Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Bydd canolfan ymchwil arloesol sy'n canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc yn cael ei sefydlu gyda £10m gan Sefydliad Wolfson, un o elusennau mwyaf blaenllaw'r DU.

Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a gaiff ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol lle bydd arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgolion ac ysgolion ledled Cymru.

Meddai Paul Ramsbottom, prif weithredwr Sefydliad Wolfson: “Mae llawer rhagor i'w ddeall am achosion problemau iechyd meddwl, yr hyn sy'n eu hatal a sut i'w trin, ac mae'n faes sydd heb gael ei ariannu'n ddigonol yn y DU yn y gorffennol.

“Bydd y Ganolfan yn creu cysylltiadau ardderchog gydag ysgolion a gwasanaethau iechyd ledled Cymru, a phrofiadau pobl ifanc fydd yn llywio'r ymchwil. Bydd y cyfan yn seiliedig ar set ddata sy'n rhoi mantais benodol i Gymru yng nghyd-destun ymchwil yn y maes hwn.

“I ni yn Sefydliad Wolfson, mae wir yn anrhydedd i ni chwarae ein rhan.”

Bydd Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar bum maes gwyddonol:

  • Bydd yn edrych ar ddata hydredol sy'n olrhain plant dros amser er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae gorbryder ac iselder yn datblygu. Bydd hefyd yn ystyried gwahanol resymau dros y cynnydd diweddar mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. 
  • Bydd yn edrych ar rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn achosion o orbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
  • Bydd yn datblygu ac yn profi cynllun ymyrraeth newydd er mwyn cefnogi pobl ifanc a theuluoedd os oes rhiant yn dioddef o orbryder.
  • Bydd yn edrych ar rôl ysgolion wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.
  • O dan arweiniad arbenigwyr o Brifysgol Abertawe sy'n gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, bydd yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yng Nghymru yn unig er mwyn cael gwell dealltwriaeth o ddeilliannau tymor hir y bobl ifanc sy'n cael profiad o orbryder ac iselder.

Bydd holl ganfyddiadau gwyddonol Wolfson yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc, ymarferwyr a llunwyr polisïau a chaiff y wybodaeth a gynhyrchir ei defnyddio i lywio iechyd cyhoeddus a pholisïau ysgolion er mwyn ceisio hyrwyddo iechyd meddwl gwell ymhlith pobl ifanc.

Yr Athro Frances Rice o Brifysgol Caerdydd fydd yn cyfarwyddo'r ganolfan newydd ochr yn ochr â'r Athro Stephan Collishaw. Wrth groesawu'r buddsoddiad, meddai'r Athro Rice: “Rydym yn gwybod na chaiff 75% o bobl ifanc sydd ag anhwylder gorbryder neu iselder gydnabyddiaeth o'u salwch nac unrhyw ymyrraeth ar ei gyfer. Mae'r effaith ar yr unigolyn ifanc, eu teuluoedd a'u cyfleoedd mewn bywyd yn gallu bod yn drychinebus.

“Dyna pam yr ydym mor falch, yn dilyn proses ddethol drylwyr, bod Sefydliad Wolfson wedi dewis gwneud buddsoddiad mor sylweddol i sefydlu Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. 

“Am y tro cyntaf, byddwn yn gallu dod ag arbenigwyr ynghyd o feysydd seiciatreg plant a phobl ifanc, geneteg, gwyddorau cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru i daflu goleuni ar iechyd meddwl pobl ifanc a datblygu ymyraethau newydd a mawr eu hangen.”

Dywedodd yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe: “Mae Canolfan Wolfson yn rhoi pwyslais o’r newydd ar ymdrechion ymchwil er mwyn deall a thrawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sy’n dioddef o orbryder ac iselder.

“Yn seiliedig ar ragoriaeth ymchwil aml-ddisgyblaethol a phartneriaeth gref rhwng Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn y maes, bydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer hwyluso ymchwil a chynyddu momentwm yn y maes. Y nod fydd mynd i’r afael â materion hanesyddol sydd wedi arwain at fylchau o ran triniaethau ac atal yn ogystal â’r anghydraddoldebau ym mywydau’r rhai sydd â gorbryder ac iselder yng Nghymru a thu hwnt.”

Yn ogystal ag arweinwyr academaidd ar gyfer pob maes ymchwil, bydd deg Cymrawd Ôl-ddoethurol Arweinwyr y Dyfodol Wolfson yn cael eu penodi.

Mae trefniadau ar y gweill hefyd i gael nifer o fyfyrwyr PhD Wolfson yn ogystal ag ysgol haf iechyd meddwl pobl ifanc sy'n rhoi hyfforddiant ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc i gymrodyr, myfyrwyr ac ymarferwyr sydd ar gamau cynnar eu hyfforddiant proffesiynol.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori