Mae ‘The Brilliant Club’ yn elusen arobryn sy'n recriwtio, hyfforddi a thalu ymchwilwyr doethurol ac ôl-ddoethurol i gynnal cyfres o wersi mewn arddull prifysgol. Bydd grwpiau bach o fyfyrwyr uchel eu cyflawniad, mewn ysgolion sy’n gwasanaethu cymunedau difreintiedig, yn cymryd rhan yn y sesiynau yma. Dros y flwyddyn academaidd 2017-18, gosododd ‘The Brilliant Club’ dros 500 o ymchwilwyr mewn ysgolion ledled y DU, lle buont yn gweithio gyda dros 12,000 o ddisgyblion. Mae nawr yna gyfle i chi fod yn rhan o leoliadau tymor Hydref 2020-21.
The Brilliant Club will be holding a webinar information event on 28th April from 2:00pm until 2:30pm. The details for joining the meeting are below:
Please join my meeting from your computer, tablet or smartphone.
https://global.gotomeeting.com/join/866912701
You can also dial in using your phone.
United Kingdom: +44 330 221 0097
Access Code: 866-912-701
Yn ychwanegol at ennill £500 am bob lleoliad, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill profiad addysgu gwerthfawr, yn gwella eu gwybodaeth am system addysg y DU ac yn datblygu rhaglen o sesiynau gan ddefnyddio elfennau o’u hymchwil eu hunain a fyddent yn rhannu gyda chynulleidfa anarbenigol . Yn ogystal â hyn, byddant hefyd yn ymuno â charfan o ymchwilwyr tebyg sydd â diddordeb mewn ehangu mynediad i brifysgolion detholus iawn. Cefnogir tiwtoriaid gan raglen hyfforddi sy'n cynnwys dwy sesiwn diwrnod llawn, a byddant yn tywys eu disgyblion ar daith i brifysgol.
Am wybodaeth bellach am y cyfle i diwtorio gyda ‘The Brilliant Club’, ewch i: http://www.thebrilliantclub.org/the-brilliant-club-for-researchers/get-involved/
I ymgeisio, ceir ffurflen gais ar: https://www.tfaforms.com/421564
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi anfon e-bost atom: apply@thebrilliantclub.org / greg.scannell@thebrilliantclub.org