Cyfres Salon Llenyddol

Digwyddiadau i ddod - 2021
26ain Ionawr - 'Crime Fiction and Legal Truth'
'Crime Fiction and Legal Truth'

Dydd Mawrth 26ain Ionawr | 4yp-5yp
Yn y digwyddiad ar-lein arbennig hwn, bydd panel o arbenigwyr ym maes ffuglen droseddol, ysgrifennu nofelau cyffrous a'r Gyfraith yn trafod y croestoriad rhwng ffuglen droseddol a'r gwir cyfreithiol. Beth yw'r berthynas rhwng ffuglen droseddol a throsedd wirioneddol? I ba raddau y mae'n rhaid i'r awdur nofelau ditectif ddod yn arbenigwr cyfreithiol? Sesiwn llawn gwewyr sy'n canolbwyntio ar ffuglen droseddol Ewropeaidd yng nghwmni'r bargyfreithiwr amlwg a Phennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe, yr Athro Elwen Evans CF, ynghyd â Philip Gwynne Jones, a anwyd yn Abertawe sy'n awdur y nofelau trosedd hynod lwyddiannus "Nathan Sutherland" (a leolir yn Fenis) a'r cyfieithydd a'r golygydd Dr Kat Hall, arbenigwr mewn nofelau cyffrous Almaenaidd a chrëwr 'Mrs Peabody Investigates.' Mewn sgwrs â'r Athro D.J. Britton, Dramodydd a Phennaeth Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.
Y Panelwyr
Mae'r Athro Elwen Evans CF yn Ddirprwy Is-ganghellor ac yn Ddeon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi hefyd yn gyfrifol am bortffolio Iaith a Diwylliant Cymraeg y Brifysgol.
Astudiodd Elwen y Gyfraith yng Ngholeg Girton Caergrawnt gan raddio â dosbarth cyntaf dwbl: M.A. (Cantab). Roedd hi'n ffodus i dderbyn amrywiaeth o ysgoloriaethau gan ei Choleg, ei Phrifysgol a'i chorff proffesiynol. Ar ôl graddio, mynychodd Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Frawdlys a chafodd ei galw i'r Bar yn Ysbyty Gray ym 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002. Mae Elwen wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn fel bargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae hi wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, gan arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif a phroffil uchel, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a'r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi'n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu'n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd, gan ymddiswyddo adeg ei phenodi ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n Feinciwr yn ei Hysbyty, cafodd ei hanrhydeddu gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i'r Gyfraith yng Nghymru a bu'n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, cafodd ei chynnwys ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.
Ymunodd Elwen â Phrifysgol Abertawe yn 2015 pan gafodd ei phenodi'n Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg lle mae hi wedi cefnogi’r Coleg i dyfu a thrawsnewid yn ganolfan gyffrous a dynamig ar gyfer dysgu, addysgu, ymchwil, effaith ac ymgysylltu. Heddiw, cydnabyddir bod Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol ar flaen y gad o ran arloesi ym maes addysg ac ymarfer y gyfraith.
Ym mis Hydref 2020, penodwyd Elwen i'w rôl newydd - Dirprwy Is-ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.
Ganwyd Philip Gwynne Jones yn Abertawe ym 1966, a bellach mae ef yn gweithio fel ysgrifennydd, athro a chyfieithydd yn Fenis. Ei nofel gyntaf, 'The Venetian Game', oedd Nofel Gyffrous Waterstones y Mis ar gyfer mis Mawrth 2018, a nofel lwyddiannus ymhlith y 5 Orau yn ôl y Times.Mae ei nofel ddiweddaraf, 'Venetian Gothic' bellach ar gael, ac mae pedair nofel ychwanegol ar y gweill.Mae ef wedi ysgrifennu ar gyfer y Sunday Times a'r Big Issue, ac mae ef yn westai cyson ar BBC Radio Wales. Yn ei amser hamdden mae ef yn mwynhau coginio, celf, cerddoriaeth glasurol ac opera; ac yn achlysurol gellir ei weld a'i glywed yn canu bas gyda'r Cantori Veneziani. Cyhoeddwyd Philip gan Little, Brown dan yr argraffnod Constable.
Mae Dr Kat Hall yn gyfieithydd ac yn olygydd. Mae hi'n Gyswllt Ymchwil Er Anrhydedd mewn Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu'n gweithio fel darlithydd am flynyddoedd lawer. Mae hi'n olygydd Crime Fiction in German: Der Krimi (UWP 2016) ac mae'n cynnal y blog ditectif ‘Mrs Peabody Investigates’. Ar hyn o bryd, mae hi'n cyfieithu Punishment gan Ferdinand von Schirach, bargyfreithiwr o'r Almaen sydd bellach yn nofelydd ditectif.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
COFRESTRWCH YMA
28ain Ionawr - 'The Book of Jem' - Carole Hailey
'The Book of Jem - Carole Hailey mewn sgwrs â Alan Bilton'

Nos Iau 28ain Ionawr | 7yh-8yh
Crynodeb o Lyfrau
Yn sgîl nifer o ryfeloedd crefyddol trychinebus, mae Duw wedi’i wahardd. Wrth i’r eira gwympo, mae menyw ifanc – Jem – yn cyrraedd Underhill. Mae’r gymuned ddiarffordd ac ynysig yn rhoi lloches iddi, ond yn ddiarwybod iddyn nhw bydd hyn yn cychwyn cyfres o ddigwyddiadau fydd yn peryglu’u bodolaeth a’u heinioes. Mae Jem yn rhoi gwybod i’r gymuned bod Duw wedi’i hanfon i Underhill i baratoi’r pentrefwyr at gyflawni perwyl dinistriol ac ysgubol. Mae rhai o’r farn mai proffwyd yw hi ac maen nhw’n herio’r gyfraith er mwyn ymuno â’i chrefydd, sef Edafedd Duw. Mae pobl eraill yn bendant ei bod yn rhaffu celwyddau. Eileen yw’r gyntaf a’r selocaf ymhlith y ffyddloniaid, ac wrth iddi weld bod cymuned fregus y pentref yn dechrau dadfeilio, mae hi’n penderfynu cofnodi geni’r grefydd newydd hon yn ei Llyfr Jem ei hun. Wrth i ffyddloniaid Edafedd Duw ymgasglu i weld diwedd y byd, bydd y geiriau mae Eileen wedi’u hysgrifennu’n pennu ffawd Underhill a Jem ei hunan yn y pen draw. Ond oes modd ymddiried yn Eileen i ddweud y gwir? A sut gall unrhyw un wybod beth i’w gredu?
Am y Awdur
Wedi blynyddoedd o fethu ysgrifennu yng nghanol y nos, rhoddodd Carole Hailey y gorau i yrfa broffidiol fel cyfreithwraig i fod yn nofelydd tlawd. Wedi hynny, enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Goldsmiths ac yna ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn 2020. Cafodd Carole ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Nofel Gyntaf Cystadleuaeth Bridport 2020 ac mae hi’n un o’r Awduron sy’n dod i’r brig a gafodd gymorth gan y London Library ar gyfer 2020/21. The Book of Jem yw ei nofel gyntaf.
Mewn cysylltiad â Watermark Press
COFRESTRWCH YMA
5ed Chwefror - ‘Poetry of the 19th Century: Alexander S. Pushkin’ - yr Athro Elena A. Keshokova
‘Poetry of the 19th Century: Alexander S. Pushkin’ - yr Athro Elena A. Keshokova

Dydd Gwener 5ed Chwefror | 2yp-4yp
Gelwid Alexander S. Pushkin yn “Sun of Russian Poetry” gan ei gyfoedion. Roedd gan y bardd dras ryfeddol. Roedd hen-dadcu ei fam, un o'r bobl fwyaf hyddysg ei gyfnod, yn ddisgynnydd teulu Abysinaidd tywysogaidd nodedig gan wasanaethu'n ffyddlon y Pedr Fawr, Tsar Rwsia. Mae cofiannau cyndeidiau Pushkin mor ddiddorol â nofelau'r 18fed a'r 19eg ganrif. Ysgrifennodd Pushkin:
My pride of blood I have subdued;
I'm but an unknown singer
Simply Pushkin, not Moussin,
My strength is mine, not from court:
I am a writer, a citizen.
Dywedodd yr ysgrifennwr blaenllaw o Rwsia, Ivan Turgenev, mai un o nodweddion arbennig barddoniaeth Pushkin oedd symlrwydd rhadlon a chlyfar. Yn ei ysgrifennu, roedd yn ymgysylltu mewn deialog greadigol foddhaus â beirdd y Gorllewin - Shakespeare, Voltaire, Byron, a Walter Scott yn eu plith.
