Mae angen eich bod yn hynod ymroddedig, yn benderfynol ac yn angerddol am eich pwnc er mwyn ymgymryd â gradd ymchwil, ond heb os nac oni bai, mae llawer o fanteision ar ôl ei chwblhau.Dyma ychydig o resymau pam y dylech ddewis gradd ymchwil yn Abertawe:
1. Gwella sgiliau a chyflogadwyedd
Bydd y sgiliau a'r rhinweddau y byddwch yn eu datblygu drwy gydol eich astudiaethau yn gwella eich CV ac yn tynnu sylw atoch mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion.
Oherwydd nad oes llawer o raddedigion yn dewis astudio gradd ymchwil, bydd cymhwyster ar lefel uwch yn tynnu sylw atoch yn ogystal â datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy yn y meysydd canlynol:
- Cyfathrebu a gweithio mewn tîm
- Rheoli prosiect
- Dadansoddi Data
- Sgiliau TG uwch
- Datrys problemau
- Meddwl yn annibynnol
- Meddwl yn feirniadol
- Sefydliad
- Rheoli amser
Bydd pob gradd ymchwil yn Abertawe yn rhoi cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol i chi – y bydd pob cyflogwr ym mhob diwydiant yn ei gydnabod a'i wobrwyo.
Byddwch yn fwy tebygol o sicrhau swydd a denu cyflog uwch gyda gradd ymchwil, a fydd yn golygu y gallwch fod yn hyderus o ad-dalu eich buddsoddiad mewn addysg ôl-raddedig.
2. Paratoi ar gyfer gyrfa academaidd neu ymchwil
Os ydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil academaidd, bydd doethuriaeth yn hanfodol er mwyn rhoi'r sgiliau, y profiad a'r cymhwyster/cymwysterau angenrheidiol i chi.
Ar gyfer gyrfaoedd y tu hwnt i'r byd academaidd, mae gradd ymchwil yn ddymunol oherwydd y bydd gennych y sylfaen ddamcaniaethol a'r profiad ymarferol y mae sefydliadau ymchwil a diwydiannau yn gofyn amdanynt.
3. Hyblygrwydd y rhaglen
Mae rhaglen ymchwil yn ddelfrydol os ydych yn ystyried gwneud ymchwil mewn maes penodol rydych yn angerddol amdano, neu eich bod yn ysu am ryddid i ddewis yr hyn rydych chi'n ei astudio a sut rydych chi'n astudio.
Mae graddau ymchwil yn rhoi'r cyfle i chi ddilyn maes arbenigol o ddiddordeb, ac yn eich galluogi i siapio pwnc eich astudiaethau mewn modd unigryw a nodweddiadol.
Rydych yn rhydd i ddewis eich pwnc astudio, i gynllunio ac i wneud eich gwaith ymchwil eich hun o'r cychwyn cyntaf cyhyd â bod gennym yr arbenigedd academaidd i roi cyngor i chi ac arwain eich astudiaethau.
Heb unrhyw ddarlithoedd neu seminarau ar yr amserlen, bydd gennych yr hyblygrwydd i astudio'n annibynnol a dewis pryd a ble byddwch yn astudio.
4. Gwobr ddeallusol
Mae gradd ymchwil yn rhoi'r cyfle i chi lywio cyfeiriad eich astudiaethau. O nodi'r broblem ymchwil, dewis y fethodoleg ymchwil briodol, ymgymryd â'r gwaith ymchwil a dadansoddi a chofnodi'r canlyniadau, byddwch yn rheoli eich prosiect ymchwil eich hun a bydd gennych y rhyddid i archwilio llwybrau eraill wrth iddynt godi.
O ganlyniad, cewch eich gwobrwyo â rhaglen ddeallusol ysgogol sy'n rhoi'r cyfle i chi ychwanegu at y corff o wybodaeth yn eich pwnc maes a chyhoeddi eich canlyniadau.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda rhai o academyddion blaenllaw'r byd a dod yn arbenigwr yn eich braint eich hun.
Bydd eich traethawd ymchwil terfynol wedi'i rwymo â lledr yn parhau i fod yn destun balchder am nifer o flynyddoedd ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.