Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Dyn mewn siwt yn sefyll y tu allan i adeilad brics

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi'i gydnabod am ei ymroddiad i addysgu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o gyfreithwyr.

Mae'r Athro Richard Owen, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, yn un o'r 54 Cymrawd Addysgu Cenedlaethol newydd a gyhoeddwyd gan Advance HE heddiw (5 Awst). 

Mae'r Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol ynghyd â'r Wobr ar y cyd ar gyfer Rhagoriaeth Addysgu yn arddangos effaith ragorol unigolion a thimau sy'n addysgu neu'n cefnogi dysgu ym maes addysg uwch y DU, gan gydnabod eu llwyddiant. Mae hefyd yn cynnig llwyfan i rannu'r hyn y gellir ei ddysgu o'u harferion. 

Dywedodd yr Athro Owen, sef Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe sy'n cynnig cyngor am ddim i'r cyhoedd, ei fod wrth ei fodd yn derbyn yr anrhydedd hon am wneud rhywbeth y mae'n dwlu arno.  

"Rwy'n ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am y cyfle mae wedi'i roi i mi ddatblygu fy ymarfer addysgu drwy'r Clinig. Rydym wedi bod yn addysgu myfyrwyr y gyfraith gan ddefnyddio cleientiaid yn y byd go iawn, a dadansoddi sut mae'r gyfraith yn gweithio'n ymarferol," meddai. 

"Uchafbwynt penodol oedd pan roddodd dau o’m myfyrwyr israddedig dystiolaeth i Gynulliad Cymru ynghylch mynediad at faterion sy'n ymwneud â chyfiawnder yn seiliedig ar eu profiadau yn y Clinig. Rydym hefyd wedi edrych ar sut mae'r gyfraith yn rym pwerus ym mywydau pobl mewn sefyllfaoedd mor amrywiol â'r llys teulu lleol i res yr angau yn Nhecsas." 

Dywedodd yr Athro Elwen Evans CF, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton: "Mae'r gydnabyddiaeth hon gan Advance HE yn cefnogi'r hyn rydym ni yn Ysgol y Gyfraith wedi'i wybod ers amser: sef bod yr Athro Owen yn athro ymrwymedig, brwdfrydig a hawdd mynd ato. Mae ganddo allu gwirioneddol drawiadol i ysbrydoli myfyrwyr oherwydd ei angerdd am addysg gyfreithiol glinigol, gan gyfuno sgiliau ymarferol lefel uchel ag astudio'r gyfraith. 

"Nid oes gennyf yr un amheuaeth fy mod i'n siarad ar ran fy nghydweithwyr yn Ysgol y Gyfraith wrth longyfarch Richard yn wresog  am yr anrhydedd hollol haeddiannol hon." 

Bydd yr Athro Owen, ynghyd â'r Cymrodorion eraill sydd newydd gael eu penodi  a'r 15 o dimau a enillodd y Wobr ar y cyd ar gyfer Rhagoriaeth Addysgu bellach yn gweithio gydag Advance HE i ddatblygu ffyrdd o rannu eu harferion gorau ar draws y sector. 

Meddai Alison Johns, Prif Weithredwr Advance HE: "Mae dod yn Gymrawd Addysgu Cenedlaethol neu dîm CATE buddugol yn gyflawniad enfawr. Yn wir, gall newid eich bywyd. Mae’n creu llysgenhadon i gynnig addysgu arloesol ac effeithiol, y mae sefydliadau a chydweithwyr yn eu gwerthfawrogi. Gallant wneud newidiadau a gwelliannau i gael effaith gadarnhaol iawn ar brofiad y myfyrwyr a chanlyniadau ledled eu sefydliad a'r tu hwnt iddo." 

Ychwanegodd Dr Ben Calvert, Dirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol De Cymru, a Chadeirydd Panel Ymgynghorol Dyfarniadau Rhagoriaeth Addysgu 2019: "Y dyfarniadau hyn yw uchafbwynt gwobrwyo a chydnabod ym maes dysgu ac addysgu. 

Bydd yr Athro Owen yn ymuno â'r enillwyr eraill mewn seremoni arbennig a fydd yn cael ei chynnal ym Manceinion ym mis Hydref.

 

Rhannu'r stori