Dylunio Cynhyrchion ar sail Efelychu, MSc drwy Ymchwil

Mae gan efelychu cyfrifiadurol rôl bwysig ym maes Peirianneg

pic

Trosolwg o'r Cwrs

Gan ddefnyddio modelu mathemategol yn sail, mae dulliau cyfrifiadol yn darparu gweithdrefnau a all, gyda chymorth y cyfrifiadur, ganiatáu i ni ddatrys problemau cymhleth.

Mae gan y technegau rôl gynyddol yn y diwydiant.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ryngwladol ym maes peirianneg gyfrifiadol.

Roedd peirianwyr o fri rhyngwladol yn Abertawe yn arloesi o ran datblygu technegau rhifiadol, megis y dull elfennau cyfyngedig, a'r gweithdrefnau cyfrifiadol cysylltiedig sydd wedi hwyluso datrys llawer o broblemau peirianegol cymhleth.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.