'Learning to Live with my Elephant' - Gŵyl Being Human 2021
Lleoliad: Ystafell y Cefnfor, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Heol Ystumllwynarth Ardal Forol, SA1 3RD
Ar ôl i ddamwain car ei thaflu i ganol bywyd fel menyw anabl wrth iddi hyfforddi i fod yn Feddyg Iau, bu'n rhaid i Dr Georgina Budd ymdopi â ffordd hollol newydd o fyw, gydag 'eliffant' newydd yn yr ystafell. Fel rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn amser llawn, bydd Georgie yn rhannu ei phrofiadau o'r heriau sydd ynghlwm wrth anabledd ac anawsterau iechyd meddwl, sut rydym yn ymdopi â newid trawmatig yn ein ffordd o fyw, a sut dylai hygyrchedd fod wrth wraidd unrhyw gymdeithas yn y dyfodol ond hefyd sut gallwn elwa o hynny hyd yn oed.
Mae'r digwyddiad hwn yn addas i bobl yn 18+ oed, oherwydd trafodir digwyddiadau anodd mewn bywyd ac anawsterau iechyd meddwl. Bydd cyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan mewn ymarferion dychmygu a thrafodaeth.
Hygyrchedd: Canllaw Hygyrchedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Amgueddfa Cymru
'Climate Adventures in Forgotten Realms’
Leoliad: Cinema & Co
Pan ddaw Ebrill â'i gawodydd pêr, mae chwedleuwyr canoloesol yn gwybod mai dyma'r amser perffaith am deithio a chariad. Mae'r Canterbury Tales yn dechrau gyda dyfodiad y gwanwyn a dechrau tymor y pererindodau. Mae rhamantau canoloesol yn defnyddio'r tymhorau a'r tywydd i ddylanwadu ar y stori, naill ai gan ddefnyddio perygl môr stormus neu ddraig yn lle perygl amgylcheddol. Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio sut i ddefnyddio'r hinsawdd i sbarduno antur. Adroddwyr stori, ysgrifenwyr creadigol, chwaraewyr rpg pen bwrdd, dewch i weld sut gall straeon canoloesol ein helpu i greu bydoedd naratif bywiog a byw - a dechrau eich antur hinsawdd eich hyn.
Mewn partneriaeth â Cinema & Co.
‘New Beginnings: the hope of the lotus flower'
Lleoliad: Y Ganolfan Eifftaidd, Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, SA2 8PP
Mae alaw'r dŵr yn un o symbolau mwyaf bytholwyrdd yr hen Aifft ac roedd yn cael ei gysylltu ag aileni a dechreuadau newydd. Wrth i ni ddychwelyd yn araf i rywbeth sy'n debyg i fywyd normal yn sgîl heriau Pandemig COVID-19, byddwn yn cynnig nifer o weithgareddau cyffrous yn y Ganolfan Eifftaidd i nodi'r achlysur. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys gweithdy crefft i blant (8+ oed) a theuluoedd i greu bynting â thema alawon y dŵr, a gaiff ei arddangos yn y Ganolfan Eifftaidd i nodi ei hailagor yn swyddogol.
Hefyd, bydd sesiynau trin gwrthrychau ar gael i blant ac oedolion drin arteffactau hynafol a bydd sesiwn gwneud plethdorchau i oedolion. Dewch i'r digwyddiad am ddim hwn a dathlu'r dechrau newydd hwn yn y Ganolfan Eifftaidd.
‘Making Light Work: Recalling Fun and Humour in the Workplace’
Digwyddiad ar-lein
Nid yw'r llyfrau hanes bob amser yn rhoi darlun cyflawn o ochr ddynol gwaith. Hoffai haneswyr ac archifwyr yn Abertawe glywed mwy am hyn gennych chi. Dewch i'r sesiwn 'sgwrsio a recordio’ hon i rannu atgofion am y pethau roeddech chi'n eu gwneud yn y gweithle i godi calon a lleddfu diwrnod gweithio diflas. Gallai eich straeon newid ein dealltwriaeth o brofiadau o'r gweithle yn y gorffennol. Bydd cyfle i ddysgu rhagor am sut mae bywydau gweithio'n cael eu cofnodi mewn casgliadau archifau lleol. Hefyd cewch gyfle i gyfrannu at adnodd sain newydd - podlediad am brofiadau o'r gweithle a fydd yn cynnwys sylwadau wedi'u recordio o'r trafodaethau.
