DOMINICA: "PROFIAD SY'N CYFOETHOGI"

Dominica Khoo, myfyriwr

SCOTT: "MAE WEDI CODI CHWANT CRWYDRO'R BYD ARNAF"

Myfyriwr Scott Rosser

TARA: "GWYCH'

Tara Murphy, myfyriwr

POORNIMA: "BYTHGOFIADWY"

Poornima Ramesh

COSTAS: RHAGORODD AR FY NISGWYLIADAU"

Costas Demetriou

KATE: "GWOBRWYOL TU HWNT"

Kate Miller, myfyriwr

BEN: "FFORDD NEWYDD O DDYSGU"

Ben Bottrill, myfyriwr

Astudiaethau Achos Myfyrwyr yn dod i Abertawe

Baner UDA a phasbort

EMILY NAR (PEIRIANNEG AWYROFOD) SEMESTER DRAMOR, PRIFYSGOL A&M TECSAS

"Dewisais i astudio dramor achos roeddwn i am gael profiad o astudio mewn amgylchedd gwahanol, ac o fyw mewn diwylliant gwahanol. Roedd hi'n hawdd cwrdd â phobl newydd yn A&M Tecsas achos roedd pawb mor gyfeillgar.

Y peth gorau am y rhaglen gyfnewid oedd yr holl bethau newydd ddysgais i, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Roedd y profiad yn bendant yn un i edrych yn ôl arno ac ymfalchïo ynddo.

Gwnaeth y profiad fy newid fel person heb os: mae wedi gwneud i mi fod yn fwy annibynnol, dysgodd i mi fod yn fwy gwydn a dwi'n fwy aeddfed ac yn fwy ymwybodol mewn sefyllfaoedd newydd o ganlyniad."

Emily Nar

Emily Nar
Scott Rosser

SCOTT ROSSER (SWOLEG): BLWYDDYN DRAMOR, PRIFYSGOL HOUSTON

"Roeddwn i'n hoffi natur hyblyg y radd a'r cyfle i gymryd amrywiaeth eang o ddosbarthiadau. 

Mae gan ddinas Houston lawer i'w gynnig a'r uchafbwyntiau oedd mynd i gêm pêl-fasged yr Houston Rockets yng Nghanolfan Toyota a gwylio'r Houston Astros yn chwarae pêl-fas.

Adeg y Nadolig, teithiais i a myfyriwr arall o Abertawe i Efrog Newydd ac ar ddydd Nadolig gwnaethon ni logi beiciau ac archwilio Central Park. Hefyd, aethon ni i South Padre ar gyfer egwyl y gwanwyn: roeddwn i wedi gweld ffilmiau am hwyl a sbri egwyl y gwanwyn, a ches i ddim fy siomi gan South Padre!"

POORNIMA RAMESH (GWYDDORAU MEDDYGOL): RHAGLEN YR HAF, COLEG MEDDYGAETH BAYLOR

"Roedd y rhaglen yn apelio ataf am fy mod i'n ystyried gyrfa mewn meddygaeth ac ymchwil, yn benodol llawfeddygaeth a thechnegau llawfeddygol.

Mae'r profiad wedi fy newid fel person: o ganlyniad, mae gen i fwy o hyder i siarad yn fyrfyfyr ac mae wedi fy mharatoi am fy mlynyddoedd nesaf o astudio. Ces i gyfle i adeiladu rhwydweithiau cryf â phobl yn Nhecsas a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy sydd wedi fy helpu i dyfu fel person."

Poornima Ramesh
Ben Bottrill

BEN BOTTRILL (PEIRIANNEG GEMEGOL): SEMESTER DRAMOR, PRIFYSGOL A&M TECSAS

"Prif atyniad y rhaglen gyfnewid oedd y cyfle i ddatblygu'n bersonol, nid mewn ffordd academaidd yn unig, ond mewn ffordd gymdeithasol a diwylliannol hefyd. Mae'r gwahaniaethau diwylliannol rhwng Abertawe a Thecasas yn nodedig, ac un o'r gwahaniaethau mwyaf oedd yr egni sy'n gysylltiedig ag ysbryd 'Aggie' myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr A&M Tecsas.

Mae'r rhaglen gyfnewid wedi fy newid yn bendant: caniataodd i mi fod yn fwy hyderus a dangosodd i mi fod gen i'r gallu i ddatrys problemau'n llwyddiannus. Roedd fy mhrofiad yn Nhecsas yn heriol ond bydd gen i atgofion melys amdano am amser hir.”

KATE MILLER (SEICOLEG): BLWYDDYN DRAMOR, PRIFYSGOL TECSAS YN AUSTIN

“Roeddwn i wrth fy modd yn ninas Austin. Roedd cymaint i'w wneud ac roedd ymdeimlad hapus gwych o "Gadw Austin yn Rhyfeddol'. Roeddwn i'n dwlu ar natur unigryw Austin, a'r cymysgedd o ardaloedd dinesig a rhai gwyrdd a llonydd, gyda'r llyn a'r parc hardd yn gyfleus am ganol y dref.

Y peth gorau am fy mhrofiad o astudio dramor oedd y teimlad o annibyniaeth lwyr. Roedd rhywbeth brawychus am fod mewn lle newydd, filltiroedd o gynefin eich cysur, ond ar yr un pryd roedd hi mor wobrwyol pan lwyddais i.”

Kate Miller
Costas Demetriou

Costas Demetriou (Gwyddorau Meddygol): Rhaglen yr Haf, Coleg Meddygaeth BAYLOR

"Rhagorodd y profiad ar fy nisgwyliadau o bell ffordd! Cawson ni gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel efelychiad llawfeddygol, lle dysgon ni sgiliau fel pwytho a defnyddio endosgop, melinau trafod, arsylwi ar lawfeddygaeth mewnblannu falf feitrol a histoleg a gwaith labordy. 

Helpodd y rhaglen fi i feithrin amrywiaeth eang o sgiliau sy'n benodol i'r maes meddygol hoffwn i weithio ynddo, yn ogystal â sgiliau cyflogadwyedd. Roedd cael fy annog i archwilio ffyrdd newydd o feddwl yn fy herio, gan wella fy sgiliau meddwl yn feirniadol a dadansoddi. Dwi wedi cael fy ysbrydoli i weithio'n fwy caled ac i gyflawni uchelgeisiau a nodau newydd."

DOMENICA KHOO (PEIRIANNEG AMGYLHEDDOL): SEMESTER DRAMOR, PRIFYSGOL A&M TECSAS

"Mae'r rhaglen gyfnewid wedi gwella fy mhrofiad fel myfyriwr, yn academaidd ac yn ddiwylliannol. Mae wedi fy mharatoi i wynebu heriau gwahanol ac wedi fy ngwneud yn fwy hunangynhaliol, hyderus ac annibynnol.

Mae A&M Tecsas yn rhoi pwyslais mawr ar gymuned, traddodiad, teyrngarwch ac optimistiaeth a chwrddais i â ffrindiau gwych.

Byddwn i'n argymell y rhaglen gyfnewid i bawb, achos bydd yn cynnig i chi brofiadau gwerthfawr, atgofion, cyfeillgarwch a gwybodaeth gydol oes. Byddwn yn ei wneud eto mewn chwinciad.”

Dominica Khoo
Tara Murphy

TARA MURPHY (PPE): SEMESTER DRAMOR, PRIFYSGOL TECSAS YN AUSTIN:

"Ces i gyfle i gymryd rhan mewn interniaeth yn adeilad Llywodraeth Talaith Tecsas lle bues i'n gweithio i un o Seneddwyr y Dalaith o San Antonio.

Roedd fy nghyfrifoldebau'n cynnwys ymchwil polisi mewn perthynas â deddfwriaeth bosib, ysgrifennu areithiau ar gyfer y Seneddwr, esbonio deddfwriaeth i etholwyr, ysgrifennu datganiadau i'r wasg a lobïo swyddogion eraill y dalaith ar ran etholwyr.

Ces i gyfle hefyd i awgrymu a drafftio bil cyflog cyfartal i'w gyflwyno i'r Senedd, a oedd yn brofiad gwych!"

NATALIA WISNIEWSKA (PEIRIANNEG GEMEGOL): SEMESTER DRAMOR, PRIFYSGOL A&M TECSAS

"Mae A&M Tecsas yn un o brifysgolion gorau'r byd ar gyfer Peirianneg Gemegol ac roedd fy mhrofiad yn fythgofiadwy!

Gwnaethon nhw ymdrech i wneud i ni deimlo'n gartrefol o'r funud cyrhaeddon ni, a theimlais i’n rhan o gymuned myfyrwyr anhygoel y Brifysgol yn gyflym oherwydd y bywyd cymdeithasol. Rwy'n dod o Wlad Pwyl ac roeddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i gwrdd â phobl newydd a dysgu am ddiwylliannau eraill.

Ar yr ochr academaidd, rhoddodd y rhaglen gyfnewid lawer o brofiad ymarferol i mi, a gwellodd fy sgiliau peirianneg a throsglwyddadwy, gan roi hwb i'm hyder i wynebu heriau newydd hefyd."

Natalia Wisniewska, myfyriwr