Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Menyw yn defynddio peiriant mas spectromeg

Bydd Prifysgol Abertawe'n ymuno â Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio fel partner cysylltiol, yn dilyn £18.5m gan y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol (BBSRC).

Mae Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio yn gydweithrediad hyfforddiant doethurol o fri sy'n dod â phrifysgolion Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg ynghyd â Rothamsted Research, a'r partneriaid cyswllt newydd gan gynnwys:

  • Cymdeithas Bioleg y Môr (MBA)
  • Labordy Morol Plymouth (PML)
  • SETsquared Bristol
  • UCB Pharm
  • Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE)

Caiff tyr ariannu gan BBSRC ei ddefnyddio i gryfhau'r rhaglen hyfforddiant doethurol mewn meysydd ymchwil hanfodol, gan gynnwys dyframaeth, gwyddor planhigion a'r pridd, heneiddio'n iach a maeth, systemau anifeiliaid, niwrowyddoniaeth, a llawer mwy.

Bydd Prifysgol Abertawe'n cyfrannu arbenigedd sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang wrth astudio dyframaeth drwy'r Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy. Mae'r Ganolfan yn cynnig cyfleusterau a hyfforddiant sgiliau ymchwil heb eu hail ar gyfer dadansoddi sbectrometreg màs, gan gynnwys offer delweddu sbectrometreg màs o'r radd flaenaf.

Bydd yr arbenigedd a roddir gan Brifysgol Abertawe hefyd yn manteisio ar gryfderau ymchwil trawsbynciol ym meysydd bioddadansoddi a diogelwch bwyd, sy'n cynnwys disgyblaethau gan gynnwys meddygaeth a'r biowyddorau.

Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio yn cyflawni rhaglen ddwys dros bedair blynedd i ymchwilwyr PhD yn y biowyddorau, gan gynnwys cyfleoedd i astudio prosiectau ymchwil sy'n cylchdroi a hyfforddiant arloesedd i gael effaith yn y byd go iawn.

Dywedodd y Dirprwy Is-ganghellor yr Athro Steve Wilks: "Mae'n bleser gennym ymuno â'r consortiwm o fri hwn sydd wedi'i gydnabod ers amser am gyflawni hyfforddiant doethurol rhagorol ym maes y biowyddorau. Mae'r bartneriaeth newydd hon yn cryfhau ein cysylltiadau â phrifysgolion blaenllaw yng Nghymru a de-orllewin Lloegr, a bydd yn manteisio ar ein cyfleusterau a'n hymchwil arloesol ym meysydd dyframaeth, diogelwch bwyd a seilwaith bioddadansoddi.

“Mae'r dyfarniad hwn yn dilyn nifer o lwyddiannau i Brifysgol Abertawe wrth sicrhau cyllid hyfforddiant doethurol gan UKRI, ac mae'n pwysleisio ymhellach ein safle fel canolfan ragoriaeth flaenllaw yn y DU ar gyfer ymchwil ôl-raddedig.

Meddai'r Athro Nuria Lorenzo-Dus, Deon Ymchwil Ôl-raddedig: "Mae Prifysgol Abertawe'n enwog am ei harbenigedd ymchwil ym maes dyframaeth, ac mae ganddi gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog. Mae'n wych gweld bod Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio a'i hariannwr, BBSRC yn cydnabod y cryfderau cyfunol hyn.

“Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol SWBio yn ymuno â rhestr o endidau hyfforddiant doethurol sydd gan y sefydliad, a gall ei hymchwilwyr PhD edrych ymlaen at ymuno ag amgylchedd croesawgar gyda chyfleoedd hyfforddiant a datblygiad ymchwil ôl-raddedig arbenigol yn ogystal â digwyddiadau a chyfleoedd i'r garfan."

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori