Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr yn dathlu graddio o Brifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw'r safle uchaf ymhlith prifysgolion Cymru yng Nghanllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2020.

Mae'r tabl cynghrair yn graddio prifysgolion ar sail naw dangosydd, gan gynnwys boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu; eu profiad ehangach fel myfyrwyr; ansawdd ymchwil; rhagolygon graddedigion; cymwysterau mynediad myfyrwyr newydd; canlyniadau gradd a gyflawnwyd; cymarebau myfyrwyr/staff; gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau; a chyfraddau cwblhau gradd.

Mae cryfderau'r Brifysgol o ran boddhad myfyrwyr a phrofiad ehangach y myfyrwyr wedi bod yn ffactorau pwysig yn ei llwyddiant eleni, gan helpu Abertawe i gyrraedd brig y tabl yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol. Yn y tabl, mae Abertawe yn safle 20 yn y Deyrnas Gyfunol am brofiad myfyrwyr, sy'n dystiolaeth o'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr wneud y gorau o'u hamser gyda ni. Er enghraifft, mae gan y Brifysgol bartneriaeth â thros 100 o sefydliadau tramor, gyda nifer o raddau'n cynnig cyfleoedd tramor i fyfyrwyr.

Mae Abertawe hefyd yn parhau i greu argraff o ran ffigurau rhagolygon graddedigion. Mae yn safle 12 yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y mesur hwn, a thrwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe, mae'n darparu interniaethau â thâl ochr yn ochr â chydlynu cynlluniau ar gyfer datblygu gyrfaol. Mae'r Brifysgol yn gweithio i ehangu cyfranogiad, ac o'r flwyddyn nesaf bydd Uned Ymestyn Allan Prifysgol Abertawe'n ceisio cynyddu diddordeb mewn addysg uwch ymhellach ymhlith ystod eang o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae'n hynod galonogol gweld bod Abertawe unwaith eto wedi cyrraedd y brig yng Nghymru, gyda boddhad myfyrwyr ardderchog a lefelau neilltuol o ran rhagolygon graddedigion. Dengys hyn bod ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi eu hamser yma yn Abertawe, a'u bod yn cael cefnogaeth ar hyd y ffordd i fwynhau rhagolygon gwych i raddedigion. Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn ennill pleidlais y Brifysgol Orau yn y Deyrnas Gyfunol yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2019, ac mae'n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad yr holl staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol."

Caiff Canllaw Prifysgolion Da The Times and The Sunday Times 2020 ei gyhoeddi yn The Sunday Times ar ddydd Sul 22 Medi, gyda dau atodiad pellach yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Llun a dydd Mawrth, 23 a 24 Medi. Byddant yn canolbwyntio ar y prifysgolion gorau o ran ansawdd addysgu a phrofiad myfyrwyr a'r prifysgolion sy'n cyrraedd y brig mewn meysydd pwnc gwahanol.

Rhannu'r stori