Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Oriel Science yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gyfer Gwyddoniaeth Wych Abertawe

Bydd Oriel Science Prifysgol Abertawe'n dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddydd Sul 8 Mawrth i gynnal "Gwyddoniaeth Wych Abertawe" fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Rhwng 11am a 4pm, bydd ymwelwyr o bob oedran yn gallu mwynhau dros 25 o arddangosion gwyddonol rhyngweithiol yn ystod y digwyddiad hwn sydd am ddim.  Y llynedd, daeth bron 3,600 o ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am y digwyddiad.

Eleni, gall ymwelwyr gymryd rhan mewn "Campau Pw" i ddarganfod sut mae chwilod y dom a dadelfenwyr eraill yn cynnig gwasanaeth ailgylchu mor bwysig i bobl, dysgu cyfrinachau mymïo a ddefnyddid yn yr Hen Aifft a rhyngweithio â hylifau sy'n gallu ymddwyn fel solidau a solidau sy'n gallu ymddwyn fel hylifau.  

Ynghyd â hyn oll, gall ymwelwyr weld sut mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Ymchwil Deunyddiau (MRC) Prifysgol Abertawe'n ceisio datblygu deunyddiau adeiladu glanach a gwyrddach.

Bydd gwesteion iau yn gallu ymweld â'r Ysbyty Tedi Bêrs a bydd efelychydd car rasio Prifysgol Abertawe ar gael i bawb brofi eu sgiliau ar y trac rhithwir. Gall y teulu cyfan rasio o amgylch orielau'r amgueddfa i ganfod yr 8 baner Olympaidd yn Llwybr y Gemau Olympaidd i nodi'r Gemau Olympaidd a gynhelir yn Tokyo dros yr haf. 

Dyma rai o uchafbwyntiau'r arddangosfa:

  • Iaith swyngyfareddion: Creu eich swyn eich hun
  • Hwyl gyda gwaed gyda The Blood Suckaz
  • Gwrando ar stori Mary Anning, y casglwr ffosilau Prydeinig enwog/o fri [?]gwych, gan rywun wedi gwisgo fel Mary Anning
  • Dewch yn llu! Dewch yn llu! Mae'r Carnifal Cemeg yn y dref!
  • Datrys Drysfa: Crancod yn erbyn Robotiaid
  • Efelychydd gyrru car Rasio Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe
  • Ysbyty Tedi Bêrs

 

Cynhelir sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y dydd. Dewch i gwrdd â menywod neilltuol y mae eu bywydau a'u gyrfaoedd wedi'u llywio gan wyddoniaeth mewn gweithdai rhyngweithiol a thrafodaethau panel ar y cyd â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a dewch i weld yr arddangosfa 100 o Fenywod o Gymru sy'n ysbrydoli i weld y menywod arbennig sydd wedi llywio ein hanes.

Gallwch hefyd ymuno â'r arbenigwr acwsteg, Dr Mark Lewney, yn ei ddarlith sy'n procio'r meddwl ac yn esbonio ffiseg roc gan ddefnyddio cytganau o Vivaldi i AC/DC, cyfrinach y Stradivarius a sut gallai dirgryniadau llinynnau fod wrth wraidd y cwestiynau mawr am y bydysawd.

Yn ddiweddarach, ewch â'r daith i'r gofod a dysgu popeth am fod yn ofodwr gyda Neil Monteiro o'r Theatr Wyddoniaeth, yna dilynir hyn gan y biolegydd bywyd gwyllt, Lizzie Daly, a fydd yn eich tywys ar daith ar hyd arfordir Cymru i drafod straeon cadwraeth ac anturiaethau gyda bywyd gwyllt ar draws Cymru.

Meddai'r Athro Chris Alton, Cyfarwyddwr Oriel Science:

"Rydym wrth ein boddau’n cynnal digwyddiad Gwyddoniaeth Wych Abertawe am y drydedd flwyddyn yn olynol. Unwaith eto, bydd y cyhoedd yn cael y cyfle i weld ciplun o ymchwil arobryn Prifysgol Abertawe mewn arddangosiadau rhyngweithiol a llawn ysbrydoliaeth.

"Mae gwyddoniaeth yn cyffwrdd â chynifer o agweddau ar fywyd modern ac mae arwyddion clir y bydd prinder sgiliau yn y maes hwn. Mae Gwyddoniaeth Wych Abertawe wedi'i greu er mwyn annog y genhedlaeth nesaf i ddewis pynciau gwyddoniaeth yn yr ysgol i helpu i fynd i’r afael â’r prinder hwn a dilyn gyrfaoedd buddiol.

"Mae gwyddoniaeth i bawb, waeth beth yw'ch rhyw neu'ch cefndir. Felly mae'n hynod bwysig i ni helpu i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gyda'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod. Cynhelir nifer o sgyrsiau cyhoeddus gan arweinwyr yn eu meysydd sy'n fodelau rôl ardderchog i'n gwyddonwyr benywaidd, ifanc."

Mwy o wybodaeth am Wyddoniaeth Gwych Abertawe, y sgyrsiau a'r gweithdai dan sylw, a sut i archebu.

Rhannu'r stori