Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Yr Athro Reed gyda sgrin gyfrifiadur yn y cefndir

Dengys ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgolion Abertawe a Milan bod myfyrwyr sy'n defnyddio gormod o dechnoleg ddigidol yn llai parod i ymgysylltu â'u hastudiaethau, ac yn fwy pryderus am brofion. Gwaethygwyd yr effaith hon gan y teimladau cynyddol o unigrwydd a gynhyrchwyd gan y defnydd o dechnoleg ddigidol.

Fe wnaeth 285 o fyfyrwyr prifysgol, a gofrestrodd ar ystod o gyrsiau gradd yn ymwneud ag iechyd, gymryd rhan yn yr astudiaeth. Fe'u haseswyd am eu defnydd o dechnoleg ddigidol, eu sgiliau astudio a'u hysgogiad, pryder ac unigrwydd. Canfu'r astudiaeth berthynas negyddol rhwng dibyniaeth ar y rhyngrwyd ac ysgogiad i astudio. Roedd y myfyrwyr hynny a oedd yn fwy caeth i'r rhyngrwyd hefyd yn ei chael hi'n fwy anodd trefnu eu dysgu'n gynhyrchiol, ac roeddent yn fwy pryderus am eu profion yn y dyfodol. Canfu'r astudiaeth hefyd fod bod yn gaeth i'r rhyngrwyd yn gysylltiedig ag unigrwydd, a bod yr unigrwydd hwn yn gwneud astudio yn fwy anodd.

Dywedodd yr Athro Phil Reed o Brifysgol Abertawe (yn y llun): “Awgryma’r canlyniadau hyn y gallai myfyrwyr sydd â lefelau uchel o ddibyniaeth i'r rhyngrwyd fod mewn perygl arbennig o astudio’n llai, ac, felly, gyda pherfformiad academaidd gwirioneddol is.”

Dywedodd tua 25% o'r myfyrwyr eu bod yn treulio dros bedair awr y dydd ar-lein, gyda'r gweddill yn nodi eu bod yn treulio rhwng un i dair awr y dydd. Prif ddefnydd y rhyngrwyd ar gyfer sampl y myfyrwyr oedd rhwydweithio cymdeithasol (40%) a chanfod gwybodaeth (30%).

Mae’r Athro Truzoli o Brifysgol Milan. Meddai: “Dangoswyd bod bod yn gaeth i’r rhyngrwyd yn amharu ar ystod o alluoedd megis rheoli ysgogiad, cynllunio, a sensitifrwydd i wobrau. Gallai diffyg gallu yn y meysydd yma wneud astudio’n fwy anodd.”

Yn ychwanegol at y cysylltiadau rhwng y lefelau o ddibyniaeth ar y rhyngrwyd ac ysgogiad a gallu astudio gwael, canfuwyd bod bod yn gaeth i'r rhyngrwyd yn gysylltiedig â mwy o unigrwydd. Dengys y canlyniadau bod unigrwydd, yn ei dro, yn ei gwneud hi'n fwy anodd i fyfyrwyr i astudio.

Yn ôl yr astudiaeth awgryma bod unigrwydd yn chwarae rhan fawr mewn teimladau cadarnhaol am fywyd academaidd mewn addysg uwch. Mae'r rhyngweithiadau cymdeithasol tlotach y gwyddys eu bod yn gysylltiedig â dibyniaeth ar y rhyngrwyd yn gwaethygu unigrwydd, ac, yn ei dro, yn effeithio ar ysgogiad i gymryd rhan mewn amgylchedd addysgol cymdeithasol iawn fel prifysgol.

Ychwanegodd yr Athro Reed: “Cyn i ni barhau i ymlwybro ar hyd y daith o ddigideiddio cynyddol ein hamgylcheddau academaidd, rhaid i ni oedi i ystyried a yw hyn mewn gwirionedd yn mynd i sicrhau'r canlyniadau rydyn ni eu hangen. Efallai cyniga’r strategaeth hon rhai cyfleoedd, ond mae hefyd yn cynnwys risgiau nad ydyn nhw wedi'u hasesu'n llawn eto. "

Rhannu'r stori