Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gethin Llewelyn o Brifysgol Abertawe, gyda Sylvia Robert-Sargeant a Simon Holt o'r Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru

Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe sy'n datblygu technegau mwy ystyriol o'r amgylchedd i weithgynhyrchu ceir wedi ennill dyfarniad gwerth £1,000 gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru a fydd yn caniatáu iddo rannu ei waith ag arbenigwyr eraill.

Mae Gethin Llewelyn o'r Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe’n ymchwilio i dechneg o'r enw mowldio chwistrellu ewyn (FIM), a ddefnyddir i greu cydrannau polymer ysgafn y mae angen llai o ynni a pholymer crai i'w gweithgynhyrchu.

Llun:  Gethin Llewelyn o Brifysgol Abertawe gyda Sylvia Robert-Sargeant a Simon Holt o'r Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru 

O 2020, daw deddfwriaeth amgylcheddol Ewropeaidd i rym, gan roi dyletswydd ar y diwydiant moduron i leihau'r allyriadau carbon sy'n cael eu creu wrth gynhyrchu cerbydau.  Bellach ni chaniateir i weithgynhyrchwyr greu mwy na 95 gram o garbon deuocsid fesul cilomedr ar gyfer pob car sy'n cael ei gynhyrchu.  Un ffordd bosib o ymateb i hyn yw cynhyrchu ceir ysgafnach, a dyna pam mae'r diwydiant yn archwilio technegau gweithgynhyrchu newydd.

Mae Gethin yn cydweithio â nifer o gwmnïau moduron mawr i asesu sut mae'r dechnoleg FIM hon yn effeithio ar ansawdd y cydrannau terfynol a ddefnyddir mewn ceir.

Yn ei brosiect cyntaf, dangosodd y gallai cydrannau ar sail sbwng polypropylen, a gynhyrchir drwy dechneg o'r enw mowldio chwistrelliad MuCell®, bwyso 15% yn llai na chydrannau a gynhyrchir gan ddefnyddio dulliau confensiynol.  I wirio eu perfformiad, cynhaliwyd profion mecanyddol ar y cydrannau a chawsant eu hasesu gan synwyryddion pwysedd ceudod mowld soffistigedig.

Mae ymchwil pellach ar y gweill ar hyn o bryd i ddatblygu offeru ysgafn a fyddai hefyd yn lleihau'r ynni a ddefnyddir yn y broses weithgynhyrchu.

Y gwaith hwn a enillodd y dyfarniad gwerth £1,000 gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru i Gethin, yn dilyn cystadleuaeth a oedd yn agored i ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe sydd yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd. 

Un o nodau'r Cwmni, a sefydlwyd ym 1933, yw "hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau yng Nghymru". Mae'n cyflawni hyn drwy helpu pobl ifanc ledled Cymru i feithrin eu doniau a'u sgiliau drwy gyfrwng rhaglen flynyddol o ddyfarniadau ac ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal â phrentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.


Bydd Gethin yn defnyddio dyfarniad y Cwmni Lifrai i deithio i Valladolid yn Sbaen er mwyn cymryd rhan yn FOAMS 2019, cynhadledd ryngwladol ar gyfer arbenigwyr ym maes ewynnu plastig. Bydd yn traddodi sgwrs, sy'n fraint i ymchwilydd ifanc, ac yn cyflwyno papur yn y gynhadledd. Bydd hyn yn gyfle iddo rannu ei ymchwil a chwrdd â darpar gydweithredwyr er mwyn datblygu ei waith ymhellach.

Meddai Gethin Llewelyn o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe:

"Mae fy ymchwil yn dangos bod y dechneg hon yn gallu helpu i wneud y diwydiant ceir yn wyrddach, drwy leihau'r ynni a ddefnyddir a'r allyriadau carbon sy'n cael eu creu yn y broses weithgynhyrchu.

Elfen hanfodol o ymchwil yw gallu cwrdd ag arbenigwyr eraill yn y maes a thrafod syniadau â nhw, a dyna pam mae'r gynhadledd hon yn gyfle mor bwysig. Gallai fod yn sylfaen cydweithrediadau ymchwil pellach â thimau eraill.

Felly, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cwmni Lifrai am y dyfarniad a fydd yn fy ngalluogi i fynd i'r gynhadledd. Mae eu cefnogaeth i ymchwil yng Nghymru'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr, a bydd yn helpu i roi Prifysgol Abertawe ar fap ewynnu plastig."

Mae ymchwil Gethin yn rhan o brosiect Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) Prifysgol Abertawe, sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Wrth gyflwyno'r dyfarniad hwn i Gethin, meddai Sylvia Robert-Sargeant, un o feirniaid y gystadleuaeth hon:

"Un o nodau'r Cwmni yw annog a chefnogi myfyrwyr i ddatblygu prosiect penodol. Rydym yn codi arian drwy ddigwyddiadau elusennol amrywiol a hefyd drwy ymestyn allan, nid yn unig i aelodau'r Cwmni Lifrai, ond hefyd i'r gymuned ehangach yng Nghymru drwy wahodd cylchoedd busnes, sefydliadau a chyrff eraill yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyrwyddo addysg, gwyddoniaeth a thechnoleg a'r celfyddydau yng Nghymru i gefnogi ein gweithgareddau.

Mae gwaith Gethin yn dangos sut gall gwaith blaengar fel hwn wneud cyfraniad hollbwysig at un o'n prif ddiwydiannau yng Nghymru. Mae'n bleser mawr gennym allu cefnogi ei ymdrechion i feithrin cysylltiadau ag arbenigwyr eraill yn y maes hwn."

Rhannu'r stori