Arolwg cenedlaethol, statudol yw’r Arolwg Deilliannau Graddedigion, a reolir gan Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Dyma’r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU ac mae’n cynnwys gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion. Yn syml, dyma eich cyfle i fod yn rhan o’r darlun mawr ym maes addysg!

Mae’n debygol bod gennych lawer o gwestiynau am yr arolwg, felly rydym yn gobeithio y bydd yr adran Cwestiynau Cyffredin isod yn ddefnyddiol i chi:

Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn storio ac yn diogelu’r data rydych yn ei rannu gyda ni.