Gyda'r Athro Rory Wilson, Athro Bioleg Ddyfrol/Dyframaeth Gynaliadwy, Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe

Ymunwch â'r Athro Rory Wilson, arwr cadwraeth, ar Ddiwrnod Pengwiniaid y Byd wrth iddo rannu cyfrinachau am rai o alluoedd rhyfeddol pengwiniaid!  Yr Athro Wilson yw arbenigwr mwyaf blaenllaw'r byd ym maes symudiad anifeiliaid ac mae’n rhan o dîm unigryw ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi gwneud gwaith arloesol ym maes tagio anifeiliaid er mwyn dysgu mwy am ymddygiadau anifeiliaid a oedd yn guddiedig gynt.

 

Bywgraffiad - Yr Athro Rory Wilson

Llun o'r Athro Rory Wilson.

Mae Rory Wilson yn Athro Bioleg Ddyfrol a Dyframaeth Gynaliadwy yn Adran y Biowyddorau, Prifysgol Abertawe.

Mae’n ymchwilydd o fri rhyngwladol ym maes ecoleg anifeiliaid. Mae ei ymchwil yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn sut mae anifeiliaid gwyllt yn addasu eu costau o ran egni ar gyfer gweithgareddau, yn enwedig sut maent yn rheoli eu hamser a'u hegni yn y ffordd fwyaf effeithiol wrth chwilio am fwyd.

Mae'r rhan fwyaf o'i ymchwil yn canolbwyntio ar adar môr, yn enwedig pengwiniaid, ond mae hefyd yn astudio anifeiliaid y môr, crwbanod a physgod a mamaliaid sy'n byw ar dir ac mewn coed. Mae wedi cyhoeddi dros 250 o bapurau gwyddonol, gan gynnwys nifer yn y cyfnodolion Nature a Science.

Enillodd yr Athro Wilson, wobr o fri Rolex am Fenter Ymchwil yn 2006 am ei waith yn datblygu tagiau electronig i gofnodi symudiad ac ymddygiad mewn mwy o fanylder nag erioed o'r blaen. Mae ei dag Dyddiadur Dyddiol wedi chwyldroi olrhain anifeiliaid ac mae bellach yn cael ei werthu'n fasnachol.

Derbyniodd ei raddau BA ac MA gan Brifysgol Rhydychen a'i PhD gan Brifysgol Cape Town.

Mae Rory yn arbenigwr ar bengwiniaid ac yn aml yn cael ei dorri ar draws gennynt!