YMGYRCH DRM 2022

Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2022. Rhwng Mawrth 7 a 12 mae gennym amrywiaeth ddigwyddiadau mewn person a rhithwir, sgyrsiau agored rhyngweithiol, cyfleoedd mentora a gweithdai ymgysylltiol gyda’r nod o ddathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol menywod yng nghymuned ehangach Prifysgol Abertawe.   

Bydd y gyfres hon o ddigwyddiadau’n codi arian at Ysgoloriaeth Eira Francis Davies a ddyfernir i un fyfyrwraig neilltuol sy’n wladolyn ac yn breswylydd o wlad gymwys sy’n datblygu i astudio ar raglen gradd Meistr ôl-raddedig a addysgir yng Nghyfadran y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe.

Rhowch Rodd

Digwyddiadau sydd ar agor i bawb’

Menywod mewn Technoleg Gyfreithiol

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, bydd Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru yn croesawu panel amlddisgyblaethol o fenywod academaidd a fydd yn rhannu straeon eu gyrfaoedd a'u profiadau ym maes Technoleg Gyfreithiol.

Bydd y panel yn trafod eu teithiau, eu huchelgeisiau, yn rhoi cyngor ac yn gwahodd cwestiynau gan y gynulleidfa o fyfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd.

Archebwch eich lle

Gyda Dr Kate Evans ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Ymunwch â Dr Kate Evans ar ei thaith bersonol; o'r myfyriwr graddedig o Brifysgol Abertawe a aeth i achub yr eliffant Affricanaidd, i Sefydlu'r elusen Elephants for Africa. Bydd yn ein tywys ar ei hanturiaethau, gan ddechrau gydag addewid a wnaeth i eliffant pan oedd hi'n 7 mlwydd oed. 

Cadwch Le Nawr

Profiadau Merched mewn Meddygaeth yn ystod y Pandemig

Bydd Yr Athro Angharad Puw Davies sy'n arbenigwraig ar afiechydon heintus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn arwain sgwrs ddifyr rhwng Yr Athro Gwyneth Davies, Ymgynghorydd Resbiradol a Dirprwy Bennaeth Clinigol yr Ysgol Feddygaeth, Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ac Arweinydd Dysgu Cymunedol y Cwrs Meddygaeth i Raddedigion, a Shannon Rowlands, myfyrwraig yn ei blwyddyn olaf o'r cwrs Meddygaeth i Raddedigion. 

Gwyliwch Yma

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – Digwyddiad Dysgu dros Ginio

Ymunwch ag Emma Howells-Davies a Karen Roberts o’r tîm Iechyd a Lles wrth iddynt drafod y canfyddiadau o fenywod yn y gweithle dros amser, gan arwain at weithdy am arferion iach i alluogi menywod i ffynnu yn y gweithle. Croeso i bawb!

 

Tocynnau ar gael yma

Dathliad o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr ôl-raddedig sy’n ysgrifenwyr

O 9am ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod , ymunwch â ni wrth i ni ddathlu gweithiau beirdd a nofelwyr o blith cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr ôl-raddedig yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Cyflwynir gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe. 

Gwyliwch yma

Digwyddiadau sy'n agored i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig

CHWALU’R DUEDD – YN Y GORFFENNOL, Y PRESENNOL A’R DYFODOL

8 Mawrth 11am-1pm

Pump menyw gyda dwylo wedi croeso o flaen ei corff

CHWALU’R DUEDD – YN Y GORFFENNOL, Y PRESENNOL A’R DYFODOL

Dyma gyfle heb-ei-ail i glywed gan yr Athro Emeritws Joy Merrell a'r Athro Emeritws Diane Kelly ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched wrth iddynt drafod "Chwalu’r duedd – yn y –Gorffennol y Presennol a’r Dyfodol". Rhyngddynt byddant yn defnyddio cyfoeth o wybodaeth, arbenigedd a phrofiad o ran hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yn y sector addysg uwch. Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig

Archebwch eich lle

DATHLU LLENYDDIAETH MENYWOD

Drwy gydol yr wythnos

Llyfr gyda dalennod enfys

DATHLU LLENYDDIAETH MENYWOD

Arddangosfa lyfrau Diwrnod Rhyngwladol y Merched ‘Chwalu’r Duedd’ sy'n arddangos menywod sydd wedi ysgrifennu barddoniaeth, straeon byrion a rhyddiaith sy'n ceisio goresgyn rhagfarn a gwahaniaethu gyda bywgraffiadau byrion. Bydd rhestr ddarllen y llyfrau yn ein llyfrgelloedd yn cynnwys awduron benywaidd sydd wedi chwalu’r duedd, ynghyd â phost blog. Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig Am wybodaeth cysylltwch â k.m.jones@swansea.ac.uk 

Rhestr ddarllen

Y MENYWOD RHYNGWLADOL A'N GWNAETH NI - TRAFODAETH BANEL

Ymunwch â Natalie Evans a Naomi Talling o ‘Everyday Racism’ ynghyd â Charlie Ajomal-Evans a Karen Roberts o Brifysgol Abertawe wrth iddynt daflu goleuni ar fenywod sy'n aml yn cael eu hanwybyddu . Bydd y panelwyr yn archwilio gwerth eu cyfraniadau, eu haberth a'u gwirioneddau. Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig

Archebwch yma

Her 'Geo Cache' Campws y Bae

7 -11 Mawrth

Campws Bae o'r awyr

Ymunwch â'r antur

Dewiswch eich tîm a chasglwch eich map a'ch cliwiau o dderbynfa’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Llywiwch eich ffordd o amgylch y campws yn profi eich gwybodaeth am Fenywod mewn Gwyddoniaeth wrth i chi fynd. Cyflwynwch eich atebion ar-lein i gael y lleoliad terfynol a chwblhau tasg derfynol!

Cymerwch hunlun yn eich cyrchfan a chrewch eich datganiad ysbrydoledig eich hun am gyfle i ennill!

Ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn unig

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Casey Hopkins 

Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Rhagfarn Ddiarwybod

Grwp of menywod yn tynnu 'selfie'

HYFFORDDIANT CYDRADDOLDEB AC AMRYWIAETH A RHAGFARN DDIARWYBOD

Dylai pob aelod staff fod wedi cwblhau'r modiwlau hyfforddiant ar-lein ynghylch Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Rhagfarn Ddiarwybod. Os nad ydych chi wedi cwblhau un o'r modiwlau hyn, neu'r ddau ohonynt, ewch i Canvas Statutory and Essential Training (i'w cwblhau (allwch chi ddim gael mynediad drwy Internet Explorer, felly defnyddiwch borwr arall megis Google Chrome). Os oes gennych ymholiadau ynghylch yr hyfforddiant, e-bostiwch equalopportunities@abertawe.ac.uk.