Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cyflwynwyd Gwobr Ryngwladol Seren Asia i’r Athro Andrew Barron, Cadeirydd Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Sêr Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gwyddonydd blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei enwi’n enillydd cyntaf anrhydedd ryngwladol nodedig.

Cyflwynwyd Gwobr Ryngwladol Seren Asia i’r Athro Andrew Barron, Cadeirydd Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd Sêr Cymru a Chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe

Yn ôl Undeb Cymdeithas Cenhedloedd De-ddwyrain Asia (ASEAN), Gwobrau Seren Asia yw’r prif wobrau rhyngwladol sy’n anrhydeddu rhagoriaeth ym maes addysg a chydweithio diwydiannol, yn ogystal ag arwain effaith gymdeithasol strategaeth ASEAN.  

Sefydlwyd Gwobrau Seren Asia yn 2017, ac eleni cafwyd bron 95 o gynigion amdanynt o bob rhan o’r byd. Dyfarnir y wobr bob dwy flynedd i unigolion sy’n chwarae rhan flaenllaw ar lefel strategol datblygu ac ymgynghori â sefydliadau yn rhanbarth ASEAN. Nod Gwobrau Seren Asia yw dathlu gwerthoedd uniondeb, arweinyddiaeth, creadigrwydd, meddylfryd sy’n rhoi gwasanaeth yn gyntaf, ac agwedd “ddi-ildio”, sy’n dod o hyd i atebion ac yn cynghori sefydliadau ochr yn ochr â chymryd camau dilynol a sicrhau eu bod yn deall syniadau. 

Derbyniodd yr Athro Barron y wobr am ei waith helaeth gyda llywodraethau, prifysgolion a diwydiannau yn rhanbarth ASEAN. 

Meddai: “Mae’n fraint cael derbyn y wobr hon. Rwy’n credu bod rhaid i ryngweithio â sefydliadau partner a diwydiant fod er budd pawb. Mae angen gwrando ar yr hyn sydd gan eraill i’w ddweud a chreu strategaeth sy’n darparu rhyngweithio creadigol, cynaliadwy ac ystyrlon.” 

Cyflwynir y Gwobrau gan y Brifysgol Agored Ryngwladol ar gyfer Meddyginiaethau Cyflenwol (OIUCM). Dywedodd ei Chadeirydd, yr Anrhydeddus John Amaratunga, Noddwr ac Ymddiriedolwr Medicina Alternativa Sri Lanka: “Roedd y dyfyniadau a gawsom gan yr amrywiol lywodraethau, prifysgolion a diwydiannau yn rhanbarth ASEAN yn datgan bod yr Athro Andrew Barron wedi chwarae rhan flaenllaw yn newid ac yn dadansoddi pwysigrwydd gweithio gyda diwydiannau a phrifysgolion. 

“O ganlyniad, dewisodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ei enwebiad ef yn unfrydol, a’i gymeradwyo i ennill y wobr. Ef yw’r cyntaf i dderbyn y wobr hon ers iddi gael ei sefydlu yn 2017.” 

Yr Athro Barron, a fu gynt yng llenwi Cadair Cemeg Charles W Duncan Jr-Welch ym Mhrifysgol Rice, yw Cyfarwyddwr presennol ESRI, lle mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar gipio, defnyddio ac atafaelu carbon (CCUS), yn ogystal â datblygu strategaethau i ddadgarboneiddio diwydiant a lleihau effaith amgylcheddol systemau ynni presennol. 

Meddai: “Mae’r argyfwng amgylcheddol byd-eang y mae’r ddynoliaeth yn ei wynebu yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed i academia feddwl yn rhyngwladol, yn gydweithredol, ac yn agored er mwyn ymateb i heriau newid yn yr hinsawdd. Dim ond trwy bartneriaethau byd-eang y gallwn ymateb i’r heriau hynny.”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Rydym ni’n falch iawn bod gwaith arloesol yr Athro Barron wedi cael ei gydnabod ar lwyfan rhyngwladol. 

“Mae ei drefniadau cydweithio hirsefydlog yn enghraifft ragorol o’r perthnasoedd llwyddiannus mae ein hacademyddion wedi’u creu gyda chydweithwyr ar draws y byd. 

“Rydym yn awr yn edrych ymlaen at gefnogi ymchwil barhaus yr Athro Barron a’r tîm yn ESRI mewn maes sydd mor bwysig.”

Darganfyddwch fwy am ESRI

Rhannu'r stori