Myfyrwyr mewn labordai

Mae academyddion Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf i gynnig y profiad addysgu gorau i’w myfyrwyr – tasg anodd gan fod rhan helaeth o’u hastudiaethau yn golygu gweithio gydag adnoddau mewn labordai ar gampws.

Mae myfyrwyr ar ddau fodiwl nawr yn elwa o adnoddau creadigol mae’r Coleg yn darparu gyda’r bwriad o ehangu ar addysgu ac asesu.

Danfonwyd Argraffwr 3D I fenthyg i gartrefi 70 o fyfyrwyr ar fodiwl Gweithgynhyrchu Digidol, sy’n caniatáu nhw i ymarfer datrys problemau a gwaith dylunio ar gyfer asesiadau. Mae darlithwyr ar fodiwl Integreiddio Data mewn Systemau Mecanyddol wedi hefyd gwneud pob ymdrech ar gyfer dros 220 o fyfyrwyr, gan greu pecyn technegol i ddanfon neu’u gasglu o gampws. Cynnwys y rhain oedd rheolydd meicro rhaglenadwy, synhwyrydd ac arweinyddion cysylltu, a fydd yn dysgu myfyrwyr am gipio data trwy synwyryddion digidol.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y prosiectau ysbrydoledig hyn.

10 Mehefin 2021.