Cafodd Sefydliad Prydeinig Americanaidd Tecsas (BAFTX) ei greu i helpu i ddarparu cymorth ariannol a chyfleoedd addysgol i fyfyrwyr â dawn academaidd yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Mae'n cynnig nifer o raglenni ysgoloriaeth pwrpasol i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n cymryd rhan yn rhaglenni cyfnewid cyfatebol y Brifysgol yn Nhecsas.

Llyfr ysgrifennu a beiro

Llyfr ysgrifennu a beiro

Sut i gyflwyno cais: Deunyddiau Cefnogol

Cyn cyflwyno gwneud cais, dylai myfyrwyr gasglu/paratoi'r canlynol:

1. Marc cyfartalog y flwyddyn flaenorol (neu’r semester blaenorol os mai dim ond un semester sydd wedi'i gwblhau)

2. Incwm a galwedigaeth pob rhiant ynghyd â manylion incwm arall yn y cartref

3. Cofnod Academaidd

4. Bywgraffiad o 150 o eiriau

5. Manylion am waith gwirfoddol / cymunedol, gweithgareddau allgyrsiol a gwaith rhan-amser

6. Traethawd (400-450 gair) ar y pwnc a ganlyn: "Disgrifiwch eich nodau addysgol a gyrfaol a pham mae angen ysgoloriaeth gan BAFTX arnoch chi i'w cyflawni. Ac eithrio anghenion ariannol, beth yw'r heriau mwyaf sylweddol rydych chi'n disgwyl eu hwynebu wrth gwblhau’ch cyfnod yn y Brifysgol yn llwyddiannus? Sut byddwch chi'n goresgyn yr heriau hyn? "

7. Dewisol: Fideo byr yn cyflwyno'ch hun sy’n dweud wrth BAFTX pam rydych chi'n gwneud cais i astudio dramor ac am un o Ysgoloriaethau BAFTX.

Sylwer y byddwn ni’n gofyn i chi hefyd nodi'ch ethnigrwydd a'ch rhywedd. Mae'r cwestiynau hyn yn ddewisol a dim ond at ddibenion ystadegol y byddan nhw’n cael eu defnyddio. Ni fydd y panel dethol yn gweld yr wybodaeth hon.