Mae Prifysgol Abertawe ynghyd ag ymchwilwyr o’r Unol Daleithiau, Canada, Iwerddon, y DU, Seland Newydd, Norwy a’r Iseldiroedd yn cynnal arolwg byd-eang ar sut mae pobl yn ymdopi yn ystod pandemig Covid-19.

 

Mae ymbellhau corfforol a chyfyngu ar symudiadau fel rhan o fesurau iechyd cyhoeddus COVID-19 yn ei gwneud yn ofynnol i bobl newid eu bywydau gwaith, cartref a chymdeithasol. Amheuir bod mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Hoffem ddarganfod a yw hynny'n wir.

Mae’r arolwg ar-lein di-enw yma ar gyfer pobl oed 18+ ac mae’n cynnwys cwestiynau ar ddemograffeg, iechyd, ymddygiadau iechyd, unigrwydd, unigedd a phrofiadau personol o amgylch Covid-19. Ei nod yw helpu i ddeall sut mae pobl yn ymdopi yn ystod pandemig Covid-19 yn enwedig mewn perthynas ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Gall y data arolwg hwn gynnig mewnwelediadau amhrisiadwy i fywyd cyn ac yn ystod pandemig Covid-19, gan gynnwys yr heriau allweddol a wynebir a'r strategaethau ymdopi sy’n cael eu defnyddio. Bydd yn ein helpu i ddeall sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau, polisïau a gwasanaethau ar lefel gwlad a byd-eang a bydd yn allweddol i hysbysu cymdeithas yn y dyfodol.

Trwy weithio gydag arbenigwyr rhyngwladol a chasglu data ar lefel fyd-eang gallwn gyfuno arbenigedd a chefnogi llywodraethau a llunwyr polisi i wneud penderfyniadau i fynd i'r afael â heriau yn y maes hwn.

Pwy sy'n ymwneud â'r astudiaeth hon

Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Ulster, Coleg y Drindod Dulyn, Prifysgol Maynooth, Ysbyty St James’s Dulyn, Brunel, Coleg Boston, Prifysgol Columbia, Prifysgol George Mason.; Prifysgol Auckland a Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Nipissing; NORC ym Mhrifysgol Chicago; Prifysgol Brigham Young; Vrije Universiteit Amsterdam; Prifysgol California, San Francisco. (Cynhelir yr astudiaeth hon gan grŵp o ymchwilwyr academaidd rhyngwladol sy'n rhan o'r International Loneliness and Isolation research NetworK (I-LINK) 

Rhannu'r stori