Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Llyfr newydd yn trafod pam mae gofid a thrawma bwydo ar y fron yn bwysig

Mae llyfr newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe yn archwilio beth a olyga bwydo ar y fron i fenywod, sut maen nhw'n teimlo pan nad yw pethau'n llwyddo ac yn bwysig, sut y gellir gwella gofal, cefnogaeth a chanlyniadau ar gyfer cenedlaethau o fenywod y dyfodol.

Yn ei llyfr newydd, Why Breastfeeding Grief and Trauma Matter, mae’r Athro Amy Brown ymchwilydd blaenllaw i fwydo babanod ym Mhrifysgol Abertawe, yn archwilio effeithiau sydd gan atal cynnar bwydo ar y fron yn ar fenywod.

Tra bod canllawiau iechyd yn hyrwyddo bwydo ar y fron, y DU ac Iwerddon sydd â'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y byd. Mae llawer o fenywod eisiau bwydo ar y fron ond mae anawsterau wrth gael gafael ar gymorth arbenigol, gwybodaeth anghywir ac agweddau negyddol gan y cyhoedd yn golygu bod llawer yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron cyn eu bod yn barod.

Mewn gwirionedd nid yw 90% o fenywod sy'n rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yn ystod y chwe wythnos gyntaf yn barod i wneud hynny a gall hyn gael effaith ddinistriol ar eu hiechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd eu hawydd am fwydo ar y fron yn cael ei rhoi naill ochr ac mae llawer yn teimlo cymysgedd o ofid, dicter, euogrwydd a rhwystredigaeth a all gael effaith ddwys ar eu profiad cynnar o famolaeth.

Dywedodd yr Athro Brown: ‘Am gyfnod rhy hir dywedwyd wrth fenywod nad oes ots os nad ydyn nhw wedi gallu bwydo eu babi ar y fron. Er y gellir dweud hyn mewn caredigrwydd, a gall rhai bod yn dawel eu meddwl am eu penderfyniad, i eraill gall y neges hon annilysu profiadau menywod ar sawl lefel.

“Nid yw bwydo ar y fron yn unig yn ymwneud â sicrhau bod eu babi yn cael ei fwydo; mae'n hawl atgenhedlu menyw i'w chorff weithio yn y ffordd y mae'n ei ddisgwyl a gall gallu bwydo ar y fron fod yn gysylltiedig yn agos â'i hunaniaeth, ei diwylliant a'i chrefydd.

“Rhaid i ni roi’r gorau i ddweud wrth fenywod nad yw eu profiadau o bwys ac yn hytrach cydnabod yr hyn y gallai fod wedi’i golli, trwy swyddogaeth gorfforol i’r ffordd a ffafrir o fod yn fam. Ac yn anad dim mae'n rhaid i ni barhau i weithio i newid pethau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o famau, fel bod llai yn profi'r gofid, y siom a hyd yn oed trawma na all methu â bwydo ar y fron ei gynnig."

Lleolir yr Athro Amy Brown yn Department of Public Health, Policy and Social Sciences ym Mhrifysgol Abertawe yn y DU ble mae’n Gyfarwyddwr Llaethiad, Bwydo Babnod ac Ymchwil Trawsfudol

Mae Why Breastfeeding Grief and Trauma Matter ar gael gan Pinter & Martin 5ed o Ragfyr am £8.99.

Rhannu'r stori