Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Joe Sevenoaks, Emily MacAulay a Rhiannon Barriball

Mae tri o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, a ddaeth ynghyd dros eu hangerdd am y blaned, wedi datblygu syniad gwych newydd am fusnes gwyrdd eu hunain.

Mae Joe Sevenoaks, Emily MacAulay a Rhiannon Barriball newydd raddio o Brifysgol Abertawe ond byddant yn parhau i weithio gyda'i gilydd wrth iddynt ddatblygu eu cwmni, sef Easily Eco. 

Sefydlwyd y cwmni diolch i fenter Her gyntaf y Brifysgol gwerth £100 yn ystod Wythnos Ryngwladol Entrepreneuriaeth 2018. Rhoddwyd £100 i dimau bach o fyfyrwyr yn rhan o'r Her a'r cyfle iddynt wneud cymaint o elw ag oedd yn bosibl mewn pedair wythnos – cyhyd â bod eu syniad yn gyfreithiol ac yn foesegol. 

Defnyddiodd Joe, sy'n graddio o'r Ysgol Reolaeth, ac Emily a Rhiannon (a astudiodd Daearyddiaeth) eu £100 i brynu stoc i greu eu basgedi di-blastig er mwyn eu gwerthu mewn marchnad dros dro'r Nadolig yn y Brifysgol. 

Aethant ymlaen i werthu mewn lleoliadau eraill yn Abertawe, gan gynnwys marchnadoedd y Mwmbwls a'r Uplands, yn ogystal â siop dros dro ar y campws gyda chefnogaeth gan Undeb y Myfyrwyr. 

Wedi hynny, cymerodd y tîm Easily Eco ran yng nghystadleuaeth The Big Pitch y Brifysgol. Aethant benben ag entrepreneuriaid eraill i gyflwyno 25 o syniadau busnes i banel o feirniad yn y diwydiant. 

Dyma un o'r 7 o fusnesau llwyddiannus a ddewiswyd i dderbyn £1,250 o arian sbarduno, sydd wedi'i ddefnyddio i greu gwefan a'i helpu i fynd o nerth i nerth.

Dywedodd Joe: "Rydym mor falch ein bod wedi gallu ehangu'r amrywiaeth o gynnyrch a gynigir – ni fyddai hyn oll wedi bod yn bosibl heb Dîm Entrepreneuriaeth y Brifysgol.”

Ychwanegodd Emily: "Mae'r cymorth rydym wedi'i gael wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae digwyddiadau gwych y Tîm Entrepreneuriaeth wedi rhoi'r dewrder inni droi ein hangerdd yn fusnes. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein siwrnai ymhellach gyda chymorth yr arian sbarduno.” 

Dywedodd y Swyddog Entrepreneuriaeth, Kelly Jordan: "Roedd yn fraint cefnogi'r myfyrwyr hyn sydd wedi ymrwymo'n llwyr i annog eraill i fod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd. Mae'r fenter gymdeithasol hon eisoes wedi cael effaith syfrdanol ar y Brifysgol."

Dywedodd Pennaeth Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth y Brifysgol, Emma Dunbar, ei bod hi wrth ei bodd o weld y gystadleuaeth yn cefnogi ac yn helpu i greu entrepreneuriaid newydd ymhlith myfyrwyr. 

"Yn sgîl lansio ein Strategaeth Entrepreneuriaeth Myfyrwyr yn ddiweddar, rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r cyfle i'n myfyrwyr brofi a gwirio eu syniadau busnes mewn amgylchedd diogel, cael profiadau bywyd go iawn gwerthfawr a datblygu eu sgiliau i wynebu'r heriau sydd o'u blaenau." 

Ychwanegodd Emily: "Nawr ein bod ni wedi graddio rydym yn bwriadu aros yn Abertawe a pharhau i gael effaith ar ein rhanbarth. Ein targed nesaf yw creu ein cynnyrch â brand eu hunain ac agor ein siop yn y dyfodol."

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch mentergarwch myfyrwyr ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori