Mae'r 'Dyniaethau Digidol' yn derm eang sy'n cyfeirio at y defnydd o dechnoleg i wella, ategu neu gynnal ysgolheictod yn y dyniaethau neu mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r dyniaethau.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae tîm y Dyniaethau Digidol yma i gefnogi prosiectau ac ymchwil academaidd a chymunedol yn y dyniaethau - cysylltwch â ni i ddarganfod beth gallwn ni ei wneud i chi a'ch ymchwil.

YouTube Tîm Dyniaethau Digidol

Ein Gwasanaethau

Cyhoeddi Cyfnodolion Agored

Gall y tîm weithio gyda chi i gynorthwyo wrth gyhoeddi cyfnodolion academaidd, mewn cydweithrediad â gwasanaethau eraill y Llyfrgell i gefnogi awduron. Gan ddefnyddio OJS, platfform cyhoeddi cyfnodolion, gallwn gynorthwyo i greu a chynnal cyhoeddiadau academaidd mynediad agored, sy'n cael eu hadolygu gan gymheiriaid.

 

Omeka

Mae'r tîm yn cefnogi prosiectau gwe sy'n defnyddio Omeka, platfform lle gellir arddangos archifau, arddangosfeydd a phrosiectau ar-lein. Enghraifft o brosiect Omeka a reolir gan dîm y Dyniaethau Digidol yw'r prosiect Traethodau'r Canmlwyddiant .