Golygfa o'r gondolâu o'r awyr dros y ddinas a'r mynyddoedd

Mae dros 30 o Raddau Doethur ar y Cyd wedi'u datblygu trwy'r bartneriaeth strategol hyd yn hyn, ar draws meysydd pwnc eang gan gynnwys meddygaeth, gwyddoniaeth, peirianneg a'r gyfraith.

Bydd ymgeiswyr yn treulio 50% o'u hamser yn Abertawe ac yn Grenoble ac fe'u goruchwylir gan staff academaidd o'r ddwy brifysgol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gradd ddwbl o'r Université Grenoble Alpes a Phrifysgol Abertawe.

Mae niferoedd myfyrwyr wedi bod yn cynyddu yn gyson ers i'r bartneriaeth ddechrau yn 2013.

Llongyfarchiadau i Valeria Italia

Myfyriwr gradd doethur Grenoble-Abertawe am ei chynnig llwyddiannus 2019

Ymchwil fel celf

Myfyriwr gyntaf gradd doethur Grenoble-Abertawe yn ennill gwobr menywod mewn gwyddoniaeth L’Oreal-UNESCO

The L’Oreal-UNESCO award will enable Caroline to continue her research studies

Caroline Bissardon

Enillodd Caroline Bissardon, sef y myfyriwr cyntaf i raddio ar raglen gradd doethur Grenoble-Swansea ar y cyd, a wnaeth ymchwil i ‘Role of selenium in Articular cartilage Metabolism, Growth and Maturation’,  y wobr glodfawr Menywod mewn Gwyddoniaeth o L'Oreal-UNESCO, sy'n cydnabod cyflawniadau gwyddonwyr benywaidd ar draws y byd ac yn eu gwobrwyo gyda chymrodoriaethau i helpu datblygu eu hymchwil.

Caroline oedd yr ymgeisydd cyntaf i gwblhau ei gradd doethur ar y rhaglen gradd doethur o fri rhwng Grenoble ac Abertawe ac mae hi'n adrodd bod y radd doethur ar y cyd wedi bod yn gyfle ardderchog o ran bywyd ac addysg.

Gan gydweithio gyda Chanolfan Nanoiechyd Abertawe a labordy TIMC ym Mhrifysgol Grenoble-Alpes a'r cyfleuster Syncotron Grenoble sy'n flaenllaw yn y byd, gwnaeth yr ymchwil ystyried maes rhyngdisgyblaethol eang, gan ryngwynebu daeareg; bioleg; a bioffiseg, a dadansoddi pwysigrwydd seleniwm yn iechyd cartilag. Bydd gan y canlyniadau ymchwil hyn fanteision eang ym maes iechyd byd-eang, o ganlyniad i gyswllt achosol ddiet sy'n isel mewn seleniwm ar risg uwch o ddatblygu clefydau iechyd hir dymor.