogel yn cael eu cyfleu.

Meddai'r grŵp byd-eang o arbenigwyr: “Dyma adeg heb gynsail. Bydd y pandemig yn peri gofid ac yn gadael llawer o bobl yn ddiamddiffyn. Mae'r canlyniadau o safbwynt iechyd meddwl yn debygol o bara'n hwy a chyrraedd penllanw'n hwyrach na'r pandemig ei hun.

“Fodd bynnag, mae tystiolaeth ymchwil a phrofiad strategaethau cenedlaethol yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer atal hunanladdiad. Dylem fod yn barod i gymryd y camau sy'n cael eu hamlygu yma, a'u cefnogi drwy fod yn wyliadwrus a chydweithio'n rhyngwladol.”

Efallai y bydd angen ymdrechion ychwanegol mewn rhai gwledydd ag incwm is lle ceir cymorth llesiant annigonol a llai o adnoddau iechyd cyhoeddus. Mae'r pryderon eraill yn y gwledydd hyn yn cynnwys effaith gymdeithasol gwahardd cynulliadau crefyddol ac angladdau, trais domestig a gweithwyr mudol diamddiffyn.

Mae'r Gydweithrediaeth Ymchwil Ryngwladol i Atal Hunanladdiad oherwydd COVID-19 hefyd yn ailddatgan y gall adroddiadau anghyfrifol am achosion o hunanladdiad arwain at ragor o achosion. Dylai newyddiadurwyr sicrhau bod adroddiadau'n dilyn canllawiau presennol a chanllawiau penodol i COVID-19.

 

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori