Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y labordy cyffredinol yn adran ffiseg y Brifysgol, 1920.

Mae cynlluniau i lansio rhaglen gradd fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe bellach ar waith ond nid dyma fydd y tro cyntaf i fferyllwyr gael eu hyfforddi yn y ddinas.

Mae'r Brifysgol, sy'n dathlu ei chanmlwyddiant eleni, yn gwneud y paratoadau terfynol i'w Gradd MPharm newydd sy'n dechrau yn 2021, 91 o flynyddoedd ar ôl i'r myfyriwr fferylliaeth olaf gymhwyso yn Abertawe. 

Yn ôl yr hanesydd Fferylliaeth, Briony Hudson, roedd Ysgol Fferylliaeth Abertawe yn un o rwydwaith a gyflwynwyd ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghaerdydd, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf fel ffordd o gynnig hyfforddiant galwedigaethol defnyddiol ar gyfer miloedd o ddynion a fu'n gwasanaethu wrth iddynt ddychwelyd. 

Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn Pharmaceutical Historian, esboniodd  “pharmacists were then seen as a key part of a system that marked the first step towards today’s welfare state in Britain”. 

Yn ôl hysbyseb yn The Chemist and Druggist o 1919, roedd yr Ysgol Fferylliaeth yng Ngholeg Technegol Bwrdeistrefol yn Mount Pleasant, Abertawe, yn cynnig cwrs 9 mis o hyd i weithio tuag at yr arholiad cymhwyso gyda Chymdeithas Fferylliaeth Prydain Fawr. Y ffi am gwrs amser llawn oedd £15 15s, sef tua £850 erbyn heddiw. 

Agorodd yr ysgol ym mis Hydref 1919 – yn union 102 o flynyddoedd cyn rhaglen y Brifysgol, a chafodd ei hadnabod fel Coleg Fferylliaeth Gorllewin Cymru. 

Parhaodd i fod yn llwyddiannus am ddegawd, gyda chefnogaeth frwd gan y gymuned fferyllol leol nes i'w phennaeth gael ei benodi'n brif fferyllydd yn Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain. 

Byddai anghydfod chwerw ynglŷn â chyflog ei olynydd yn arwain at dynnu cydnabyddiaeth y Coleg yn ôl gan y Gymdeithas Fferylliaeth fel sefydliad a oedd yn cynnwys yr arholiad cymhwyso wedi 31 Gorffennaf, 1930 a bu'n rhaid iddo gau ei ddrysau.  

Meddai'r Athro Andrew Morris, Pennaeth Fferylliaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, ei fod yn falch o fod yn rhan o'r rhaglen sydd wedi'i hadfywio a'i fod yn edrych ymlaen at barhau â thraddodiad fferyllol Abertawe. 

“Mae'n hynod ddiddorol darllen ymchwil Briony am y rôl a chwaraewyd gan Abertawe yn y gorffennol. Yn union fel y sbardunwyd yr hyfforddiant fferyllol gwreiddiol gan alw cenedlaethol, ein nod ni yw darparu cwrs sy'n cydnabod galwadau a chyfleoedd yr 21ain ganrif i fferyllwyr." 

Dywedodd fod yr ymchwil wedi dangos bod addysg fferyllol wedi bod yn rhan bwysig o ofal iechyd  a bod y rôl bellach yn edrych fel y bydd yn ehangu'n fwy nag erioed. 

"Mae datblygiadau a gweithgareddau sylweddol gan GIG Cymru wedi arwain at gynnydd yn nifer y fferyllwyr sy'n gweithio mewn meddygfeydd cyffredinol a chlystyrau gofal cynradd, yn ogystal â fferyllwyr cymunedol sy'n darparu llawer mwy o wasanaethau â ffocws clinigol," meddai. 

"Mae Llywodraeth Cymru am i'r gwasanaeth iechyd roi mwy o bwyslais ar atal afiechydon, a chefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain, yn ogystal â grymuso pobl i fyw'n annibynnol am mor hir ag y gallant. Bydd ein fferyllwyr ni'n rhan hollbwysig o sefydlu'r byd newydd hwn." 

Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, yr Athro Keith Lloyd: “Mae lansiad ein cwrs MPharm fis Hydref y flwyddyn nesaf yn nesáu. 

“Mae'n ymddangos yn briodol iawn wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant yma yn y Brifysgol ein bod ni'n cofio ein gorffennol wrth gynllunio at gyfleoedd cyffrous yn y dyfodol. Mae cyflwyno'r cwrs hwn yn dangos ymrwymiad yr Ysgol Feddygaeth i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gallu helpu i fodloni gofynion gofal iechyd modern."

Darllenwch erthygl Briony Hudon Demobilised troops and approved schools: The aftermath of the First World War as a catalyst for change in British pharmaceutical education yn llawn.

Rhannu'r stori