Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cleient yn debryn cyngor cyfreithiol.

Ers ei lansio ym mis Awst 2017, mae'r nifer o gleientiaid sy'n defnyddio'r cyngor cyfreithiol am ddim gan fyfyrwyr yng Nghlinig y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi mwy na dyblu.

O ganlyniad i'r galw cynyddol, yn ddiweddar symudodd y Clinig i gyfleusterau proffesiynol pwrpasol a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy'r prosiect Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru. Wedi'i leoli yng nghanol Campws Parc Singleton y Brifysgol, mae Clinig y Gyfraith wedi lansio clinigau galw heibio newydd a gweithgareddau allgymorth.

Y llynedd, daeth 76 o bobl i'r clinig am ddim ar gyfer cyngor a chymorth cyfreithiol cychwynnol – mwy na ddwywaith y nifer a'i ddefnyddiodd rhwng Medi 2017 ac Awst 2018.

Mae'r cynnydd cyflym yn y nifer o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau wedi'i gysylltu ag anawsterau wrth gael mynediad at gyngor cymorth cyfreithiol, yn enwedig o ran problemau tai.

Dadansoddodd Cymdeithas y Gyfraith ddata o gyfeiriadur yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (Chwefror 2019) a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (2017), a ddatgelodd bod yng Nghymru a Lloegr:

  • 37% o'r boblogaeth yn byw mewn ardal awdurdod lleol heb ddarparwyr cymorth cyfreithiol tai.
  • Dros hanner o'r awdurdodau lleol heb wasanaethau cymorth cyfreithiol tai.

Meddai'r Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe: "Aeth y toriadau mawr mewn cymorth cyfreithiol sifil yn 2013 â chyfraith teulu a thai y tu allan i gwmpas cymorth cyfreithiol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Mae diffyg cyfreithwyr tai cymorth cyfreithiol, sy'n golygu os yw rhywun o fewn cwmpas cymorth cyfreithiol, gall fod yn anodd dod o hyd i gyfreithiwr cymorth cyfreithiol â'r arbenigedd a'r gallu i dderbyn y cleient. Dyma ble y gallwn gynnig cymaint o gymorth ag y gallwn.

"Mae'r rhan fwyaf o achosion a welwn yng Nghlinig y Gyfraith yn ymwneud â thai, gyda'r mwyafrif o ymholiadau mewn perthynas â landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo. Rydym wedi cael rhai cleientiaid a oedd yn wynebu digartrefedd, ond nid oedd unrhyw asiantaeth arall yn gallu eu helpu. Mae'r cymorth a'r gefnogaeth a ddarparwn yn wirioneddol hanfodol i'r rhai sy'n tro atom.

"Yn gynharach yr wythnos hon, roedd gennym gynifer o gleientiaid y bu rhaid cael myfyrwyr ymgynghorwyr ychwanegol. Gyda TA Law yn cau yn ddiweddar, un o bractisiau cymorth cyfreithiol mwyaf Abertawe, does dim amheuaeth gen i y bydd y galw am ein gwasanaethau yn parhau i dyfu."

Caiff yr holl gyngor a ddarperir gan y tîm o fyfyrwyr gwirfoddol sydd wedi'u hyfforddi'n llawn yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe ei oruchwylio gan ymarferydd cymwys y gyfraith.

Mae myfyrwyr y gyfraith a throseddeg yn arbenigo mewn:

  • Cyfraith Teulu
  • Tai
  • Cyflogaeth
  • Llesiant
  • Contractau
  • Budd-daliadau

Ni all Clinig y Gyfraith Abertawe ddarparu cymorth ar gyfer materion sy'n ymwneud â mewnfudo, cyfraith droseddol, ysgrifennu, treth, dyled, lloches neu fewnfudo..

Yn ogystal â'i waith achos gyda chleientiaid, mae gan y clinig dîm allgymorth sy'n gweithio gydag ysgolion lleol, gan addysgu plant ar sut mae'r gyfraith yn effeithio ar eu bywydau, ac mae hefyd yn rhedeg prosiect camweinyddiad cyfiawnder.

Mae myfyrwyr hefyd yn elwa mewn sawl ffordd o wirfoddoli yn y clinig.

Dywedodd Isabel Francis, myfyriwr Cwrs Arfer Cyfreithiol sy’n gwirfoddoli yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe: “Mae fy amser yn y clinig wedi gwneud imi ddeall yr angen am wasanaethau pro bono. Yn aml ni all cleientiaid fforddio cyngor cyfreithiol yn rhywle arall ac mae'n bwysig bod gan bobl fynediad at wasanaethau cyfreithiol sylfaenol.

“Rydym fel myfyrwyr yn ffodus ein bod ni'n cael cymaint o brofiad ymarferol trwy wirfoddoli. Yn y clinig, rydym yn cael datblygu sgiliau cyfweld, cofnodi achosion, ymchwil gyfreithiol ymarferol, yn ogystal â sgiliau meddal fel delio â phobl bregus. Rydym hefyd yn cael profiad o waith allgymorth yng Ngharchar Abertawe a Gofal Maggie, a thrwy'r Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder rydym yn dysgu am dechnegau ymchwilio, rheoli dogfennau, ymchwilio i'r heddlu, gwyddoniaeth fforensig a rheolau tystiolaeth droseddol.”

Rhannu'r stori