Roedd Dominica Khoo o Faleisia yn un o'r cyfranogwyr cyntaf yn rhaglen cyfnewid myfyrwyr Prifysgol Abertawe â Phrifysgol A&M Tecsas.

Ar ôl graddio yn 2015, bu Dominica'n astudio MRes mewn Nanodechnoleg yn Abertawe ac yna astudiaethau PhD ym Mhrifysgol Caerfaddon lle bu'n parhau i weithio gyda chyn-gydweithiwr o Calon Cardio Technology, cwmni pwmp y galon ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar fodelau 3D ac efelychiadau astudiaeth achos o bympiau'r galon masnachol â'r nod o helpu'r gymuned feddygol i ddeall yr hyn sy'n achosi haemolysis (niwed i gelloedd gwaed coch) mewn cleifion â chlefyd y galon.

Dominica yn rhoi ei chyflwyniad.

Yn 2018, derbyniodd Dominica rôl fel Peiriannydd Dadansoddi Mecanyddol gyda Dyson yn Kuala Lumpur, ac mae ei gwaith yn cynnwys dadansoddi cadernid strwythurol cynnyrch Dyson, diagnosis mowldio plastig, dadansoddi dirgryniadau motor a chyflwyno mewnwelediad technegol.

"Fy hoff agwedd ar fy ngwaith yw cyflwyno ein technolegau newydd i academyddion, arbenigwyr, perchnogion busnes a newyddiadurwyr ledled de-ddwyrain Asia. Er fy mod yn beiriannydd meddygol o ran fy ngradd, cefais wybodaeth sylfaenol gadarn mewn priodweddau deunyddiau, prosesau gweithgynhyrchu a sgiliau cyfrifiadol ac mae hyn oll wedi fy ngwneud yn beiriannydd cyflawn, gan fy alluogi i gyfrannu fy ngwybodaeth a'm profiad helaeth mewn agweddau gwahanol ar beirianneg."

"Gwnaeth fy semester yn Nhecsas fy ngwneud yn fwy cyfforddus yn addasu i amgylcheddau 'tramor'. Does dim ots ble dwi'n mynd, rwy'n teimlo'n gartrefol ar unwaith, gan fy mod yn teithio'n helaeth ar gyfer fy ngwaith. Mae wedi datblygu fy hyblygrwydd personol, fy ngallu i ddod i gyfaddawd, canolbwyntio a llwyddo drwy amserau heriol. Gwnes aeddfedu a datblygu fy sgiliau cymdeithasol, ac wynebu heriau y tu hwnt i'm rhwydwaith cymorth arferol a'm parth cysur.

"Ni fyddwn y person yr wyf heddiw heb arweiniad a chefnogaeth fy athrawon yn Abertawe..."

Ni fyddwn y person yr wyf heddiw heb arweiniad a chefnogaeth fy athrawon yn Abertawe a oedd bob amser yn hynod gefnogol ac yn llawn anogaeth o'm gyrfa academaidd.  Maen nhw wedi fy ysbrydoli gymaint ac rwy'n gobeithio eu bod nhw'n falch ohonaf i.

Dominica mewn gêm ym Mhrifysgol Texas A&M.