Yn addas i oedolion sy'n gweithio, neu a fu'n gweithio mewn swyddi diwydiannol neu weithgynhyrchu.
Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
'You and CO2'
Digwyddiad ar-lein
Ydych chi yn eich arddegau ac â diddordeb mewn creu eich stori ddigidol eich hun am system hinsawdd y Ddaear? Os felly, dyma'r digwyddiad i chi!
Ymunwch â ni am ddigwyddiad rhyngweithiol ar-lein byw lle cewch gyfle i greu eich stori ddigidol eich hun am newid yn yr hinsawdd gan ddefnyddio iaith godio syml. Gallai eich stori ganolbwyntio ar yr agwedd dechnegol, ysbrydoli gobaith, ail-ddychmygu'r gorffennol a'r presennol neu ddyfeisio dyfodol mwy disglair!
Does dim angen profiad codio! Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur, gliniadur, neu lechen.
'Human Beings: Rachael Llewellyn mewn sgwrs â Alan Bilton'
Creu Taliesin, lawr gwaelod adeilad Taliesin, Prifysgol Abertawe
Yn y casgliad hwn o straeon byr arswydus, mae Rachael Llywellyn yn archwilio ymylon pellach profiad dynol yn fedrus, a’r arswyd sy’n dod gyda hynny’n aml iawn. Gan ymdroelli rhwng yr hyn sy’n gythryblus, yn ddoniol a’r hyn sy’n torri calon, bydd Human Beings yn newid y ffordd rydych chi’n ystyried eich cymydog, yn trin eich cydweithiwr a bydd hyd yn oed yn gwneud i chi ofyn cwestiynau am y person sy’n gorwedd yn y gwely wrth eich ochr . Oherwydd nid yw angenfilod ar y teledu’n hwyr gyda’r nos . . . mae’r angenfilod go iawn yn byw rownd y gornel.
'A Pretty Pickle: A Roman’s Country Recipes for Preserves'
Digwyddiad Ar-lein
Ysgrifennodd yr awdur Lladin, Columella, a oedd yn byw tua chyfnod yr Ymerawdwr Nero yn y 60au OC, ddogfen sy'n edrych fel llawlyfr hyfforddiant am bob agwedd ar amaethyddiaeth. Yn y sesiwn hon, ymunwch â Dr Ian Goh am sesiwn goginio ar y cyd ar-lein i archwilio rhai o gynghorion Columella am fwyd o'r un olaf o'r 12 llyfr yn y llawlyfr hwn. Maent yn annerch 'gwraig beili' ac mae'r rhai sydd o ddiddordeb penodol i ni'n disgrifio technegau cadwraeth ar gyfer letys a maip ymhlith bwydydd eraill. Byddwn yn rhoi sylw difrifol i gyfarwyddiadau Columella, fel ryseitiau ac fel mynegiannau o hunaniaeth ac awdurdod, a byddwn yn datgelu rhai o'r bwydydd mwy plaen a sobr roedd yr hen Rufeiniaid yn eu bwyta i weld pa mor debyg roedd eu harferion cadw tŷ a bwyta i'n rhai ni.
Bydd y rhai sy'n cofrestru yn derbyn cardiau rysáit er mwyn i chi allu creu eich prydau bwyd eich hun gartref.
'Waste of Our time: Renewing Pictures of a Changing Valley'
Lleoliad: Neuadd Les Onllwyn, Rhodfa Wembley, Onllwyn, SA10 9HL
Ym 1983, cynhyrchodd Llyfrgell Glowyr De Cymru ffilm ddogfen gydag aelodau cymunedau yng Nghwm Dulais. Yn 'Waste of Our Time: Pictures of a Changing Valley', trafododd preswylwyr lleol bentrefi Banwen, Onllwyn ac Aberdulais a'r effeithiau roedd y diwydiant glo wedi'u cael ar y dirwedd, y bobl a'r bywyd gwyllt.
