"Dim dyfarnwr, dim gêm" - geiriau sy'n cael eu dweud yn aml gan nifer o hyfforddwyr, chwaraewyr a chefnogwyr rygbi. Serch hynny, nid yw hyn yn ein hatal 'ni' rhag mynegi ein hanfodlonrwydd gyda phenderfyniad diweddaraf y dyfarnwr.

Gan fabwysiadu ymagwedd wedi'i llywio gan athroniaeth a thynnu ar ymchwil Collins (2010), bydd Neil yn archwilio'r rôl unigryw a heriol hon, gan amlygu awdurdod ontolegol a braint epistemolegol y dyfarnwr.

Trafodir y cydbwysedd rhwng cyfiawnder/tegwch ac estheteg y gêm mewn perthynas â chysyniad 'sofanism' - yr arbenigwyr hollweledol, hollwybodus hynny sy'n dyfarnu'r gêm o'u cadeiriau breichiau.

Mae'r ddarlith gryno hon yn archwilio natur rygbi'r undeb a dyfarnu gemau rygbi. Yn ymuno â Neil bydd un o Gymrodorion er Anrhydedd y Brifysgol, Nigel Owens, y dyfarnwr sydd wedi dyfarnu'r nifer uchaf o gemau rhyngwladol yn y byd, a’r 'difyrrwr' a fydd yn rhannu ei brofiadau am sut i sicrhau trefn a 'llif' ac yn ateb eich cwestiynau!

Mae Nigel wedi bod yn ddyfarnwr elît ers dau ddegawd ac wedi dyfarnu cynifer o gemau pwysig a chofiadwy, gan gynnwys gêm derfynol Cwpan y Byd 2015 a nifer mawr o gemau terfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her Undeb Rygbi Cymru. 

 

Bywgraffiad - Dr Neil Hennessy

Llun o Dr Neil Hennessy.

Dr Neil Hennessy yw'r Prif Ddarlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Iechyd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Ar ôl graddio â BA (Anrh.) mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe, astudiodd am TAR lefel Gynradd yng Ngholeg Homerton, Prifysgol Caergrawnt. Dychwelodd i Abertawe i astudio am MPhil mewn Seicoleg Chwaraeon cyn cwblhau ei astudiaethau Lefel 7 yn UWIC, gan ennill MSc mewn Gwyddor Hyfforddi. Dyfarnodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ysgoloriaeth PhD i Neil ac enillodd ei Ddoethuriaeth mewn addysgeg ac athroniaeth chwaraeon yn 2014.

Yn dilyn cyfnod byr yn chwarae rygbi proffesiynol, dechreuodd Neil ddyfarnu mewn gemau ac roedd yn un o swyddogion elît diwrnod gêm a TMO Undeb Rygbi Cymru am dros ddegawd. Fel dyfarnwr, bu Neil yn gweithio'n agos gyda charfan hŷn a charfannau ar sail oedran cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru, gan ddarparu cymorth a dadansoddiad technegol. Mae ei ymchwil i ddatblygu cyfannol mewn rygbi wedi cael ei chynnwys yn rhaglen addysg i hyfforddwyr Undeb Rygbi Cymru. ​​

Mae diddordebau academaidd Neil yn cynnwys dwyieithrwydd, hyfforddi, dyfarnu, addysgeg, ac athroniaeth a moeseg chwaraeon.