Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Gŵyl Being Human

Bydd diwrnod hwyl i'r teulu am ddim sy'n ymwneud â llong ryfel Harri'r VIII, y Mary Rose, yn arwain Gŵyl Being Human eleni, a chroesewir ymwelwyr i ddringo ar fwrdd y llong am anturiaethau rhyfeddol ar y moroedd mawr.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, perfformiadau a chlerddynion a bydd cyfle i greu drama Tuduraidd, cloddio am drysor a dysgu ffeithiau hynod ddiddorol a chyfrinachau sinistr am fywyd ar fwrdd y llong enwog a llawer mwy. Bydd cyfle hefyd i ymweld ag arddangosfa o drysorau’r Mary Rose, sy'n dod â byd hynod ddiddorol llong ryfel y Tuduriaid a'i chriw a gollwyd mewn brwydr ym 1545 yn fyw.

Dechreuir y cyfan yn Oriel Gelf Glynn Vivian ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, o 11am tan 3pm, gyda sgyrsiau am 11.30am a 12.30pm.

Arweinir Gŵyl Being Human gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Trefnir digwyddiadau Abertawe gan y Sefydliad Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.

Bydd yr Ŵyl, a gynhelir rhwng 14 a 23 Tachwedd, yn canolbwyntio ar y thema Ailddarganfod Abertawe: o'r tir i'r môr, ac mae'n cynnwys rhaglen lawn o weithgareddau creadigol, perfformiadau, gweithdai a thrafodaethau. Mae pynciau’r digwyddiad yn amrywio o Pinocchio wedi’i ail-enwi mewn cymdeithas orllewinol fodern, disgleirdeb Sherlock Holmes, byd sinistr llofruddiaeth ar hyd yr oesoedd, i deulu diwydiannwr dylanwadol Abertawe, teulu Vivian.

Mae rhaglen Gŵyl Being Human hefyd yn cynnwys Darlith Flynyddol fawreddog Richard Burton. Bydd y cyfansoddwr o Gymru, Rhian Samuel, yn rhannu ei phrofiadau fel cyfansoddwr cerddoriaeth glasurol yn UDA a’r DU yn ei darlith, o’r enw ‘Now I Become Myself: a Woman’s Voice in Music and Poetry’.

Cynhelir y ddarlith, a drefnir mewn partneriaeth â Chanolfan Richard Burton Prifysgol Abertawe, yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe am 7.30pm nos Fercher 20 Tachwedd.

Yn y ddarlith, bydd Rhian yn myfyrio ar y gorffennol pan oedd cyfansoddwyr benywaidd yn brin iawn, i drafod faint yn fwy cyffredin ydyn nhw heddiw a sut mae'r newid hwn wedi cyfoethogi ein diwylliant. Yn ymuno â hi bydd y soprano Siân Dicker a bydd Kristal Tunnicliffe yn cyfeilio ar gyfer perfformiad o Gerddi Hynafol, gosodiadau o dri thestun Cymraeg canoloesol yn ôl pob golwg gan fenywod, a'r gân 'Before Dawn' wedi'i gosod i gerdd, 'Galaru i Wneud', gan yr Americanwr May Sarton.

Meddai Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol y Sefydliad Diwylliannol: “Rydym yn falch iawn o fod yn cynnal hwn fel rhan o Ŵyl Being Human 2019 ac rydym am ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi'r cyfle cyffrous hwn i ni ddod â'n hymchwil i gallon y gymuned unwaith yn rhagor."

Dysgwch fwy am ddigwyddiadau’r Ŵyl.

Rhannu'r stori