Mae Tîm y Dyniaethau Digidol yn cefnogi ac yn cydweithredu ar lawer o wahanol fathau o ymchwil ar draws y Brifysgol, o fersiynau digidol o destunau llenyddol i brosiectau realiti rhithwir sy'n llenwi ystafell gyfan. Mae dolenni i'r prosiectau rydym yn eu cynnal, yn eu datblygu neu’n ymgynghori arnynt, a disgrifiadau o’r rhain, ar gael isod. Cysylltwch â'r tîm i ddysgu sut gallwn eich helpu i gyflawni nodau eich ymchwil.

Gohebiaeth Elizabeth Montagu Ar-lein

Sgrinlun o hafan llythyrau Montagu

Casgliad ar-lein o lythyrau Elizabeth Montagu 1718-1800, ei gohebwyr ac aelodau eraill o'i chylch ("the Montagu Correspondence"). Golygir y casgliad gan yr Athro Caroline Franklin a'r Athro Nicole Pohl.

Casgliad y Maes Glo

Ciplun o wefan casgliad y Maes Glo

Casgliad o ddeunyddiau gwe sy'n taflu goleuni ar fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrifoedd, gan gynnwys deunydd sain a fideo sy'n berthnasol i arweinwyr undebau llafur o bwys i ddynion a fu'n gweithio yn y pyllau glo a'u teuluoedd, a ffotograffau sy'n dangos pob agwedd ar fywyd yn y maes glo.

Demon Things

Delwedd o gythraul hynafol Aifft mewn lliw.

Cronfa ddata ryngweithiol yw Demon Things. Mae'n cynnwys casgliad data y gellir ei estyn yn fyd-eang o endidau dieflig yr Hen Aifft fel y cyfeirir atynt mewn testunau ac arteffactau, o ymchwil Kasia Szpakowska. Mae'r wefan yn cynnig porth i archwilio'r gronfa ddata a chyrchu gwybodaeth ychwanegol.

Adnodd Cyfieithu ar y Pryd Rhyngweithiol

Taflen waith gydag amrywiol flychau testun glas a phwyntiau sganio AR.

Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.

Guto'r Glyn

Sgrinlun o gerdd yn Gymraeg gyda dadansoddiad i'r dde mewn cwarel ar wahân.

Cyhoeddiad digidol manwl o waith Guto'r Glyn. Yma gall defnyddwyr weld fersiynau gwahanol o bob cerdd a thrawsgrifiadau/testun wedi'i anodi ochr yn ochr â'r cerddi gwreiddiol, ynghyd â nodiadau eglurhaol, cyfieithiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol a gwledd o wybodaeth fywgraffiadol a chyd-destunol

Byd Copr Cymru

Ffotograff o'r ty injan yng ngwaith copr Hafod-Morfa.

Prosiect rhyngddisgyblaethol mawr yw Byd Copr Cymru. Mae'n cynnwys archifo, AR, ail-greu ac adolygu, gan weithio ar ffyrdd newydd i ymwelwyr ryngweithio â safleoedd treftadaeth ar safle Treftadaeth y Byd Abertawe, sef treftadaeth ddiwydiannol Cwm Tawe Isaf. Staff cysylltiedig: Yr Athro Huw Bowen (Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), Matt Jones (Labordy FIT).

Lolfa Realiti Rhithwir Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Cefndir llwyd gyda thestun gwyn yn darllen 'VR Lounge'

Mae Labordy Realiti Rhithwir newydd Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (a sefydlwyd gan Dr Leighton Evans) ar agor i fyfyrwyr a staff ar ddydd Mercher rhwng 1.30pm a 3.30pm yn ystafell B19 Adeilad Callaghan. Gall staff a myfyrwyr o unrhyw goleg/adran alw heibio i arbrofi â chyfarpar realiti rhithwir arloesol.

Dafydd ap Gwilym

Sgrinlun o dafyddapgwilym.net

Casgliad digidol o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym sy'n cynnwys cyfieithiadau, fersiynau dogfen gwahanol, sain, nodiadau a sganiau o'r llawysgrifau gwreiddiol. Datblygwyd dan arweiniad yr Athro Dafydd Johnston.