MEng neu MSc?

Beth yw'r gwahaniaeth?

Llun o dop adeilad Peirianneg Ganolog ar gampws y Bae.

Os ydych chi am fod yn Beiriannydd, yna gallai gradd Meistr mewn Peirianneg eich helpu i gymhwyso ar lefel uwch.

Mae'r MEng a'r MSc ôl-raddedig yn raddau Meistr proffesiynol ym maes Peirianneg. Maent ar gael ar wahanol ffurfiau, ac fel arfer maent yn rhagofyniad er mwyn bod yn beiriannydd siartredig.

Darllenwch drwy'r canllawiau isod sy'n cynnig atebion i'r cwestiynau cyffredin am gymhwyster MEng ac MSc.

Os oes gennych ragor o gwestiynau, cysylltwch â ni drwy e-bostio engineering@abertawe.ac.uk.