Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Disgyblion Ysgol Gyfun Bishop Gore yn ymweld l â Phrifysgol Abertawe.

Er nad ydyn nhw eto wedi cwblhau eu harholiadau TGAU, mwynhaodd grŵp o ddisgyblion o Abertawe gael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd disgyblion Blwyddyn 10 o Ysgol Gyfun Bishop Gore yn Sgeti y cyfle i roi cynnig ar y rhaglen Sgiliau am Oes a gynigir i fyfyrwyr, sydd wedi'i chynnal gan dîm Llesiant@BywydCampws y Brifysgol.

Cymerodd y myfyrwyr ran mewn sesiynau cymorth cyntaf, hunanamddiffyn a rheoli amser yn ogystal â chael taith o amgylch campws Singleton wedi'i arwain gan fyfyrwyr llysgennad.

Roedd y digwyddiad yn rhan o wythnos bwrpasol ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol i wella profiad dysgu myfyrwyr y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Dywedodd y pennaeth cynorthwyol, Steven Wilson: "Roeddem yn chwilio am ddau beth – i roi hwb i ddyheadau ein myfyrwyr o ran mynd i'r Brifysgol a'u hysbrydoli i gymryd y cam nesaf yn eu dysgu ac i ddysgu sgiliau bywyd.

Mae'n wych bod ein myfyrwyr yn cael y cyfle i adael ein hamgylchedd ysgol arferol a chael profiad o rywbeth nad yw eu hathrawon yn ei ddysgu."

Meddai Swyddog Bywyd Myfyrwyr Llesiant@BywydCampws, Stuart Gray: "Rydym yn hynod falch o gael y myfyrwyr yma.Nod y rhaglen Sgiliau am Oes  yw addysgu sgiliau bywyd ymarferol i wella gwydnwch, hyder a hunan-barch. Rydym yn gobeithio bod y diwrnod wedi dysgu sgiliau bywyd sylfaenol iddynt megis cymorth cyntaf a rheoli arian yn ogystal â dangos yr hyn sydd gan Brifysgol Abertawe i'w gynnig.”

Ychwanegodd athrawes mathemateg Bishop Gore, Laura Menagh: "Mae'n wych i'r disgyblion wneud rhywbeth ymarferol. Mae sgiliau bywyd amrywiol yr un mor bwysig â'r pynciau rydych yn eu dysgu yn yr ysgol."

Rhannu'r stori