Dylanwadodd barddoniaeth bolyffonig Pushkin yn helaeth ar nifer fawr o feirdd Rwsia gan greu iaith farddonol newydd. Roedd y bardd yn hanesydd effeithlon hefyd: gosododd ei arwyr o gynfyd Rwsia'r sylfeini ar gyfer y nofel hanesyddol Rwsiaidd.Helpodd disgrifiadau dynamig y bardd o gymeriadau amrywiol ei fywyd a'i oes i greu delwedd hynod animeiddiedig o Rwsia gan ei gwneud hi'n bosib i alw ei brif waith, Eugene Onegin, yn “wyddoniadur bywyd Rwsia."Bydd y ddarlith hefyd yn esbonio pam mae barddoniaeth Pushkin mor anodd i'w chyfieithu, a pham nad yw ei ysgrifennu wedi datblygu'n ddatguddiad i ddarllenwyr y Gorllewin.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
COFRESTRWCH YMA
11eg Chwefror - 'Advent' - Jane Fraser
‘Advent: Jane Fraser mewn sgwrs â Alan Bilton'

Nos Iau 11eg Chwefror | 7yh-8yh
Crynodeb o Lyfrau
Gaeaf 1904, ac mae Ellen, 21 oed a llawn ysbryd, wedi cael ei galw yn ôl o'i bywyd newydd yn Hoboken, New Jersey, i ddychwelyd i fferm ei theulu ar benrhyn Gŵyr gwyntog, mewn ymgais olaf i achub bywyd ei thad alcoholig. Mae hi'n dychwelyd i deulu sydd mewn anhrefn llwyr. Wrth i’w iechyd ddirywio, mae William yn colli rhannau helaeth o dir y teulu Thomas drwy gamblo; yn rhwystredig, mae Eleanor yn galaru am y gŵr roedd yn ei adnabod ers talwm; ac mae brodyr iau Ellen - gefeilliaid - yn wynebu dewisiadau anodd. Yn ei hymdrech i roi trefn ar fywydau ei theulu, mae Ellen yn brwydo yn wyneb un penderfyniad amhosib ar ôl y llall. A hithau'n ddyfeisgar, yn angerddol ac yn ddi-flewyn ar dafod, a ddylai hi aros ym Mro Gŵyr lle mae cynifer o gyfyngiadau ar fywyd menyw o hyd? A fydd hi'n gallu dioddef bod mor agos at ei chariad coll? A fydd hi'n dewis cartref a dyletswydd, neu gyffro a chyfle, ochr draw'r Iwerydd?
Am y Awdur
Mae Jane Fraser, yn byw, yn gweithio ac yn ysgrifennu ar benrhyn Gŵyr, de Cymru, mewn tŷ sy'n wynebu'r môr. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o ffuglen fer, 'The South Westerlies', gan SALT yn 2019. Bydd ei nofel gyntaf, 'Advent', yn cael ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2021 gan HONNO, y wasg annibynnol hynaf yn y DU sy'n arbenigo mewn ysgrifennu gan fenywod. Yn 2017, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Ffuglen Manceinion; ac yn 2018, bu ymhlith enillwyr Gwobr Fish Publishing am Hunangofiant. Graddiodd o Brifysgol Abertawe â gradd MA (rhagoriaeth) a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Bu'n un o Ysgrifenwyr wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli yn 2018 ac yn 2019. Mae hi'n fam-gu i Megan, Florence ac Alice.
www.janefraserwriter.com
Twitter @jfraserwriter
Mewn cysylltiad â Honno Press
COFRESTRWCH YMA
17eg Chwefror - 'The New Face of Russian Literature' - Yr Athro Aleksey Varlamov
'The New Face of Russian Literature' - Yr Athro Aleksey Varlamov

Dydd Mercher 17eg Chwefror | 2yp-4yp
Mae llenyddiaeth Rwsieg yn mynd drwy gyfnod - sy'n unigryw yn ei hanes - o ryddid ac annibyniaeth lwyr ar yr awdurdodau. Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Aleksey Varlamov yn trafod tueddiadau newydd mewn llenyddiaeth Rwsieg, gan gynnwys rôl yr ysgrifennydd fel adroddwr straeon, yn hytrach na phroffwyd neu ideolegwr, yn ogystal â'r dirwedd lenyddol bresennol yn Rwsia. Bydd y pwyslais ar lenyddiaeth ffeithiol, gwaith bywgraffyddol a statws mudiadau megis Realaeth, Ôl-realaeth ac Ôl-foderniaeth. Trafodir hefyd i ba raddau y gallwn ddeall y presennol drwy weithiau Zakhar Prilepin, R Senchin, A Salnikov a Grigorij Sluzhitel.
