Trosolwg
Mae EngD yn rhaglen lefel ddoethuriaeth amser llawn dros bedair blynedd. Mae'r cynllun pedair blynedd yn cynnwys modiwlau a addysgir a phrosiect ymchwil a arweinir gan ddiwydiant.
Prosiect ymchwil
Cynhelir y prosiect ymchwil fel partneriaeth rhwng y cwmni cydweithiol a Phrifysgol Abertawe. Mae'r prosiect ar sail problem beirianegol go iawn a chaiff ei diffinio gan y partner diwydiannol. Bydd y cynnwys yn heriol ac yn arloesol.
Fel Peiriannydd Ymchwil ar y rhaglen EngD, byddwch yn treulio o leiaf hanner eich amser gyda'r cwmni cydweithiol ar y prosiect ymchwil. Byddwch fel arfer yn dechrau'r prosiect ymchwil o fewn chwe mis ar ôl dechrau'r rhaglen EngD.
Ar ddiwedd y rhaglen EngD, cyflwynir traethawd ymchwil, sy'n dangos ymchwil wreiddiol a wna gyfraniad sylweddol at y maes pwnc, a chynhelir asesiad ar ffurf arholiad llafar.