Dechreuodd Partneriaeth Strategol Grenoble-Abertawe fel cydweithredu ym maes ymchwil, dan gefnogaeth Llysgenhadaeth Ffrainc a Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu cynghrair Ffrainc-Cymru ym meysydd nanowyddoniaeth, ynni a heneiddio.

Ers hynny mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi cydweithio gydag academyddion o Grenoble mewn ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial, Biowyddorau, Cyfrifiadureg, Peirianneg, Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Gyfraith, Meddygaeth, Mathemateg, Ffiseg, a Gwyddorau Chwaraeon.

Mae cydweithredu ar ymchwil yn parhau wrth raidd y bartneriaeth strategol gyda:

  • Rhaglenni cyson o ymweliadau â ffocws pendant iddynt, er mwyn cychwyn ac ymestyn y berthynas; a
  • Staff pwrpasol wedi'u cyflogi gan Abertawe a Grenoble i gynnig cefnogaeth wrth gychwyn prosiectau a chyda cyswllt rhyng-sefydliadol.
  • Dr Stuart Macdonald (Y Gyfraith a Chriminoleg, Abertawe) a Dr Bannelier-Christakis a'r Athro Christakis (CESICE Grenoble) yn cydweithredu ar ddefnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd a seiber-wyliadwriaeth.
  • Yr Athro Sinead Brophy (Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe), ymchwil Iechyd Data Mawr gyda Thierry Chevalier (IMAG/ Ysbyty Addysgu Grenoble).
  • Yr Athro Andrew Barron (Coleg Peirianneg, Abertawe): prosiect Y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) gydag Institut des Sciences de la Terre  (ISTerre ) (Grenoble)
  • Luca Borger (Coleg Gwyddoniaeth, Abertawe): prosiect astudiaethau alpaidd ar effaith newid hinsawdd gydag ISTerre a Chanolfan Genedlaethol Ymchwil Gwyddonol Ffrainc (CNRS).
Gondola image
Grenoble logo

O ganlyniad i hyn, mae cydweithredu academaidd aml-ddisgyblaethol wedi bod yn digwydd gydag phrif academyddion y byd yn cydweithio i gyfuno synergeddau ymchwil ac arbenigedd cyflenwol er mwyn darparu prosiectau ymchwil newydd, ceisiadau grant ar y cyd, rhwydweithiau academaidd newydd, cynadleddau ar y cyd, papurau cynadleddau a chyfnodolion a ysgrifennwyd ar y cyd. 

Mae cannoedd o academyddion wedi ymwneud â Phartneriaeth Strategol Grenoble-Abertawe gan arwain at ymchwil ar y cyd mewn nifer o feysydd pwnc. Mae enghreifftiau o'r rhain hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Yr Athro Tim Claypole (Coleg Peirianneg, Abertawe), cydweithrediad deunydd uwch ac argraffu a chaenu gyda PAGORA, Yr Athro Isabelle Desloges (sefydliad peirianneg Grenoble INP).