Croeso i’r Coleg Peirianneg

Mae Prifysgol Abertawe yn parhau i gynnal ei safle fel un o'r prif brifysgolion yn y DU ar gyfer Peirianneg.

Trwy ein hamrywiaeth o gyfleoedd astudio israddedig ac ôl-raddedig, ein nod yw i fyfyrwyr ddatblygu'r potensial i ddod yn arweinwyr a phencampwyr diwydiant yn y dyfodol, neu i fod yn barod i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer gyrfa mewn ymchwil.

Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a rhaglen fuddsoddi barhaus i ddarparu adnoddau a chyfleusterau rhagorol, mae'r Coleg Peirianneg yn darparu amgylchedd gwych i astudio neu gynnal ymchwil.

Ein hymchwil

O ddatblygu'r Dull Elfen Gyfyngedig yn Abertawe yn y 1960au i'n hymchwil heddiw yn troi adeiladau yn orsafoedd pŵer, rydym yn ymdrechu i'n hymchwil gael effaith wirioneddol.

Cymerwch olwg ar ein hymchwil ar waith: darganfyddwch sut rydym wedi bod yn gwneud gwahaniaeth.

Cydweithio â ni

Mae gennym lawer i'w gynnig, gan gynnwys staff â gwybodaeth arbenigol mewn meysydd amrywiol, cyfleusterau ymchwil a phrofi o safon fyd-eang. Yn ogystal â gwella sgiliau'ch gweithlu presennol, gall ein graddedigion o’r radd flaenaf ychwanegu ato.

Eisiau rhagor o wybodaeth? E-bostiwch neu ffoniwch 01792 295514

dyn yn arwyddo contract
Dysgwch ragor am sut allwn ni gydweithio