Yr Athro Aleksey Varlamov yw Rheithor Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky, Moscow. Mae ef hefyd yn ysgrifennydd blaenllaw, yn gyhoeddwr ac yn ymchwilydd i hanes llenyddiaeth Rwsieg yr 20fed ganrif ac mae ei lyfrau wedi cael eu cyfieithu i sawl iaith.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
COFRESTRWCH YMA
8fed Mawrth - Lizzie Fincham a Emily Vanderploeg
Digwyddiad barddoniaeth ar-lein arbennig i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Lizzie Fincham a Emily Vanderploeg mewn sgwrs â Alan Bilton

Dydd Llun 8fed Mawrth | 2yp-3yp
Contained in Ice gan Lizzie Fincham
Teimladwy, cain ac amserol, mae synhwyrau craff a rhythmau imagistaidd Lizzie Fincham yn rhoi cipolwg i ni o dan arwyneb bywyd, i'r cysylltiadau dyfnach. A phob amser yn rhedeg drwy'r harddwch a’r delweddau sy’n dwyn byd natur i gof naturiol, y mae rhybuddion: 'The woods are turning to smoke'; 'As it always has, the bell tolls'… mae sensitifrwydd y farddoniaeth yn cuddio pwysigrwydd y themâu: y colledion a'r gobaith - mae Contained in Ice yn cynnwys 'yr holl bethau bychain. a'r holl bethau mawr.'
Loose Jewels gan Emily Vanderploeg
Lle mae gwreiddiau hunaniaeth? Mewn cenedligrwydd neu draddodiad? Iaith neu le? Neu efallai fod hunaniaeth yn rhywbeth symudol a byw - treiglad amser rhwng cartref ein genedigaeth a'r cartref rydym yn ei greu. A hithau’n wyres i fewnfudwyr o Hwngari a'r Iseldiroedd i Ganada ac yn fewnfudwr ei hun i Gymru a Hwngari, yn y cerddi hyn mae Emily Vanderploeg yn ceisio gwneud synnwyr o lwybrau, rhai a etifeddir a'i rhai ei hun.
Bywgraffiadau'r Awduron
Mae Lizzie Fincham, a anwyd ym mro Gŵyr, yn astudio am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Mae 80 o'i cherddi wedi cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion a chasgliadau amrywiol, gan gynnwys New Welsh Review, Poetry Wales, North, French Literary Review, New Zealand Review. Mae Lizzie wedi cyrraedd rhestrau byr llawer o wobrau, gan gynnwys gwobr nodedig y Bridport Prize am farddoniaeth deirgwaith. Yn 2017 dyfarnwyd y wobr gyntaf iddi am Brexit Blues yng Nghystadleuaeth Farddoniaeth Brighton. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf, Green Figs and Blue Jazz, gan Cinnamon Press yn 2017. Cyhoeddwyd ei phamffled diweddaraf, Contained in Ice, gan Cinnamon Press yn 2020.
Mae Emily Vanderploeg yn ysgrifennu ffuglen, barddoniaeth ac adolygiadau. Astudiodd Saesneg a Hanes Celf ym Mhrifysgol y Frenhines ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe (MA, PhD), ac mae hi'n addysgu ysgrifennu creadigol i blant ac oedolion. Mae Emily yn un o Ysgrifenwyr Wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli a derbyniodd fwrsariaeth Ysgrifennwr Newydd gan Literature Wales yn 2019 i weithio ar ei nofel. Enillodd ei phamffled, Loose Jewels, Gystadleuaeth Pamffledi Cinnamon Press a chafodd ei gyhoeddi yn 2020. Cyhoeddir casgliad cyntaf Emily o farddoniaeth, Strange Animals, gan Parthian Books yn 2022. Yn enedigol o Aurora, Ontario, mae hi bellach yn byw yn Abertawe.
Mewn cysylltiad â Cinnamon Press
COFRESTRWCH YMA
Digwyddiadau Blaenorol yn y Gyfres
‘Cross Currents: The Fiction of History' - Dai Smith CBE
4ydd Tachwedd 2020
Mae Dai Smith yn adfyfyrio ar y cerrynt croes deallusol yn ei fywyd fel hanesydd a nofelydd wrth iddo lansio ei nofel ddiweddaraf, The Crossing, mewn sgwrs â Jon Gower.
