Dewiswyd y Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe fel un o chwech canolfan ar gyfer Bod yn Ddynol 2019, unig ŵyl ddyniaethau genedlaethol y DU.
 
Bellach yn ei chweched flwyddyn, arweinir Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Mae’r bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd y tri phrif gorff sy’n ymroi i gefnogi a hyrwyddo ymchwil yn y dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.
 
Gyda’r thema Ddarganfyddiadau a Chyfrinachau, cynhelir dathliad y dyniaethau eleni yn genedlaethol rhwng 14 a 23 Tachwedd 2019, gyda chyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ledled Abertawe.
 
O dan thema ganolog Ailddarganfod Abertawe: o’r tir i’r môr, gall cynulleidfaoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, perfformiadau, trafodaethau ac arddangosfa, o ddiwrnod hwyl i’r teulu’n darganfod bywyd ar y llong ryfel Tuduraidd, y Mary Rose, i noson yn archwilio athrylith Sherlock Holmes. Bydd cyfle i wylio Pinocchio wedi’i ailddychmygu i’r gymdeithas orllewinol fodern, sgwrs ryngweithiol am fyd tywyll llofruddiaethau drwy’r oesoedd, a chipolwg ar hanes teulu diwydiannol dylanwadol Abertawe, y teulu Vivian, a llawer mwy! 
 
Cyflwynir y digwyddiadau hyn gan y Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.
 
Dywedodd Dr Elaine Canning (Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol, Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe): “Rydym yn hynod falch o gynnal canolfan ŵyl fel rhan o Bod yn Ddynol 2019 a dymunwn ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi’r cyfle cyffrous yma i ni ddod â’n hymchwil i’r gymuned unwaith yn rhagor.”

Ddarganfod ein rhaglen
 

Nos Iau 14 Tachwedd

Dydd Gwener 15 Tachwedd

Dydd Sadwrn 16 Tachwedd

Dydd Llun 18 Tachwedd

Nos Fawrth 19 Tachwedd

Nos Fercher 20 Tachwedd

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd

Digwyddiad Mawr Rhoi Llyfrau am ddim

Digwyddiad Mawr Rhoi Llyfrau am ddim

Ymunwch â ni am ein helfa lyfrau i’r teulu ar draws dinas Abertawe o ddydd Sadwrn 16 Tachwedd! Cyn dathlu canfed pen-blwydd y Brifysgol, byddwn yn cuddio cant o lyfrau yn y lleoedd mwyaf dirgel -  ar y traeth, yn un o’n parciau hyfryd, neu efallai mewn arhosfan bws! Os ydych yn dod o hyd i lyfr, cewch ei gadw! Bydd pob llyfr hefyd yn cynnwys neges arbennig, a phan fyddant wedi mynd, ni fydd dim mwy ar gael!

Rediscovering Swansea - arddangosfa newydd

Rediscovering Swansea - a new exhibition

Ymunwch â ni am arddangosfa newydd sy’n addas i’r teulu cyfan lle cewch gyfle i ailddarganfod eich dinas!

  • Byddwch yn dysgu am y teulu Vivian a hanodd o Gernyw’n wreiddiol, a’u bywyd yn Abaty Singleton
  • Cewch fwy o wybodaeth am y gweithfeydd copr a oedd yn guriad calon bywyd yn Abertawe
  • Dewch i ddathlu canmlwyddiant Prifysgol Abertawe sydd ar ddod yn 2020 a chael cipolwg ar ei hanes 

14 - 23 Tachwedd 
Lleoliad: Llfrgell Campws Singleton Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP
Amser: Agored 24awr

nid oes angen tocyn - galw heibio!



rhaglenni'r gorffennol