Ond sut mae bywyd a'r dirwedd yng Nghwm Dulais wedi newid ers 1983? Yn y misoedd yn arwain at Ŵyl Being Human 2021, bydd preswylwyr a phlant lleol yn cydweithio i greu ffilm ddogfen newydd i'w dangos am y tro cyntaf yn ystod prif gyfnod yr ŵyl. Gan ddefnyddio'r ffilm wreiddiol fel man cychwyn a thrwy amrywiaeth o weithdai artistig rhyngweithiol, byddant yn ystyried y newidiadau yn y dirwedd, y bywyd gwyllt a bywyd cymunedol ers 1983 ac etifeddiaeth gymdeithasol ac amgylcheddol tanwyddau ffosil. Caiff ‘Waste of Our Time: Renewing Pictures of a Changing Valley' ei dangos am y tro cyntaf yn Neuadd Les Onllwyn, a bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn gyda rhai o wneuthurwyr y ffilm ddogfen.
Mae croeso i deuluoedd a phlant 8+ oed.
Mewn partneriaeth â Gweithdy DOVE, Cymdeithas Hanesyddol Cwm Dulais, Neuadd Les Onllwyn.
Beyond Total E-Fabulous: Reflections on Learning in a Pandemic
Yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor, (Addysg)
Pan ddechreuodd y pandemig bron dwy flynedd yn ôl, creodd fy nghydweithiwr, Phil Newton, raglen hyfforddiant o'r enw total e-fabulous ar gyfer staff. Roedd hyn yn hanfodol wrth alluogi Prifysgol Abertawe i addasu i'r cyd-destun newydd a darparodd sylfaen gadarn i'n gweithgarwch dysgu ac addysgu dros y deunaw mis diwethaf. Hoffwn i nawr arwain gweithdy a fydd yn ein helpu i edrych tua'r dyfodol, y tu hwnt i'r pandemig a'r tu hwnt i e-ddysgu.
Beth rydyn wedi'i ddysgu? Ydy platiau tectonig addysgu yn symud yn sylfaenol? Ydyn ni o'r diwedd yn mynd i allu gwireddu addewid a wnaed imi pan ddechreuais i addysgu ym Mhrifysgol Birmingham ar ddechrau'r 1990au, y byddai technoleg yn trawsnewid ein haddysgu am byth? Beth am ffyrdd eraill o ddefnyddio technoleg ddigidol? Allwn ni gyflawni potensial yr holl raglenni dadansoddeg dysgu hynny? Oes modd, mewn gwirionedd, i ni ragweld pan fydd myfyrwyr yn colli tir yn eu dysgu? Ddylen ni? Beth mae'n ei olygu i unigoli neu bersonoli dysgu a rhyngweithio myfyrwyr? Oes gennym y dechnoleg i wneud hyn yn effeithiol, ac os oes, ddylen ni ei defnyddio? Allwn ni ddweud yn onest, ar ôl y pandemig, fod 'pob myfyriwr yn bwysig'?
Mae cynifer o gwestiynau ond mae arna i ofn fod yr atebion go iawn yn brin. Dewch i archwilio'r hyn rydym yn ei wybod a'r hyn nad ydym yn ei wybod, yr hyn y gallwn a'r hyn na allwn ei wneud. Yn anad dim, bydd yn sgwrs hollol wych!
Croeso Cymraeg
Dewch draw i sesiwn ddysgu Cymraeg hwyliog a rhyngweithiol gyda thiwtoriaid o Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Gobaith y sesiwn flasu hon, sydd wedi'i threfnu'n benodol er mwyn croesawu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, yw cyflwyno'r iaith a'r diwylliant Cymraeg i chi a'ch teulu wrth i chi addasu i fywyd yn ne-orllewin Cymru. Yn addas i oedolion a phlant.
Partneriad: Academi Hywel Teifi; IAITH Cyf; Rhieni dros Addysg Gymraeg; Learn Welsh Swansea Bay Area