Mae’r nofel yn adeiladu ar drioleg Dai ar hanes ffugiol De Cymru ddiwydiannol gan ei chwblhau. Mae The Crossing, polyffonig ac aml-leisiol, yn gymysgedd trawiadol a phryfoclyd o’r gwirionedd a’r dychmygol wrth gydblethu tynghedau unigol, rhai go iawn a rhai ffug, gyda cyfeiriad tynghedlon a ffurfiol cymdeithas.
Mae Dai bellach yn ysgrifennu gwaith creu atgofion nid yw’n hunangofiant nac yn gofiant yn ei farn ef ond, yn hytrach, y ddwy ffurf yn hongian yn yr atgof.
Mewn cysylltiad â PARTHIAN
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
‘Entering the Yellow Hous' - Alan Bilton'
26ain Tachwedd 2020
Crynodeb o Lyfrau
Ganolbarth Rwsia, 1919, sanatoriwm a ynyswyd gan anhrefn rhyfel sifil Rwsia. Mae llofruddiaeth y prif feddyg yn cychwyn cyfres hunllefus o ddigwyddiadau gan gynnwys arbrofion dirgel, yr heddlu dirgel, dyblwr y Tsar, ‘ymwelydd’ llawn enigma, cyrff meirw enfawr, cathod cythreulig, dewindabaeth a gwallgofrwydd llethol rhyfel, yn y nofel hanesyddol ryfeddol a hynod o doreithiog hon.
Adolygiada
"A bold and confident novel that throws us into the deep end of post-revolutionary Russian life with fervour and wit. There are knowing nods to Gogol and Bulgakov but the voice is entirely original, with a gem of a phrase on every page. I love the quizzical, querulous, dry voice and it’s a satisfying whilst sometimes disorientating experience... the characters are larger than life, but the mud is real. Alan Bilton has a real talent for the unexpected left-hand turn, with lines that turn on a sixpence and surreal narrative twists. It reads like a very modern translation of a 19th century Russian classic – if that sounds like your kind of thing, you will love this book." - Mark Blayney
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
'The Murenger and Other Stories' - Jon Gower
3ydd Rhagfyr 2020
‘In Jon Gower's fifth collection of short fiction, he has unleashed a motley crew of rambunctious characters... These unique stories are a melting pot of wild imagination and inventive language, conjured up with a drop of magic realism, a hint of the surreal and a soupçon of fable.’ - Madeleine D’Arcy, awdur Waiting for the Bullet
Am yr Awdur
Mae Jon Gower yn awdur mwy na 30 o lyfrau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys The Story of Wales a fu’n gydymaith i gyfres drobwynt y BBC, An Island Called Smith a enillodd iddo Wobr Ysgrifennu Teithio John Morgan, ac Y Storïwr a enillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae’n gyn-ohebydd y celfyddydau a’r cyfryngau i BBC Cymru ac am flynyddoedd lawer, bu’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, First Hand. Mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Sarah a’i ferched Elena ac Onwy.
'Cyfres Salon Llenyddol' Sefydliad Diwylliannol
‘Margery Kempe’s Spiritual Medicine' - Laura Kalas
9fed Rhagfyr 2020
Crynodeb o'r Llyfr
Margery Kempe, a aned ym 1373, yw'r fenyw gyntaf hysbys i ysgrifennu hunangofiant yn yr iaith Saesneg. A hithau’n fenyw weledigaethol, afieithus, yn afreolus yn aml, a fu'n byw yn y gymuned leyg, nid oedd ei ffurf arbennig ar ysbrydolrwydd bob amser yn cael ei chymeradwyo mewn amgylchedd diwylliannol a oedd yn aml yn tybio bod mynegiant 'gormodol' gan fenyw yn annormaledd neu'n heresi. Margery Kempe’s Spiritual Medicine: Suffering, Transformation and the Life-Course (D.S. Brewer) yw'r astudiaeth lawn gyntaf o The Book of Margery Kempe o safbwynt y dyniaethau meddygol. Gan harneisio'r syniad canoloesol hollbresennol o Grist y Meddyg, mae'n cynnig ffordd newydd o ddarllen y lyfr fel hanes ymgysylltiad personol Kempe â pharadeimau meddygol lle bu’n destun goddefol o’r blaen. Gan ganolbwyntio ar ryngweithiadau meddygaeth, cyfriniaeth ac atgenhedlu fel prosiect ffeministaidd, mae'r llyfr hwn yn ddarlun eang o gylch bywyd, gan archwilio ymwybyddiaeth barhaus Kempe am ei chorff cyfriniol a'u gwrthodiad i gyfaddawdu ar ei greddf i ddangos sut mae hi’n teimlo yn ddi-flewyn ar dafod.
