Ym mis Gorffennaf 2019, cymerais i ran yn Ysgol Haf Peirianneg Prifysgol Abertawe, a dyma fy mhrofiad cyntaf o fywyd ar gampws prifysgol. O'r eiliad y gwnes i gyrraedd, cefais groeso gan staff a myfyrwyr cyfeillgar a wnaeth rannu eu profiadau o beirianneg ym mhrifysgol Abertawe â mi. Roedd fy amser yn yr Ysgol Haf yn cynnwys mynd i weithdai a gyflwynwyd gan amrywiaeth o staff y brifysgol a dod i adnabod myfyrwyr blwyddyn 12 eraill a oedd yn bwriadu astudio peirianneg yn y brifysgol. Heblaw am weld y cyfleusterau a oedd gan Abertawe i'w cynnig, cawson ni gyfle i fwynhau amser ar y traeth ac archwilio ardaloedd eraill o'r campws.
Yn ystod yr Ysgol Haf, aethon ni i sesiynau am ddisgyblaethau penodol a wnaeth fy helpu i ddeall y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng disgyblaethau peirianneg gwahanol. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol gan fy alluogi i benderfynu ar y math o beirianneg a fyddai'n addas i mi wrth gyflwyno cais am y brifysgol.
Yn ystod fy amser yn yr Ysgol Haf, ces i fy ysbrydoli i astudio am radd mewn peirianneg ac roeddwn i’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth gan y staff. Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y gweithdy peirianneg feddygol ac oherwydd y bobl cwrddais â nhw yn yr ysgol haf, roeddwn i’n gallu trefnu profiad gwaith yn y maes hwn, a gadarnhaodd mai dyma'r maes roeddwn i am ei astudio.
Bedair blynedd yn ddiweddarach, ac rwyf ar fin gorffen fy nghwrs ac yn gobeithio graddio yr haf hwn o Brifysgol Abertawe gyda BEng mewn Peirianneg Feddygol. Rwyf wedi dwlu ar fy amser yn Abertawe! Mae'n wych edrych yn ôl dros y pedair blynedd diwethaf, a sylweddoli cymaint dwi wedi’i ddysgu ers dod i'r Ysgol Haf Peirianneg. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n meddwl am gyflwyno cais i roi cynnig arni ac achub ar y cyfle!