Am yr Awdur
Mae Laura Kalas yn Ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi wedi cyhoeddi mewn sawl cyfnodolyn academaidd, wedi cyfrannu at The Literary Encyclopedia a chyhoeddi erthyglau yn The Conversation a The Independent. Mae ei gwaith ar y rysáit feddygol ar ddiwedd The Book of Margery Kempe wedi cael sylw yn The Guardian a'r BBC History Magazine. Margery Kempe’s Spiritual Medicine yw ei llyfr cyntaf.
Mewn cydweithrediad â Boydell and Brewer.
'Max Porter on Myth, Hybridity and Voice'
Dydd Iau 14eg Ionawr
Yn ystod y digwyddiad ar-lein arbennig hwn bydd Max Porter yn siarad am ei yrfa fel golygydd, gwerthwr llyfrau ac ysgrifennydd o Brydain a dderbyniodd glod gan feirniaid, cyn trafod newidiadau yn ffurf y nofel Seisnig, mythau a ffurfiau modern, ei waith mwyaf poblogaidd a’i ymagwedd at ysgrifennu a’r berthynas rhwng llenyddiaeth a llythrennedd. Bydd y digwyddiad yn cynnwys darlleniadau arbennig gan Max o’i waith arobryn Grief is the Thing with Feathers a Lanny, yn ogystal â’i lyfr newydd The Death of Francis Bacon, 'an attempt to write as painting, not about it'.
Mewn sgwrs â Dr Elaine Canning, Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r awdur arobryn, Max Porter, yn un o ysgrifenwyr mwyaf gwreiddiol ac arloesol Prydain. Enillodd nofel gyntaf Max, Grief Is the Thing with Feathers, Wobr Ryngwladol Dylan Thomas, Wobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times/Peters, Fraser + Dunlop, Europese Literatuurprijs a Gwobr Darllenwyr BAMB. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian a Gwobr Goldsmiths. Cafodd ei chyfieithu i 29 o ieithoedd. Bu addasiad llwyfan Enda Walsh gyda Cillian Murphy yn y brif rôl ar daith yn 2019. Roedd ail nofel Max, Lanny (Faber 2019) yn un o ddeg gwerthwyr gorau’r Sunday Times ac wedi cyrraedd y rhestr hir ar gyfer Gwobr Booker 2019. Bydd ei drydydd llyfr y mae disgwyl mawr amdano, The Death of Francis Bacon, yn cael ei gyhoeddi gan Faber ym mis Ionawr 2021. Mae Max yn byw yng Nghaerfaddon gyda’i deulu.
‘It’s hard to express how much I loved Lanny. Books this good don’t come along very often. It’s a novel like no other, an exhilarating, disquieting, joyous read. It will reach into your chest and take hold of your heart. It’s a novel to press into the hands of everyone you know and say, read this.’ - MAGGIE O’FARRELL
A luminous reading experience - (Grief is the Thing with Feathers) (TLS)
An agile, life-affirming account of mourning. (Grief is the Thing with Feathers) (Sunday Times)
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg
Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow
‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov
‘Anna Karenina: Screen Adaptations of the Novel’ - Andrey Gelasimov

Dydd Mercher 20fed Ionawr | 2yp-4yp
Gwnaed yr addasiad cyntaf ar y sgrin o “Anna Karenina” ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ers hynny mae’r nofel Rwsiaidd hon wedi dod yn un o’r ffynonellau mwyaf poblogaidd i ffilmwyr ledled y byd gymryd ysbrydoliaeth ohoni. Roedd yr actoresau harddaf a mwyaf chwedlonol ynghlwm wrth roi gwedd weledol i’r cymeriad trawiadol a dioddefus hwnnw a grëwyd gan Leo Tolstoy bron i ganrif a hanner yn ôl. Yn ystod ein sgwrs byddwn ni’n ceisio deall beth yw’r rhesymau sy’n esbonio pam mae’r atyniad wedi parhau cyhyd ac i wneud hyn, byddwn ni’n cymharu fersiynau gwahanol o'r ffilm â’i gilydd ac yna â’r nofel ei hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Raglen Pontio Creadigol rhwng y Deyrnas Unedig a Rwsia 2020-21 a drefnwyd gan Adran Ddiwylliannol ac Addysg Llysgenhadaeth Prydain ym Mosgo gyda chefnogaeth y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
Gweinidogaeth Diwylliant Ffederasiwn Rwseg - Sefydliad Llenyddiaeth ac Ysgrifennu Creadigol Maxim Gorky Moscow